Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Abakhan-Fabrics

Abakhan Fabrics, Hobby & Home

Dechreuwyd gan y teulu Abakhan yn y pedwardegau hwyr fel busnes gwehyddu rygiau, ac mae Abakhan bellach wedi masnachu am bron i 60 mlynedd ac rydym yn ymfalchïo mewn cynnig ystod helaeth o ffabrigau, edafedd, crefftau, ac ategolion gwnïo.

Yn ogystal â chyfleuster manwerthu mawr, mae’r safle hwn hefyd yn safle o ddiddordeb hanesyddol lleol sylweddol. Mae’r cwmni wedi cymryd gofal mawr i warchod yr hen adeiladau gwaith gan arwain at gael gwobr gan Dywysog Cymru am adfer adeiladau yn sympathetig.

Mae ein Caffi ar ei newydd wedd bellach yn cynnig seddi dan do ac awyr agored ar gyfer hyd at 150 o bobl. Rydym wedi adfer y Ffrwd Melin Wreiddiol ac mae ardal cwrt hyfryd a gardd wedi’i thirlunio lle gallwch eistedd, ymlacio a mwynhau un o’n diodydd poeth/oer, brechdanau, cawl, cinio rhost, sleisen o gacen gartref neu sgon blasus!

Cysylltwch

Abakhan Ltd, Coast Road, Llanerch-Y-Mor Mostyn, Flintshire, CH8 9DX

Oriau agor

  • Dydd Llun
    10:00 - 17:00
  • Dydd Mawrth
    10:00 - 17:00
  • Dydd Mercher
    10:00 - 17:00
  • Dydd Iau
    10:00 - 17:00
  • Dydd Gwener
    10:00 - 17:00
  • Dydd Sadwrn
    10:00 - 17:00
  • Dydd Sul
    10:00 - 16:30