Mae’r man hwn, ger rhyd yr Afon Clwyd, dair milltir o’r môr, wedi bod yn fflachbwynt yn hanes Cymru ers 795OC. Efallai bod llawer iawn o amser wedi pasio ers i’r Cymry gael eu trechu mor greulon gan y Sacsoniaid, ond mae’r galarnad “Morfa Rhuddlan” yn dal i gael ei chanu hyd heddiw. Efallai ei fod wedi bod yn symbol o orthrwm ar un adeg. Ond y dyddiau hyn, mae Rhuddlan yn falch iawn o’i chastell.

Mae gan Rhuddlan tirlun hyfryd, sydd yn galleuogi i’w ymwelwyr mynd ar antur ei hunian ar y llwybrau cyhoeddus sydd yn mynd a pobl o gwmpas yr ardal hardd yma. Hefyd mae’n cyfle i ymwelwyr tynnu lluniau o’i amser yn Sir Ddinbych mewn amgylchedd hyfryd ac llawn bywyd. Mae yna cyfle i cymryd rhywbeth i gofio hefyd gyda llawer o siopau lleol i prynu tlws neu atgoff o eich amser yn y dref hanesyddol.

Rhuddlan
Castell Rhuddlan

Yn dal i lywodraethu’n drawiadol dros y dref a’r afon, roedd yn rhan o’r gadwyn o gaerau a grëwyd gan Edward I ar hyd arfordir Gogledd Cymru – rhaglen adeiladu mwyaf uchelgeisiol Ewrop. Mae Rhuddlan yn ganolog i hanes Cymru. Yma, yn 1284, gosododd Edward y gyfraith ar gyfer y 250 mlynedd nesaf. Ac yma cyflwynodd ei fab i fonedd Cymru fel y “Tywysog Cymru” Saesneg cyntaf. Gallwch ddringo i fyny twmpath Normanaidd, rhyfeddu at un o gaerau carreg gorau Cymru a gweld eglwys sy’n 700 oed. Gallwch grwydro strydoedd canoloesol sydd heb newid ers dyddiau Edward I. Ac os byddwch yn ymestyn eich taith gerdded ychydig ymhellach, at gronfa natur y dref, mae siawns fechan y byddwch yn gweld dyfrgi.