Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Rhyl Botanical Gardens

Y Gerddi Botanegol

Mae’n anodd iawn peidio â sylwi ar y sblasys o liw ym mhobman, yn sicr mae’r Rhyl yn dref gyda llawer o arddwyr amryddawn ac wedi llwyddo i ennill y wobr arian i’r dref ar gyfer Prydain yn ei Blodau.

Dyma’n union beth fyddai rhywun yn ei ddisgwyl o le gyda’i gerddi botanegol ei hun. Ond nid blodau a choed yn unig yw parc Fictoraidd hyfryd y Rhyl. Yn y parc ceir hefyd cyrtiau tenis, lawntiau bowlio, grin naw twll a chaffi – i gyd yn cael ei redeg gan dîm o wirfoddolwyr ymroddedig o gymdeithas o drigolion lleol.

Cysylltwch

Y Gerddi Botanegol, Grange Road, Y Rhyl, LL18 4DA