Dyfrbont Pontcysyllte

Rhan o Safle Threftadaeth y Byd UNESCO Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, mae’r campwaith peirianyddol hwn yn sefyll 126 troedfedd o uchder, ac yn cario camlas Llangollen dros Afon Dyfrdwy.

Gallwch groesi ar droed neu ar gwch – ond cofiwch eich camera, mae’r golygfeydd yn wych!

Ffeithiau am Bontcysyllte

  • Mae Pontcysyllte yn golygu ‘y bont sy’n cysylltu’
  • Mae 18 o bileri 126 troedfedd o uchder a 19 o fwâu pob un â rhychwant 45 troedfedd
  • I gadw’r draphont ddŵr mor ysgafn ag y bo modd, mae’r pileri cerrig main yn rhannol wag ac yn meinhau ar eu rhan uchaf
  • Mae’r morter wedi’i wneud o waed ychen, calch a dŵr
  • Mae’r draphont ddŵr yn dal 1.5 miliwn litr o ddŵr ac yn cymryd dwy awr i ddraenio
  • Mae’r strwythur yn 1007 troedfedd o hyd, gydag Afon Dyfrdwy yn rhedeg oddi dani
  • Gwnaed y gwaith gan Thomas Telford ac fe’i oruchwyliwyd gan beiriannydd camlesi mwy profiadol William Jessop
  • Cafodd y garreg gyntaf ei gosod ym mis Gorffennaf 1795 ac fe’i hagorwyd ym mis Tachwedd 1805
  • Hon yw’r gamlas uchaf a hiraf y mae posibl ei mordwyo ym Mhrydain
  • Mae’r cafn haearn yn mesur 11 troedfedd 10 modfedd o led a 5 troedfedd 3 modfedd o ddyfnder
  • Mae dŵr yn bwydo i’r draphont a’r gamlas o Afon Dyfrdwy yn Rhaeadr y Bedol ger Llangollen

Sgorio ac ysgrifennu adolygiad

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Trevor Rd, Chirk, Wrexham LL14 5HE, UK
Cael Cyfeiriadau

Recently Added