Arddangosfa Grayson Perry

Cymeriad ffuglennol a grëwyd gan Grayson Perry yw Julie Cope – dynes gyffredin o Essex y mae’n adrodd ei hanes drwy ddau dapestri graddfa fawr a baled estynedig a gyflwynir yn yr arddangosfa.

Mae’r ddau dapestri yn darlunio elfennau allweddol taith yr arwres o’i geni yn ystod llifogydd Canvey Island ym 1953 hyd at ei marwolaeth annhymig mewn damwain drasig ar stryd yn Colchester.

Mae’r ddau dapestri sy’n cynnig cyfoeth o fanylion diwylliannol a phensaernïol, yn cynnwys hanes cymdeithasol Essex a Phrydain fodern y gall pawb ymwneud ag o. Dangosir y ddau dapestri wrth ochr gosodiad graffeg, a recordiad sain a gomisiynwyd yn arbennig o Faled Julie Cope, naratif 3000 o eiriau a ysgrifennwyd ac a ddarllenir gan Perry ei hun sy’n amlinellu gobeithion ac ofnau Julie ar ei thaith drwy fywyd.

Sgorio ac ysgrifennu adolygiad

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Recently Added