Coed Llandegla
Taith Chwedlonol #11Mae Coed Llandegla yn 650 hectar o antur epig sy’n aros amdanoch. Ond chi sy’n cael dewis yn union pa mor epig y mae am fod.
O’r ganolfan ymwelwyr gyda’i gaffi sydd wedi ennill gwobrau, gallwch gychwyn ar daith gerdded gyda’r teulu, fel y Llwybr Grugieir Duon dwy filltir neu reidio beic yn hamddenol o amgylch y gronfa ddŵr. Gallwch hyd yn oed farchogaeth ar hyd y llwybrau ceffylau.
Ond os ydych yn hoff o adrenalin, gallwch roi cynnig ar rai o’r llwybrau beicio mynydd gorau a wnaed gan ddyn yn y DU gyda llwybrau ar gyfer pob gallu, o wyrdd i ddu – ac ardal sgiliau pwrpasol fel y gallwch roi cynnig ar y rhwystrau cyn ymrwymo.
Os hoffech wthio eich hun, archebwch sesiwn “neidio a chwympo” gyda’r arbenigwr beicio mynydd Al Bond, a dysgwch sut i fynd i’r awyr â hyder ar eich beic. Dylai fod yn daith fythgofiadwy.
Dechrau: Canolfan Ymwelwyr ‘Oneplanet Adventure’, Llandegla LL11 3AA