Mae Ffordd y Gogledd, sy’n cychwyn wrth y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn ymlwybro tua’r gorllewin am 75 milltir / 120km i ben draw Ynys Môn, yn un o dri llwybr Ffordd Cymru sy’n arwain ac yn ysbrydoli ymwelwyr. Cafodd pob ‘Ffordd’ ei dylunio fel profiad hyblyg, ac nid fel rhywbeth i’ch cyfyngu, gyda llu o gyfleoedd i chi adael y prif lwybr, dilyn eich trwyn a darganfod mwy.

Mae’r rhaglen bedwar diwrnod hon yn mynd â chi i glybiau golff gwych ar hyd Ffordd y Gogledd. Mae’n fwy na thebyg na chewch chi ddim amser am gêm ar bob un, ond gallwch ddefnyddio ein llwybr i ddewis y clybiau hynny sy’n gweddu orau i’ch lefel sgil a’ch arddull o chwarae.

Oni nodir yn wahanol, mae’r cyrsiau golff sydd wedi eu cynnwys yn rhai deunaw twll.

Diwrnod 1

O ddechrau eich taith ger Wrecsam a’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, byddwch yn darganfod cwrs naw twll y Plasau. Dyma gwrs parcdir prydferth gyda ffyrdd teg (fairways) bryniog ond esmwyth wedi eu hamgylchynu â llynnoedd, nentydd a choed derw aeddfed. O symud ymlaen, mae Clwb Golff yr Wyddgrug yn cynnig deunaw twll gafaelgar gyda lewntydd gwych a golygfeydd godidog dros Fryniau Clwyd, tra bod parcdir tonnog, esmwyth Clwb Golff Rhuddlan yn leoliad i ddigwyddiadau Pencampwriaeth Sirol a Chenedlaethol yn rheolaidd.

Am fanylion ynglŷn â thrwydded golff Gateway to Wales a thrwydded golff arfordirol Gogledd Ddwyrain Cymru, sy’n caniatáu i chi chwarae ar nifer o gyrsiau am bris gostyngedig, ewch i gogleddddwyraincymru.cymru

Awgrym i aros dros nos: Rhuddlan neu Lanelwy.

Diwrnod 2

Abergele yw’r lle cyntaf i fynd. Dyma gwrs parcdir tlws gyda golygfeydd morol syfrdanol a ffyrdd teg llydan yn llawn bynceri a rhwystrau dŵr (water hazards). Sefydlwyd Clwb Golff Conwy (Sir Gaernarfon) ym 1869 trwy dorri ychydig dyllau i’r pridd, ond ers hynny mae wedi dod yn un o gyrsiau lincs enwocaf ac mwyaf heriol y DU (ac yn leoliad poblogaidd i gynnal cystadlaethau fel Pencampwriaeth Agored Cymru a Chwpan Curtis).

Mae Clwb Golff Penmaenmawr, gyda’i naw twll a’i leoliad rhwng mynydd a môr, yn gwrs ar raddfa lai. Mae’n cynnwys digon o her, fodd bynnag, gyda’r ffyrdd teg wedi eu rhannu â waliau cerrig sychion sy’n aros am unrhyw bêl aiff ar gyfeiliorn.

Awgrym i aros dros nos: Bangor.

Diwrnod 3

Dechreuwch y dydd ar gwrs Sant Deiniol ym Mangor – cwrs parcdir gyda golygfeydd hirbell dros fôr a mynydd. Draw â chi wedyn i Ynys Môn i chwarae ar gwrs parcdir coediog Clwb Golff Neuadd Henllys ger Biwmares, sy’n cynnig golygfeydd heb eu hail o’r Fenai ac Eryri ynghyd â ffyrdd teg gleision a rhwystrau dŵr naturiol i’ch herio.

Cwrs naw twll Storws Wen ger Benllech ddaw nesaf (sy’n adnabyddus am ei lewntydd a’i dyllau ymarfer o ansawdd), cyn chwarae rownd yng Nghlwb Golff Porth Llechog, cwrs mwyaf gogleddol Cymru. Mae’n manteisio’n llwyr ar ei dirwedd bryniog naturiol, gan herio chwaraewyr â cherrig brig ac eithin trwchus wrth iddynt geisio ymdopi â’r awelon main o Fôr Iwerddon.

Awgrym i aros dros nos: Porth Llechog, Bae Cemaes neu Amlwch.

Diwrnod 4

Dychwelwch i’r tir mawr, ac ewch i’r afael â Chlwb Golff Tref Frenhinol Caernarfon, sy’n cynnig gwrs parcdir heriol gyda lewntydd esmwyth a ffyrdd teg gleision (gyda mynyddoedd trawiadol yn gefnlen i’r cyfan). Mae’n bosib mai ein cwrs olaf yw’r mwyaf anhygoel. Mae Clwb Golff Nefyn a’r Cylch ymhlith cyrsiau golff mwyaf eiconig Cymru ac, yn wir, y DU. Mae’n brofiad sy’n ddigon i’ch dychryn, ond yn un sy’n rhoi boddhad mawr; ac fe saif ar benrhyn bychan sy’n ymestyn i’r môr. Mae chwarae yma wedi dwyn cymhariaeth â chwarae ar fwrdd llong awyrennau.

Awgrym i aros dros nos: Nefyn neu Bwllheli.

Teithlenni