Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ruthin Gaol

Carchar Rhuthun a thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre i ailagor ar 23 Mawrth

Mae Carchar Rhuthun a thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl ar ôl bod ar gau dros y gaeaf, pan fydd y safleoedd treftadaeth yn agor eu drysau ddydd Sadwrn 23 Mawrth.

Ruthin Gaol
Ruthin Gaol

Mae’r safleoedd hanesyddol yn cynnig taith hudolus drwy amser. Ceir cipolwg grymus, llawn awyrgylch ar fywyd carcharorion ers talwm yn y Carchar a chewch wybod mwy am fywyd teuluol yng Nghymru drwy’r oesau yn Nantclwyd y Dre, tŷ pren rhestredig Gradd 1 â statws ‘Trysor Cudd’ am yr ystafelloedd a ail-grëwyd a’i erddi hudolus.  

Nantclwyd y Dre, Ruthin
Nantclwyd y Dre, Ruthin

Y tymor hwn, ochr yn ochr ag arddangosfeydd rhyngweithiol, teithiau tywys ac arddangosfeydd ymarferol, bydd ymwelwyr yn cael eu herio i ddianc o’r Carchar a dod yn deithwyr amser yn Nantclwyd y Dre fel rhan o weithgareddau newydd sy’n dod â hanes yn fyw mewn ffyrdd sy’n siŵr o greu atgofion.

Nantclwyd y Dre House and the Lord’s Gardens

Gyda’i gilydd, mae’r safleoedd yn cynnig diwrnod perffaith i deuluoedd, rhai sy’n frwd am hanes ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am orffennol cymdeithasol a phensaernïol Rhuthun. Gan agor mewn pryd ar gyfer gwyliau’r Pasg, bydd llwybr y Pasg yn cael ei gynnal yn Nantclwyd y Dre ar 23, 28, 29 a 30 Mawrth (10:30 – 17:00, mynediad olaf am 16:00), sy’n rhan o bris arferol tocynnau.

Nantclwyd y Dre, Ruthin
Nantclwyd y Dre, Ruthin

Bydd Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre ar agor i’r cyhoedd o 23 Mawrth ymlaen, a bydd yr oriau agor a gwybodaeth am docynnau ar gael ar eu gwefannau.

Ruthin Gaol
Ruthin Gaol