Parc Drifft

Mae cyffro mawr ym Mharc Drifft y Rhyl, a’ch problem fwyaf yw ble i ddechrau. Wnewch chi ddewis treulio’r diwrnod yn llogi cadair gynfas a gwylio’r plant yn y llecyn chwarae dŵr gyda phwll padlo, jetiau dŵr a’r ffynhonnau, neu eu blino yn y golff mini a lle chwarae plant, neu efallai dim ond eistedd a mwynhau yn y theatr awyr agored. Mwynhewch y tirlunio trawiadol sy’n cynnwys cerfluniau, celf a strwythurau wedi’u gwneud o bren Purple Heart, copr a llechi, gan ennill Gwobr yr Ymddiriedolaeth Ddinesig i’r parc. A’r peth gorau un, mae’r cyfan AM DDIM!

Sgorio ac ysgrifennu adolygiad

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Recently Added