Archwilio Sir Ddinbych

 

Mae Sir Ddinbych yn ardal glòs a hawdd ei chyrraedd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru sy’n gallu cynnig nifer o brofiadau anhygoel. Mae Sir Ddinbych yn gyrchfan unigryw gyda chefn gwlad prydferth, trefi marchnad prysur, dau o gyrchfannau glan môr mwyaf adnabyddus Prydain a chanrifoedd lawer o drefttadaeth gyfoethog.



ruthin-650pxRhuthun

Daw’r enw Rhuthun o’r geiriau ‘rhudd’ (coch) a ‘din’ (caer) ac mae’n cyfeirio at liw’r tywodfaen coch sy’n ffurfio sail ddaearegol yr ardal, y cafodd y castell ei adeiladu ohono fel safle strategol i edrych allan dros yr afon Clwyd rhwng 1277 ac 1284.

Mae gan Ruthun hanes bywiog a diddorol – sydd wedi darparu treftadaeth bensaernïol gyfoethog ac mae tua 200 o adeiladau cofrestredig yn ardal Rhuthun, a’r rhan fwyaf o’r rheiny yn y dref ei hun. Mae’r dref yn nefoedd i haneswyr, gyda digon i’w cyffroi. Lle bu unwaith ‘dafarn ar gyfer pob wythnos o’r flwyddyn’, mae llai o dafarndai yn Rhuthun bellach. Mae digon o lefydd yno i gal tamaid i’w fwyta os hoffech adael i rywun arall goginio, ac mae siop delicatessen arobryn yn llawn cynhwysion bendigedig os hoffech goginio eich hun. Mae nifer o nodweddion amlwg eraill yn y dref, o amgylch Sgwâr San Pedr, gan gynnwys tŵr cloc Fictorianaidd, Eglwys Blwyf San Pedr o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, a’r Hen Lys o’r bymthegfed ganrif; lleoliad carchar gwreiddiol Rhuthun cyn i’w olynydd mwy enwog gael ei sefydlu.



st_asaph-650pxLlanelwy

Lleolir Llanelwy ar lannau dwy afon ac roedd ar ganol llwybr rhyfeloedd canoloesol Tywysogion Cymru a Brenhinoedd Lloegr, dinas Llanelwy yw cartref cadeirlan hynafol leiaf Cymru a Lloegr. Dechreuwyd ar waith adeiladu’r gadeirlan oddeutu 1239, ac fe’i llosgwyd gan Edward I, fe’i hadferwyd, a’i llosgi eto gan Owain Glyndŵr yn 1402. Diolch i benderfyniad seiri maen lleol a gwaith ail fodelu trylwyr y pensaer Fictorianaidd George Gilbert Scott, mae wedi goroesi difrod tanau a hanes. Heddiw, gall ymwelwyr fwynhau unig seddi bwaog canoloesol Gogledd Cymru ac arddangosfa o argraffiadau cynnar y Beibl Cymraeg a’r Llyfr Gweddi Cymraeg gan yr Esgob William Morgan, a fu’n gyfrifol am oroesiad yr iaith Gymraeg i raddau helaeth. Ond mae gan Lanelwy gysylltiadau cryf hefyd gyda geiriau a cherddoriaeth ac mae’n gartref i Ŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol flynyddol Gogledd Cymru, sy’n wythnos o hyd.

Mae safle naturiol Comin Llanelwy a Phlas Roe ar yr afon yn boblogaidd iawn â cherddwyr a theuluoedd.



denbigh_castle_portraitDinbych

Mae castell grymus Dinbych o’r drydedd ganrif ar ddeg yn eistedd uwchben un o waliau tref mwyaf a chryfaf Cymru. Roedd y gaer mor gref nes iddi wrthsefyll ymosodiadau gan Owain Glyndŵr yn 1400, Iarll Penfro yn ystod Rhyfel y Rhosynnau, a Cromwell yn ystod y Rhyfel Cartref. Mae Dinbych yn golygu “caer fach” ac mae gweddillion Castell hanesyddol Dinbych i’w gweld yn glir ar nenlinell y dref.

Mae mwy na 200 o adeiladau cofrestredig yn y dref heddiw, tyfodd y farchnad y tu allan i waliau’r dref yn ystod cyfnod ffyniannus y Tuduriaid. Mae gan rannau hŷn y dref strydoedd cul agos, rhywfaint o dai masnachwyr canoloesol crand a llawer o dai teras, sy’n cadw’r ymdeimlad o gynllun tref ganoloesol.

Heddiw mae ychydig yn haws mynd i mewn i’r dref. Cewch fenthyg goriad i waliau’r dref o Lyfrgell Dinbych, er mwyn eu crwydro’n hamddenol, gan fwynhau golygfeydd o Fryniau Clwyd ar yr un pryd. Mae pethau eraill i’w gweld yn cynnwys Porth Burgess (y brif fynedfa i’r hen dref), Eglwys Leicester, y stryd fawr brysur ac amrywiaeth Dinbych o weithgareddau cyffrous drwy’r flwyddyn, o farchnad fisol y bobl a Gŵyl Eirin i arddangosfa tân gwyllt o waliau’r castell. Mae hyn i gyd, yn ogystal â’n cymysgedd o drysorau daearyddol naturiol a’n hetifeddiaeth gyfoethog o adeiladu hanesyddol yn gwneud Dinbych yn drysor cudd i ymwelwyr. Yma byddwch yn cael croeso cynnes ac yn profi haelioni ysbryd sy’n gwneud i bob ymwelydd deimlo’n gartrefol, cewch brofiad Cymreig go iawn.



Llangollen-650pxLlangollen

Mae llawer i’w weld a’i wneud yn Llangollen. Wedi ei hamgylchynu gan fryniau a mynyddoedd y Berwyn, mae digon o bethau i’w gweld ac i’w gwneud yn nhref Llangollen ar Afon Dyfrdwy. Gyda llwyth o ddigwyddiadau; ac yn enwog am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen lle daw cystadleuwyr i gystadlu o fwy na 50 o wledydd, does dim prinder pethau i’ch cadw’n brysur am benwythnos cyfan neu fwy. Mae digon o lefydd i aros, o fythynnod i feysydd gwersylla; ac mae llwyth o gaffis, barau a bwytai i’ch cadw’n hapus. Os ydych erioed wedi bod awydd mynd ar daith ar gwch camlas wedi ei dynnu gan geffyl, Camlas Llangollen yw’r lle i chi ac mae hefyd yn rhan o Safle Treftadaeth Y Byd. Prif atyniad y dref yw Gorsaf Reilffordd Llangollen sydd bellach wedi ei hadnewyddu’n hardd gydag ystafell de hen ffasiwn, ac mae’r rheilffordd wedi ei hymestyn i Gorwen yn ddiweddar. Os ydych yn hoffi trenau, peidiwch â methu’r cyfle i weld locomotifau stêm clasurol yn eu gogoniant. Cynhelir gŵyl gerdded flynyddol yn Llangollen bob penwythnos Gŵyl Banc Calan Mai, lle gallwch gerdded a sgwrsio gyda thywyswyr lleol sy’n eich arwain ar deithiau cerdded o amrywiol hyd, er enghraifft at adfeilion Castell Dinas Bran o’r drydedd ganrif ar ddeg, ar y bryn uwchben y dref; neu i gartref Merched Llangollen o’r ddeunawfed ganrif, Plas Newydd, yn y dref.



meadow_in_corwenCorwen

Mae tref farchnad fechan Corwen wedi ei lleoli wrth droed Mynyddoedd y Berwyn ym mhen Gorllewinol Dyffryn Dyfrdwy, sy’n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ger Afon Dyfrdwy. Mae bryngaer Caer Drewyn yn un o’r enghreifftiau gorau o fryngaerau Oes Yr Haearn yng Nghymru. Gydag amrywiaeth o deithiau cerdded sy’n amlygu harddwch yr ardal, cafodd Corwen statws Croeso i Gerddwyr yn 2012 gyda datblygiad gŵyl gerdded lwyddiannus a gynhaliwyd ddiwedd Awst.

Mae Corwen yn enwog am ei chysylltiadau cryf gydag Owain Glyndŵr, un o arwyr Cymru, Corwen a’r ardal oedd cartref ei gyndadau. Mae Cymdeithas Owain Glyndŵr yn grŵp cymunedol adnabyddus yn y dref gan ei bod ond ychydig filltiroedd o le cyhoeddodd Owain Glyndŵr ei hun yn Dywysog Cymru yn 1400 ac mae cerflun ohono’n sefyll yn falch yn sgwâr y dref. Gerllaw mae dau eiddo Cadw, sef Capel Rhug ac Eglwys Llangar, sydd yn werth eu gweld, neu mae adeiladau hanesyddol diddorol eraill fel Gwesty Owain Glyndŵr, Eglwysi’r Seintiau Mael a Sulien, a Corwen Manor, oedd yn wyrcws yn wreiddiol.

Mae Ystâd Rhug i’r gorllewin o Gorwen yn rhedeg siop fwyd organig a bwyty llwyddiannus iawn ac yma hefyd y cynhelir ‘Cneifio Corwen Shears’, cystadleuaeth cneifio ŵyn a gynhelir ddiwedd Gorffennaf bob blwyddyn.



Rhuddlan-650pxRhuddlan

Mae gan Ruddlan hanes hir a nodedig, yn estyn yn ôl i oddeutu 7,000 CC.

Mae safle allweddol Rhuddlan ger man croesi hynafol dros yr afon Clwyd yn golygu ei fod wedi bod yn fflachbwynt pwysig o ran cysylltiadau Eingl-Gymreig; pwy bynnag oedd yn rheoli’r rhyd hon oedd yn rheoli’r llwybr ymosod hawsaf i ac o galon Gogledd Cymru, ac yn 795, cors Rhuddlan oedd y lle trechodd y Sacsoniaid y Cymry. Yn ystod y ddegfed Ganrif, sefydlodd yr Eingl-Sacsoniaid sawl tref neu fwrdeistref (“burh”) yng Ngogledd Cymru gan gynnwys Cledemutha sef Rhuddlan bellach, a sefydlwyd yn AD 921 gan Edward yr Hynaf, ond ni pharodd y safle’n hir fel anheddiad.

Rhwng 1077 a 1277, bu llawer o newid o ran rheolaeth rhwng y Cymry a’r Saeson gyda threfgordd ganoloesol Edward I yn cychwyn oddeutu 1278. Pan adeiladodd Edward I ei gastell newydd, sefydlwyd tref newydd i’r gogledd o’i gaer. Mae ei phatrwm grid gwreiddiol o strydoedd – y Stryd Fawr bresennol, gyda Ffordd y Castell, Church Street, Parliament Street, Gwindy Street a Cross Street yn dal i ffurfio calon y Rhuddlan fodern ac mae rhan o’i hamddiffynfeydd ffos yn dal yn y golwg rhwng Coetiau Postol a Kerfoot Avenue.

Chwaraeodd y castell ran yn hanes Cymru hefyd: yma sefydlwyd trefn newydd o lywodraeth Saesnig dros ran helaeth o Gymru gan Statud Rhuddlan 1284 – trefniant a barodd tan Ddeddf Uno 1536.

Adeiladwyd y bont garreg ar draws yr afon Clwyd gyntaf yn 1358 a chafodd ei gwella wedyn yn 1595. Defnyddiwyd y cei i’r gogledd o’r bont gan longau tan i’r rheilffordd rhwng Caer a Chaergybi gael ei hagor yn 1848, oedd yn golygu adeiladu pont reilffordd ar draws aber Clwyd oedd yn rhwystro llongau uwch rhag mynd ymhellach i fyny’r afon i Ruddlan.

Gerllaw mae Bodrhyddan Hall sy’n dal yn gartref i’r Arglwydd Langford ac ar agor i’r cyhoedd yn ystod misoedd yr haf.



Prestatyn-450pxPrestatyn

Aneddiad Rhufeinig oedd Prestatyn yn wreiddiol ac mae’n borth i ardal arfordirol Gogledd Cymru a chyrchfannau arfordirol mwyaf Dwyreiniol Gogledd Cymru. Prestatyn oedd y dref gyntaf yng Nghymru i dderbyn statws ‘Croeso i Gerddwyr’ felly does dim rhyfedd fod cerdded yn bwysig iawn ym Mhrestatyn. Os ydych yn cyrraedd ar droed neu newydd ddechrau eich taith, mae’r teithiau cerdded yma’n arbennig o dda pa bynnag ffordd yr ewch o’i chwmpas hi. Mae Llwybr Gogledd Cymru yn cychwyn ar daith 60 milltir tua’r gorllewin i Fangor yma, ac mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn cychwyn ei thaith 177 milltir i Gas-gwent yma hefyd. Dilynwch drywydd rhwydd Llwybr yr Arfordir, neu drywydd ychydig anoddach Llwybr Clawdd Offa, a nodir ei fan cychwyn (neu orffen) gyda golygfeydd eithriadol ar draws yr arfordir a Môr Iwerddon a thuag at Eryri yng ngolygfan Gwaenysgor. Gellir rhannu pob llwybr yn adrannau llai i’w goresgyn mewn dim ond ychydig oriau, neu gallwch ddal i gerdded yn dibynnu ar eich hwyliau.

Fel arall am daith gerdded sydyn, gallwch roi tro ar un o’r cylchdeithiau neu’r llwybrau unionlin o amgylch y dref. Mae Twyni Gronant yn gorwedd rhwng traethau Prestatyn a Thalacre a dyma’r ardal fwyaf o dwyni tywod heb eu difetha ar arfordir Gogledd Cymru. Mae’n Warchodfa Natur Leol, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig hefyd, mae cynefin yr arfordir hwn a warchodir yn gartref i rywogaethau prin o blanhigion ac anifeiliaid gan gynnwys celyn y môr, ysgyfarnogod brown, ehedyddion a madfall y tywod. Mae’n debyg mai am fod yn gartref i nythfa fwyaf Prydain – ac unig nythfa Cymru – o fôr-wennoliaid bychan y mae Gronant yn fwyaf adnabyddus, a gellir eu gweld oddi ar lwyfan gwylio ger Llwybr Arfordir Cymru.



Y Rhyl

Mae’r ardal sy’n cael ei adnabod fel Y Rhyl y dyddiau hyn yn cael ei rhestru yn Llyfr Domesday 1086 fel aneddiad o’r enw Bren oedd wedi ei wasgaru ymysg bryniau tywod a chorsydd halen. Roedd Deddf Arglawdd Cors Rhuddlan yn 1794 yn caniatáu draenio’r tir, a gyda Deddf Cau Tiroedd 1813, daeth tir cors wedi ei adfeddiannu ar werth, a dechreuodd Y Rhyl ddatblygu yn un o’r cyrchfannau glan môr newydd poblogaidd.

Adeiladwyd gwesty cyntaf y Rhyl, y Royal, yn 1825 ac erbyn 1829 roedd gwasanaeth llongau ‘steampacket’ yn rhedeg rhwng y dref a Lerpwl. Tyfodd y dref yn gyson drwy ganol a diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn arbennig mewn ymateb i agor rheilffordd Stephenson o Gaer i Gaergybi yn 1848. Yn 1853 dim ond 604 o dai oedd yn y dref, ac erbyn 1881 roedd 1,300 o dai a siopau a phoblogaeth o 6,028. Erbyn 1893, y Rhyl oedd yr aneddiad mwyaf yn hen Sir y Fflint ac roedd ffurf grid adnabyddus canol y dref wedi ei gwblhau erbyn 1912.

Mae llawer o ganol tref Y Rhyl yn parhau i fod yn debyg iawn i sut cafodd ei adeiladu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae gweithgareddau glan y môr, er eu bod wedi newid, yn dal i ganolbwyntio ar y fasnach dwristiaeth yn Y Rhyl. Beth bynnag ydych yn ei fwynhau, boed yn wyliau egnïol llawn hwyl yn yr haul, neu fwynhau golygfeydd o gefn beic neu ar fainc, mae gan y rhan hon o’r byd rywbeth i’w gynnig i bawb o bob oed, drwy’r flwyddyn. Does ryfedd fod tref glan môr Y Rhyl mor boblogaidd gydag ymwelwyr. Mae’r Rhyl yn lle canolog gwych ar gyfer archwilio’r arfordir a chefn gwlad, ond mae cymaint o draethau tywodlyd mawr a chymaint i’w wneud ac i’w weld, nes ei fod yn gyrchfan ardderchog ynddo’i hun.

Does dim fel gwyliau glan môr go iawn i ail-lenwi’r batris a gwneud i chi deimlo’n newydd sbon. Mae pedwar traeth yn Y Rhyl i chi ddewis ohonynt, felly digon i gadw pobl sy’n mwynhau traethau go iawn yn brysur hyd yn oed. Cewch badlo yn y môr, hedfan barcud ac adeiladu castell tywod. Neu beth am gael ychydig o antur a rhoi tro ar rywbeth newydd; mae’n glannau môr mawr agored yn ddelfrydol ar gyfer bordhwylio, barcudfyrddio, padlfyrddio a mwy. Swnio’n ormod o waith caled? Gallwn argymell gwylio’r byd yn pasio o gadair glan môr hefyd.

Gyda chymaint i’w wneud a llwyth o lefydd gwych i aros, mae’r Rhyl yn berffaith ar gyfer gwyliau. Ac mae wastad rhywbeth yn mynd ymlaen. Gallwch wylio sioe fyw yn theatr y Pafiliwn ar lan môr Y Rhyl, neu wylio’r ffilm ddiweddaraf a mwy yn Sinema Vue Y Rhyl. Edrychwch am raglen o ddigwyddiadau amrywiol o bob math, gydag uchafbwyntiau’n cynnwys Sioe Awyr flynyddol Y Rhyl, lle gallwch ymuno â miloedd o ymwelwyr ar lan y môr a chael eich rhyfeddu gan arddangosfeydd dramatig gan sêr awyrennu Prydain.

Mae Pont y Ddraig ar ddatblygiad newydd sbon harbwr Y Rhyl yn rhoi cyfle i unrhyw ar droed, ar feic, mewn cadair olwyn neu bram, i edmygu golygfeydd glan môr, ac i fwynhau’r arfordir heb y traffig. Y bont eiconig hon yw’r cyswllt olaf mewn llwybr beicio 15 milltir o hyd sy’n dod i Sir Ddinbych, ac mae’n rhan o Lwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a Llwybr Arfordir Cymru. Wedi ei hagor gan y beiciwr Paralympaidd Mark Colbourne MBE yn 2013, mae’r bont yn llythrennol yn cau bwlch yn y llwybr arfordirol, pan nad yw wedi ei agor er mwyn gadael cychod i mewn i’r harbwr. Ac, os nad yw’r bont yn ddigon o ryfeddod liw dydd, mae’n goleuo liw nos. Mae gan yr harbwr adnoddau gwych i forwyr, a bydd adnoddau newydd ar yr harbwr hefyd yn fuan er mwyn i bobl sy’n mwynhau bod ar y tir sych gael mwynhau hefyd.



dyserth-500pxDyserth

Mae Pistyll Dyserth yn cwympo dros 70 troedfedd dros graig galchfaen ar lethrau Moel Hiraddug yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd. Paciwch bicnic a mwynhewch y golygfeydd, neu ymunwch ag un o’r amrywiol deithiau o amgylch y pentref. Edrychwch am fioledau a thegeirianau prin, bwncathod ac efallai hebog tramor hefyd. Mae tystiolaeth o hanes cyfoethog pentref Dyserth yn amrywio o Oes Yr Haearn i’r Chwyldro Diwydiannol; ac mae sôn am y pentref yn Llyfr Domesday hyd yn oed.