Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Blog Dyddiau Allan ar Fws yn Sir Ddinbych

Su’mae? Julie Brominicks ydw i. Fi yw awdur y llyfr The Edge of Cymru (a gyhoeddwyd gan Seren Books) ac rwy’n aml yn cyfrannu at gylchgrawn BBC Countryfile. Rydw i’n ysgrifennu’n bennaf am y tirlun yng Nghymru yr wyf yn ei gyrchu ar droed neu ar drên neu’n fwy aml ar fws o fy nghartref ger Machynlleth.

 

 

 

 

Felly rydw i wrth fy modd fy mod wedi cael gwahoddiad gan Gyngor Sir Ddinbych i ysgrifennu blog am ddyddiau allan ar fysiau.

 

Mae Bysiau yn Wych!

Gallwch fynd am dro ac yna ymlaen i rywle arall heb fynd yn ôl ar hyd yr un llwybr i’ch car. Gallwch fynd ymhell am gost isel – mae tocyn 1bws yn costio £6.50 a gallwch deithio ar hyd a lled gogledd Cymru yn ddigyfyngiad. Ac mae bysiau’n gymdeithasol – ond os nad ydych yn teimlo fel sgwrsio, gallwch syllu allan a mwynhau’r golygfeydd.

Er gwaethaf y toriadau llethol ar gyllid cyhoeddus a chynnydd yn nifer y bobl sy’n berchen ar gar, mae’n wyrthiol bod gwasanaethau bws yn dal i fodoli. Dyma’r cyfle gorau a gawn ni i ddatblygu system cludiant cynaliadwy – wrth i’r isadeiledd trenau fod yn anodd ac eithriadol o ddrud i’w uwchraddio. Ond nid eu defnyddio er mwyn osgoi eu colli neu er mwyn gwneud y peth iawn i’r amgylchedd yw’r unig resymau dros ddefnyddio gwasanaethau bysiau. Mae teithio ar fysiau yn gyfle i fyfyrio ac, o dro i dro, i gael eich ysbrydoli – fel y dywedodd y bardd Ian McMillan neu’r ‘Bard of Barnsley’ fel mae’n cael ei adnabod, “Poets don’t Drive!”

 

Pan mae popeth yn mynd o chwith

Nid yw popeth yn rhedeg yn esmwyth bob tro. Mae cael gafael ar wybodaeth yn gallu bod yn anodd oherwydd bod gwasanaethau yn cael eu hallanoli i gwmnïau gwahanol sy’n aml yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Mae’r bysiau Fflecsi newydd (sy’n cael eu cydlynu yng Nghaerdydd) yn wych gan eu bod yn eich casglu o unrhyw le yn ardal y gwasanaeth yn hytrach na safle bws yn unig, ond mae’n rhaid eu harchebu o flaen llaw dros y ffôn neu drwy’r ap – sy’n lletchwith i ffosil fel fi sydd heb ffôn. Hefyd yn anffodus i bobl sydd heb ffôn, nid oes gwybodaeth ar gael o gwbl mewn safleoedd bysiau bellach – dim amserlenni nac unrhyw sôn am yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu hyd yn oed. Fel unrhyw gerbyd arall, gall oedi ddigwydd ar fysiau ac nid yw aros am fws yn y glaw yn hwyl o gwbl, yn enwedig os ydych yn dibynnu ar gysylltiadau i deithio ymlaen. Ambell waith nid yw’r gyrwyr yn adnabod yr ardal ac mae ambell un braidd yn ddrwg ei dymer.

A phan mae popeth yn mynd yn wych!

Gall teithio ar fysiau fod yn anhygoel. Wrth deithio o gwmpas Sir Ddinbych ym mis Awst er mwyn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer y blog hwn, cyrhaeddais y Rhyl awr gyfan o flaen yr amser a hysbysebwyd ar Traveline Cymru a hynny a) oherwydd bod y gwasanaethau wedi cysylltu’n esmwyth a b) gan fod gyrwyr cyfeillgar wedi fy nghynghori’n wirfoddol ble i newid am gysylltiad mwy prydlon. Ond beth oedd yn wirioneddol hyfryd oedd gwylio cefn gwlad Sir Ddinbych yn gwibio heibio’r ffenestr – bryniau a dyffrynnoedd gwyrdd a llyfn o dan glustogau arian y cymylau.

Cyngor ar deithio’n well ar fysiau

Dyma fy nghyngor ar gyfer cael y gorau o’ch teithiau bws. Ymchwiliwch yn drylwyr. Cynlluniwch eich taith ar www.traveline.cymru neu ffoniwch nhw ar 0800 464 00 00. Yna gwiriwch yr amserlenni eto gyda’r darparwyr gwasanaeth. Gofynnwch ble y dylech aros am y bws ac ar ba ochr i’r ffordd, ac yn hanfodol, ble ddylech chi ddod oddi ar y bws, gan fod y gyrwyr yn aml yn newydd. Os nad oes gennych ffôn symudol, argraffwch bopeth neu ysgrifennwch bopeth ar bapur. Dylech bob amser roi eich braich allan i ddangos eich bod am deithio ar y bws fel arall mae’n bosibl y bydd y gyrrwr yn cymryd yn ganiataol eich bod yn aros am wasanaeth gwahanol). Sgwrsiwch gyda’r teithwyr eraill – mae’n bosibl mai nhw fydd eich ffynhonnell wybodaeth orau – a’ch adloniant! Gofalwch eich bod yn weladwy os ydych yn teithio yn y tywyllwch a pharatowch at bob tywydd.  Ewch â digon o luniaeth ac ysbryd anturus gyda chi, ymlaciwch yn eich sedd a mwynhewch y profiad.

Cadwch golwg am flog Julie yr wythnos nesaf – bydd hi’n siarad am

Y Daith Gylchol; 35/36, Arriva

Gwasanaeth 35 Y Rhyl (gan adael o Stand C) – Prestatyn – Dyserth – Rhuddlan – Y Rhyl

Gwasanaeth 36 Y Rhyl (gan adael o Stand D) – Rhuddlan – Dyserth – Prestatyn