Mae Ffordd y Gogledd, sy’n cychwyn wrth y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn ymlwybro tua’r gorllewin am 75 milltir / 120km i ben draw Ynys Môn, yn un o dri llwybr Ffordd Cymru sy’n arwain ac yn ysbrydoli ymwelwyr. Cafodd pob ‘Ffordd’ ei dylunio fel profiad hyblyg, ac nid fel rhywbeth i’ch cyfyngu, gyda llu o gyfleoedd i chi adael y prif lwybr, dilyn eich trwyn a darganfod mwy.

Yn y rhaglen bedwar diwrnod hon, byddwn yn eich tywys i rai o’r tirweddau mwyaf cofiadwy a’r golygfeydd mwyaf ysbrydoledig sydd i’w gweld ar Ffordd Gogledd Cymru ac o’i chwmpas; yn cynnwys bylchau mynyddig dramatig, clogwyni arfordirol creigiog, pensaernïaeth hanesyddol a dyffrynnoedd afon gleision.

Diwrnod 1

Dechreuwch eich taith yng Nghastell canoloesol y Fflint, a saif ar y lan lle mae’r Ddyfrdwy yn lledu ar ei ffordd tua’r môr. Hwn oedd y castell cyntaf i Edward y Cyntaf ei adeiladu yng Nghymru, ac mae’n dynodi’r porth i Ogledd Cymru.

Castell y Fflint, Y Fflint

Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol rhif 5 yn rhedeg yn syth trwy’r Fflint. Golyga hyn y gallwch feicio tua’r dwyrain i gyfeiriad Caer ar hyd glannau’r Ddyfrdwy, neu ddilyn arfordir Gogledd Cymru i gyfeiriad y gorllewin. Yn y rhanbarth hon y ceir rhai o draethau gorau Gogledd Cymru, i’r sawl sydd am drochiad ysgafn a’r rhai hynny sydd am wneud y mwyaf o’r tonnau fel ei gilydd. Dewch oddi ar eich beic pan gyrhaeddwch chi Gaergybi, fodd bynnag, neu fe fyddwch yn wlyb at eich croen. www.sustrans.org.uk

Traeth Prestatyn
Castell Dinas Brân, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Dilynwch wedyn drywydd hardd yr A494 trwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i Rhuthun, a ddisgrifiwyd fel tref fechan mwyaf hudolus Cymru. Ewch yn eich blaen wedyn ar yr A525/A542 trwy Fwlch yr Oernant i Langollen ac ymlaen i’r Waun. Gyda chopaon ei bryniau yn borffor o flodau’r grug, ei bryngeiri Oes yr Haearn a safleoedd hanesyddol megis Abaty Glyn y Groes a Chastell y Waun, mae’r ffordd hon yn llawn dop o olygfeydd cerdyn post. Treuliwch beth amser hefyd i ddarganfod rhamant a heddwch Dyffryn Ceiriog, perl cudd o ddyffryn i’r gorllewin o Gastell y Waun, lle mae Afon Ceiriog yn llifo i’r Ddyfrdwy o 1,800 troedfedd / 548m uwchlaw lefel y môr trwy gyfres o raeadrau rhuthrol.

Awgrym i aros dros nos: Llanarmon Dyffryn Ceiriog.

Diwrnod 2

Ewch yn eich hôl i Langollen, cyn gyrru trwy Ddyffryn godidog Clwyd tua’r arfordir i ymweld â Gwarchodfa Natur Leol Twyni Cinmel, sy’n gartref i lu o adar, planhigion morol prin ac hyd yn oed ambell forlo.

Ewch ar hyd ffordd arfordirol yr A55 heibio i Fae Colwyn a dilyn yr A470 ar hyd Ddyffryn Conwy i un o drysorau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gardd Bodnant, lle cewch hyd i lewntydd cymen, terasau blodeuog, glynnoedd gwylltion a choed enfawr. Croeswch yr afon i yrru ar ffordd droellog y B5106 i Gonwy cyn dringo Bwlch Sychnant, un o dirnodau syfrdanol ond llai adnabyddus Gogledd Cymru.

Awgrym i aros dros nos: Conwy neu Benmaenmawr.

Diwrnod 3

Dilynwch yr arfordir i Fangor, cyn cael blas ar Barc Cenedlaethol Eryri trwy yrru oddi wrth y môr ar yr A5 – llwybr hanesyddol a beiriannwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg – ar hyd Dyffryn Ogwen ddirgel i Gapel Curig. Ewch yn eich blaen ar yr A4086 trwy dirwedd cyntefig, creigiog Bwlch Llanberis, gyda’r Wyddfa wrth eich hochr, ac anelu am Lanberis a Chaernarfon cyn dychwelyd i Fangor.

Mae’n werth oedi i gymryd tro ar y pier Fictoraidd hyfryd ym Mangor i weld golygfeydd hyfryd o’r Fenai, cyn gyrru dros Bont Britannia i Ynys Môn. Anelwch am eglwys wyngalchog San Cwyfan (‘Yr Eglwys yn y Môr’), a saif ar ei hynys fach ei hun, nad oes modd cael mynediad ati oni bai am lanw isel. Mae’n leoliad heddychlon, braf ar yr arfordir gogledd-orllewinol ger Aberffraw. Ymlaen â chi wedyn i Oleudy eiconig Ynys Lawd ger Caergybi (dewch â’ch binocwlars ar gyfer y golygfeydd syfrdanol a’r myrdd o adar), cyn mynd am dro ar Lwybr Arfordir Cymru rhwng Porth Llechog a Bae Cemaes.

Awgrym i aros dros nos: Porth Llechog neu Fae Cemaes.

Diwrnod 4

Ewch yn ôl i’r tir mawr cyn gyrru ar hyd glan y Fenai, trwy Gaernarfon, ac ymlaen i Benrhyn gwyllt a gwych Llŷn. Mae’r Ardal hon o Harddwch Naturiol Eithriadol, sy’n rhimynnog o glogwyni môr aruthrol, baeau paradwysaidd a phentiroedd gwyntog, yn llawn hyd ei hymylon o ogoniant arfordirol.

Awgrym i aros dros nos: Abersoch.

Teithlenni

Bydd awgrymiadau o deithlenni i’ch helpu i fanteisio ar Ffordd Gogledd Cymru ar gael yn fuan gyda’r themâu canlynol.