Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ewloe Castle

Castell Ewlo

Yr hyn sy’n gwneud Castell Ewlo yn unigryw yw’r tŵr siâp ‘D’, o’r enw ‘Tŵr Cymreig’, sy’n sefyll yn annibynnol. Dyma lle fyddai gorthwr y castell wedi bod, sef ardal fyw Arglwydd y castell, byddai hefyd wedi bod yn amddiffynfa cadarn. Cadwch lygad allan am y grisiau bob ochr i’r bont godi wreiddiol a oedd yn arwain at ‘lwybr y waliau’. Mae modd gweld y tyllau yng ngorthwr y castell yn ogystal, byddai’r rhain wedi dal y distiau pren o dan y llawr yn yr ardal fyw ar lawr cyntaf y castell.

Gellir gweld sawl gwendid yn nodweddion amddiffynnol Ewlo. Mae’r waliau llenni’n isel ac yn annigonol. Ni chafodd y porthdy ei adeiladu’n gadarn, mae’r ardaloedd mewnol yn gaeedig ac yn ddi-drefn, byddai wedi bod yn anodd rheoli’r rhain yn ystod ymosodiad. Dim ond dau neu dri llawr fyddai wedi bod yn y ddau dŵr yng Nghastell Ewlo, ac hyd yn oed o’r llawr uchaf, fe fyddai wedi bod yn amhosibl gweld y gelyn yn ymosod o’r goedwig. Gellir gweld y castell cyfan o dir uwch, ac mae rhai llefydd nad oes modd eu gweld o’r waliau llenni. Nid oedd y Cymry wedi adeiladu eu cestyll i wrthsefyll gwarchaeedigaeth. Yn hytrach, roedd eu rhyfeloedd yn herwfilwrol.

Cysylltwch

Deeside, Flintshire

Delweddau