Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Eglwys Gadeiriol Llanelwy

Dyma yr ail taith cerdded gan ein blogiwr gwadd Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru.  Gallwch gyrraedd pob un ohonynt gan defnyddio drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Mae gennym 6 arall  ar eich cyfer y misoedd nesaf, felly cadwch lygad amdanynt ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein ardal brydferth  yn ddyfnach gan defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy.

Mae arogl sbeis yma ac mae naws clyd eglwysig i’w deimlo o’ch cwmpas – nid oes calchfaen bwaog agored yma. Yn lle hynny, ceir tywodfaen coch cynnes sy’n gyforiog o liwiau’r hydref o liw bisged Malted Milk (carreg graen mân o’r Fflint neu Dalacre) i liw’r Bourbon sydd bron yn borffor, y cafodd eu cloddio dwy filltir o’r Gadeirlan yn unig. Mae’r tawelwch yn eich taro. Mae’r canhwyllau’n fflachio ac mae golau cynnes yn dod o’r lampau uwchben seddi’r côr â chanopi.

Mae’r eglwys gadeiriol yn heddychlon ar y cyfan erbyn hyn, ond nid yw bob amser wedi bod felly.

Mae’n dyddio o’r chweched ganrif ac mae’n gysylltiedig yn ôl chwedl â’r seintiau Kentigern ac Asaph, a phren fyddai ei strwythurau cynnar wedi bod. Cafodd y rhain eu hamnewid gan y Normaniaid, (y cafodd eu goresgyniad ei fendithio gan y Pab) a daethant â dulliau adeiladu â cherrig a syniadau crefyddol gyda nhw. Yn 1120 gwnaethon nhw Lanelwy yn esgobaeth (dan ofal esgob) a’i hymgorffori, ynghyd â’r tair esgobaeth arall yng Nghymru, yn Archesgobaeth Caergaint, ac yn ddarostyngedig i’w hawdurdod. Cafodd y goresgyniad Normanaidd ei herio gan y Cymry. Daeth y Normaniaid yn Eingl-Normaniaid ac yn y pen draw, dros y canrifoedd, yr oedden nhw’n cyfeirio atynt eu hunain fel Saeson – yn union fel y daeth yr unigolion a ymgartrefodd yng Nghymru yn Gymry.

Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg, weithiau nid oedd cynulleidfa yn yr eglwys gadeiriol gan fod cymaint o drais. Roedd Llanelwy yn ei chanol hi o ran y rhyfel. Brwydrodd Llywelyn ap Gruffudd yn erbyn ymgyrch Edward I i wladychu Cymru – yn 1282 ymosodwyd ar yr eglwys gadeiriol a’i dinistrio gan filwyr o Gymru yn gyntaf ac yna gan filwyr o Loegr. Ym 1402, gwnaeth byddin Glyndŵr ei ddinistrio. Ac yn ystod Rhyfeloedd Cartref yr ail ganrif ar bymtheg, gwnaeth gwŷr Cromwell falu’r ffenestri a rhoi dŵr i’r ceffylau o’r bedyddfaen. Gweithiwyd yn galed i sicrhau heddwch yn y man hwn ac ni ddylid ei gymryd yn ganiataol.

Mae’r Beibl a gyfieithwyd i’r Gymraeg gan William Morgan (cyn-Esgob) a’i gydweithwyr, wedi’i gadw mewn cabinet wedi’i oleuo. Mae hysbysfyrddau, cadeiriau wedi’u stacio ac arddangosiadau â sgriniau cyffwrdd – yr holl annibendod mewn addoldy modern sy’n ei wneud yn gartrefol, yn ychwanegu at y croeso. Mae gantri yn cuddio’r allor. Ond tu ôl iddo, mae’r gwydr lliw yn disgleirio.

Bws Mae Llanelwy ar wasanaethau Arriva Cymru 51, 51b, 51s, 52 a M&H Coaches rhif 54, ac mae’r rhain i gyd yn rhedeg rhwng Dinbych a’r Rhyl. Mae gwasanaethau ar gael o leiaf ddwywaith bob awr yn ystod yr wythnos a bob awr ar ddydd Sul.

Taith Gerdded Mae gan y daith gerdded rwydd hon un darn serth ond byr i fyny ffordd ac un ffordd i lawr y cae. Mae’n dilyn llwybrau glan yr afon ar hyd Afon Elwy, yn ogystal â ffyrdd tawel, sy’n arddangos nodweddion hanesyddol a heddychlon Llanelwy, i ffwrdd o’r A525 a’r A55. Mae camfeydd i groesi’r caeau. Gall y lonydd coediog, y caeau a’r llwybrau ar hyd yr afon fod yn fwdlyd ar ôl glaw ond mae eu lliwiau hydrefol yn ogoneddus.

  1. Pan fyddwch chi’n gadael yr eglwys gadeiriol, trowch i’r dde i Ffordd Ddinbych a’i chroesi. Dilynwch yr arwyddion am Daith Clwyd ychydig cyn Ysgol Glyn Clwyd. Cadwch ar y trac hwn sydd â choed ar ei hyd wrth iddo fynd heibio i gaeau chwarae’r ysgol.
  2. Gadewch arwyddion Taith Clwyd a chadw at y lôn, trowch i’r dde wrth y gyffordd, ac i’r dde eto tuag at y tai newydd, yna i’r chwith i ddychwelyd i Ffordd Dinbych. Croeswch y ffordd a throi i’r dde.
  3. Bron yn syth ar ôl hynny, dringwch dros y gamfa i’r caeau ar y chwith, a dilynwch yr arwyddion cyfeirio sy’n eich arwain chi i lawr yr allt ar hyd y caeau i Afon Elwy. Cadwch at lan yr afon, ewch heibio’r cae pêl-droed a chyrhaeddwch y bont ffordd.
  4. Trowch i’r chwith a chroeswch y bont. Yna, croeswch y ffordd a throi i’r dde i ddychwelyd i lan yr afon. Cadwch at y trac amlwg – ond os ydych chi am wneud eich taith gerdded yn fyrrach, mae dwy bont droed yn mynd dros yr afon er mwyn dychwelyd i Lanelwy yn gynt.
  5. Cymerwch y drydedd bont droed dros yr afon, a throwch i’r dde ar hyd trac y fferm. Parhewch wrth iddi newid i fod yn ffordd dawel, ac i fyny bachdro serth a byr. Croeswch y bont dros yr A55.
  6. Parhewch i gerdded lawr Mount Road sy’n troi i’r dde i Lôn Derw, y mae’n ymuno â hi am ychydig cyn ail-ymuno â Mount Road. Bydd mynwent ar eich chwith.
  7. Byddwch chi’n ymuno â’r A525 eto gyferbyn â’r eglwys gadeiriol. Mae Caffi’r Cyfieithwyr y tu ôl i’r eglwys gadeiriol, ac efallai y cewch chi eich temtio i fynd i gaffi Jacob’s Ladder wrth gerdded heibio hefyd, lle mae’r croeso yr un mor gynnes.