Cerdded yn Sir Ddinbych

Mae Sir Ddinbych yn lle gwych i ddod â’ch esgidiau cerdded ac ysbienddrych. Mae’n berffaith ar gyfer pob math arall o wylio natur, a bydd y golygfeydd yn mynd a’ch gwynt.
Mae’r dirwedd yn hynod amrywiol, felly gallwch fwynhau tro bach tawel neu deithiau cerdded heriol ar y bryniau, yn dibynnu ar lefel eich ffitrwydd neu eich hwyliau. Fe welwch lwybrau cenedlaethol, llwybrau pellter hir, traciau llinol, teithiau cerdded arfordirol, a llwybrau tref.
Mae gan Sir Ddinbych rai o’r teithiau cerdded mwyaf difyr a gwyllt yn y wlad. P’un a’ch bod eisiau llwybrau arfordirol neu goedwigaeth, mae rhywbeth i bawb, pan ddaw i deithiau cerdded yng Ngogledd Cymru. Mae heicio yn ymarfer corff gwych, effaith isel, ac mae’n addas ar gyfer pobl o bob oed, felly gallwch chi ddod â’r teulu cyfan hefyd!
Prydferth. Ac mae hynny’n swyddogol.
Ardaloedd mawr ac agored, awyr iach glân, milltiroedd o lwybrau a digon o lefydd i feicio a gyrru oddi ar y ffordd sy’n gwneud Bryniau Clwyd yn un o’r mannau gorau ym Mhrydain i ymweld ag o ar droed. Mae’r gadwyn o fryniau’n rhedeg i’r de o Brestatyn i fwlch Nant y Garth; ac o Ddyffryn Clwyd tua’r dwyrain i Aber Afon Dyfrdwy, sy’n cynnwys dim llai na 390 cilomedr sgwâr gyda’i gymysgedd gwych o rostir agored grug, calchfaen creigiog, teithiau cerdded coetiroedd a thir fferm gwyrdd ffrwythlon.
Golygfeydd godidog i bob cyfeiriad ac yn syfrdanol o ran ei hun, fyddwch chi ddim yn synnu clywed bod Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gyda’i gilydd wedi cael eu dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, un o ddim ond pump yng Nghymru gyfan.
Mae pob cam yn nodi antur newydd yma
Mae Moel Famau, pwynt uchaf Bryniau Clwyd yn llythrennol, yn lle da i ddechrau crwydro. Gyda Thŵr y Jiwbilî eiconig Sioraidd ar y copa mae’n hawdd i’w weld, ac ar ôl ychydig o waith caled i’w gyrraedd, eich gwobr fydd golygfeydd panoramig anhygoel ar draws Glannau Merswy, yr arfordir, Eryri a Dyffryn Dyfrdwy. Cadwch eich llygad ar agor am y trigolion lleol; dim ond dau o’r rhywogaethau sy’n teimlo’n gartrefol ar y rhostir grug agored yw’r ehedydd a’r rugiar ddu brin.
Dilyn olion troed hynafol
Gyda’i chadwyn unigryw o Gaerau 2,500 o flynyddoedd oed o Oes yr Haearn, mae Bryniau Clwyd yn ffantasi a wireddwyd i unrhyw archeolegydd. Mae’n un o dirweddau hanesyddol pwysicaf Cymru gydag un o’r crynoadau uchaf o fryngaerau o Oes yr Haearn yn Ewrop, ond nid oes rhaid i chi fod yn aelod o ‘Time Team’ i’w gwerthfawrogi.
Maen nhw’n cynnig llawn cymaint o hwyl i gerddwyr ag i’r haneswyr, felly gallwch chi ddilyn ôl troed ein hynafiaid mewn mwy nag un ffordd. Rhai o uchafbwyntiau o ran Bryngaerau yw safleoedd tai crwn Penycloddiau; rhagfuriau a ffosydd ar Foel Arthur a Moel Fenlli; a golygfeydd trawiadol dros Ddyffryn Dyfrdwy o Gaer Drewyn. Rhowch gynnig ar un o’r nifer o lwybrau clywedol sydd ar gael fel rhan o brosiect y Grug a’r Caerau, neu dilynwch eich trywydd eich hun.

Estynnwch eich coesau, fel y Sacsonaidd
Prestatyn oedd y dref gyntaf yng Nghymru i ennill statws ‘Croeso i Gerddwyr’, does ryfedd bod cerdded yn fusnes pwysig ym Mhrestatyn. P’un a ydych yn cyrraedd ar droed neu newydd ddechrau eich taith, mae’r teithiau cerdded yma’n arbennig o dda pa bynnag ffordd yr ewch o’i chwmpas hi.
Mae Llwybr Gogledd Cymru yn cychwyn ar daith 60 milltir tua’r gorllewin i Fangor yma, ac mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn cychwyn ei thaith 177 milltir i Gas-gwent yma hefyd. Dilynwch drywydd rhwydd Llwybr yr Arfordir, neu drywydd ychydig anoddach Llwybr Clawdd Offa, a nodir ei fan cychwyn (neu orffen) gyda golygfeydd eithriadol ar draws yr arfordir a Môr Iwerddon a thuag at Eryri yng ngolygfan Gwaenysgor.
Gellir rhannu pob llwybr yn adrannau llai i’w goresgyn mewn dim ond ychydig oriau, neu gallwch ddal i gerdded yn dibynnu ar eich hwyliau. Ar y llaw arall, os ydych eisiau taith gerdded gyflym, rhowch gynnig ar un o’r nifer o lwybrau cylchol a llinellol byrrach o gwmpas y dref. Bob blwyddyn mae miloedd o gerddwyr yn troedio Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa ac mae’n cynnwys golygfeydd prydferth o Ogledd Ddwyrain Cymru gan gynnwys Eglwyseg yn Llangollen, bryngaerau’r Oes Haearn a Moel Famau. Mae’n hawdd ei gyrraedd ar hyd y ffordd felly gallwch chi gerdded cyn lleied neu gymaint ohono ag y dymunwch.

Ar Bererindod
Mae’r llwybr troed pellter hir hwn drwy gefn gwlad yn cysylltu mannau o ddiddordeb crefyddol hanesyddol ac yn dilyn yn fras llwybr hynafol y pererinion o Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon i Ynys Enlli oddi ar arfordir Pen Llŷn. Mae’n rhyw 240 cilomedr o hyd at ei gilydd, a dim ond tri o’r uchafbwyntiau ar y ffordd drwy Sir y Fflint a Sir Ddinbych yw Llanasa, Tremeirchion ac Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
www.pilgrims-way-north-wales.org
Llwybr Dyffryn Dyfrdwy. Mae’r llwybr cerdded 15 milltir hwn a arwyddwyd yn mynd â chi o Gorwen i Langollen, neu’r ffordd arall os yw’n well gennych. Gyda golygfeydd godidog i bob cyfeiriad, rhai o’r uchafbwyntiau yw bryngaer Caer Drewyn, pentrefi Carrog a Glyndyfrdwy, Mynyddoedd Llantysilio, eglwys Llantysilio a Rhaeadr y Bedol Telford. I gael rhywbeth ychydig yn fyrrach, dewiswch adran a dechrau cerdded. Swnio’n ormod o waith caled? Neidiwch ar drên stêm neu gwch camlas wedi ei dynnu gan geffyl a rhoi eich traed i fyny.
Llwybr Gogledd y Berwyn. Mae Llwybr Gogledd y Berwyn, taith arall 15 milltir o hyd, yn cyrraedd mynyddoedd gwyllt Gogledd y Berwyn. Wedi’i boblogi’n bennaf gan rug, gallwch chi wir ddianc rhag popeth trwy sgramblo neu gerdded i’r copaon uchaf. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn osgoi’r rhostir hardd hwn mewn ymgais i gyrraedd yr Wyddfa. Dyma un o ardaloedd lleiaf poblog Prydain, ac felly mae’n un o’r anialdiroedd olaf, gwirioneddol sydd ar ôl yn y wlad hon. O’r cribau, gallwch weld dyffrynnoedd siâp u. Dyma lle’r arferai rhewlifoedd Oes yr Iâ eistedd yn nhirwedd Cymru, filoedd o flynyddoedd yn ôl.
Llwybr Brenig. Mae’r llwybr 32 milltir o hyd hwn yn eich arwain at rai o lwybrau tawelaf a mwyaf anghysbell Sir Ddinbych. Byddwch yn crwydro drwy goetir bendigedig, yn dilyn ffyrdd hynafol y porthmyn a’r hen gyfeirbwyntiau. Drwy Goedwig Clocaenog, eich gwobr fydd golygfeydd syfrdanol o Fryniau Clwyd a Chyffylliog. Mae’r llwybr wedyn yn mynd â chi i’r gladdfa o’r Oes Efydd a amgylchynir gan garneddau defodol. Wrth fynd heibio i argae Llyn Brenig, y gyrchfan nesaf yw’r Ganolfan Ymwelwyr, lle gallwch gael paned haeddiannol iawn a thamaid i’w fwyta.

Ond.. nid oes rhaid i archebu wythnos i ffwrdd o’r gwaith a threulio dyddiau’n heicio i werthfawrogi’r hyn sydd o’ch cwmpas. Mae Milltiroedd Cymunedol Sir Ddinbych yn gasgliad o deithiau cerdded byr wedi’u harwyddo ac ond yn cymryd awr neu ychydig yn hirach os ydych yn dymuno. Er eu bod yn llai heriol nac eraill, maent yn dal i arddangos ein darnau gorau a gallwch roi cynnig ar deithiau mewn mynyddoedd, dyffrynnoedd, coetiroedd, glannau afonydd neu leoliad arfordirol. Fel arall mae llawer o deithiau cylchol, byrrach o amgylch ein rhostiroedd, coedwigoedd, a pharciau gwledig, llawer wedi eu cysylltu gan y gwasanaeth bysiau lleol.

Sgorio ac ysgrifennu adolygiad

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Recently Added