Mae gan Llanelwy boblogaeth o tua 3,000 ac mae bob amser wedi ystyried ei hun yn ddinas, ond ni wnaeth gweddill Prydain sylweddoli nes i’r Frenhines roi anrhydedd ddinesig iddi yn ystod ei Jiwbili Diamwnt. Mae wedi bod yn lle pwysig ers canol y chweched ganrif pan sefydlodd offeiriad o’r Alban, Sant Cyndeyrn, fynachlog yma. Diolch i’w leoliad ar y prif lwybr goresgyn i Ogledd Cymru, mae wastad wedi bod yng nghanolbwynt pethau – ac nid yw bob amser wedi dianc heb ddifrod. O’r eglwys gadeiriol hardd ond bychan, a losgwyd gan Owain Glyndŵr, mae llwybr yn rhedeg i lawr y rhiw ar hyd y Stryd Fawr a heibio i’r eglwys ganoloesol i ddilyn banciau coediog yr Afon Elwy.

St Asaph Cathedral Inside
Tu fewn Eglwys Gadeiriol Llanelwy

Efallai bod y gadeirlan ymysg y lleiaf ym Mhrydain, ond gallwch weld y tŵr bylchfur a’r clytwaith calchfaen melyn a thywodfaen piws o filltiroedd i ffwrdd. Mae wrth galon Llanelwy, yn llythrennol ac yn drosiadol. Ac mae wrth galon diwylliant Cymru hefyd – yn gartref i’r Beibl Cymraeg cyntaf, a gŵyl gerddoriaeth rhyngwladol. Ar Ffordd Pererinion Gogledd Cymru rhwng Treffynnon ac Ynys Enlli, mae hyd yn oed yn darparu porth at y “tirweddau ysbrydoledig” o amgylch y ddinas. Bydd canolbwynt digidol y tu mewn i’r eglwys gadeiriol yn rhoi mwy o wybodaeth i chi.