Llwybr Bwyd Bryniau Clwyd

Teithiwch drwy brydferthwch Bryniau Clwyd, lle y gallwch roi cynnig ar bopeth o gaws i siocled, paté i basteiod, yn ogystal â diferyn o seidr lleol i’w golchi i lawr. Mae’r daith gastronomig hon o Fryniau Clwyd yn mynd â chi trwy rai o’r golygfeydd mwyaf trawiadol yng Nghymru wrth i chi gael blas ar gyflawniadau’r cynhyrchwyr lleol gwobredig sy’n tyfu neu’n gwneud eu bwyd blasus yma. Gyda chaffi’n gweini bwyd blasus o gynhwysion lleol, dwy siop fferm yn gwerthu detholiad o oreuon y cnwd, dau gigydd, delicatessen, dwy siop fara a chwech o gynhyrchwyr arbenigol, mae mwy na digon i fodloni hyd yn oed y dilynwyr bwyd mwyaf newynog.

Sgorio ac ysgrifennu adolygiad

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Recently Added