Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Gladstone's Library, Flintshire

Llyfrgell Gladstone

Mewn pentref bach yng Ngogledd Cymru mae llyfrgell breswyl orau Prydain.

Llyfrgell Gladstone ym Mhenarlâg yw unig lyfrgell Brif Weinidogol Prydain, ac mae’n gofeb genedlaethol i’r gwladweinydd Fictoraidd arbennig, a’r Prif Weinidog bedair gwaith, William Gladstone.
Mae’n gartref i gasgliad unigryw o fwy na 250,000 o eitemau argraffedig ac yn cynnig amgylchedd cyfforddus, cymdeithasol a chyffrous yn ogystal ag adnoddau ar gyfer astudio creadigol gan gynnwys casgliadau enwog o ddeunyddiau diwinyddol, hanesyddol, diwylliannol a gwleidyddol.

Sefydlwyd y llyfrgell gan Gladstone yn 1894, roedd yn awyddus i rannu ei lyfrgell bersonol gydag eraill, yn enwedig y rheiny oedd am ddysgu ond oedd yn wynebu cyfyngiadau ariannol. Byddai’n gadael i blant ac oedolion deallus pentref Penarlâg ddefnyddio’i gasgliad. Ei ddymuniad, yn ôl ei ferch Mary Drew, oedd ‘dod a llyfrau oedd heb ddarllenwyr at ddarllenwyr oedd heb lyfrau’.

Gyda chymorth ei was ac un o’i ferched yn unig, roedd Gladstone dros ei wyth deg oed pan aeth a’r 32,000 o lyfrau dri chwarter milltir rhwng ei gartref yng Nghastell Penarlâg a’r llyfrgell. Fe’u dadbaciodd a’u rhoi ar silffoedd gan ddefnyddio ei system gatalogio ei hun.

Yn dilyn ei farwolaeth yn 1898, lansiwyd apêl gyhoeddus am arian i ddarparu adeilad parhaol ar gyfer y casgliad ac i ddisodli’r strwythur dros dro. Darparodd y £9000 a godwyd adeilad urddasol, wedi ei gynllunio gan John Douglas, a agorwyd yn swyddogol gan yr Iarll Spencer ar 14 Hydref 1902 fel Cofeb Genedlaethol i W.E. Glandstone. Llwyddodd y teulu Gladstone eu hunain i gyflawni gweledigaeth y sylfaenydd drwy ariannu’r rhan breswyl, a groesawodd ei breswylydd cyntaf ar 29 Mehefin, 1906.

Heddiw mae’r llyfrgell yn ferw o weithgaredd ac yn croesawu ymwelwyr o bob rhan o’r byd. Y flaenoriaeth yw adeiladu a magu rhwydwaith eang o awduron a meddylwyr er mwyn cadw etifeddiaeth Gladstone o holi cwestiynau cymdeithasol, moesol ac ysbrydol i fynd, gan helpu pobl i adlewyrchu’n ddyfnach ar faterion a syniadau sydd o ddiddordeb iddynt. Ar agor i’r cyhoedd am 50 wythnos y flwyddyn, mae 26 ystafell bŵtic yn Llyfrgell Gladstone, ac mae yno siop goffi / bwyty – Food for Thought.

Os ydych awydd newid o’ch caffi arferol, mae’n bwyty Food for Thought yn berffaith ar eich cyfer. Mwynhewch ginio gyda ni, neu galwch heibio am baned o de neu goffi. Mae’n bwyd yn lleol ac yn cael ei goginio yn ffres; mae’n bisgedi Gladstone cartref yn ffefryn go iawn ac yn flasus iawn gyda phaned boeth o de neu goffi.

Gweinir cinio rhwng hanner dydd a 2pm, saith diwrnod yr wythnos, fodd bynnag peidiwch a phoeni os byddwch chi’n methu hwn, achos rydym yn cynnig Te Prynhawn blasus iawn rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 3pm-4pm. Rydym hefyd yn gweini Cinio Dydd Sul traddodiadol. Rhaid bwcio o flaen llaw ar gyfer Te Prynhawn a Chinio Dydd Sul – cysylltwch â’r dderbynfa ar 01244 532350 neu enquiries@gladlib.org er mwyn gwneud hynny.

Mae’r llyfrgell hefyd yn cynnal ei rhaglen Ysgrifenwyr Preswyl ei hun. Bydd yr awduron wedyn yn eu tro yn aros yn Llyfrgell Gladstone am fis, ac yn ystod y cyfnod hwnnw byddant yn cyhoeddi dau blog, yn cynnal gweithdy undydd ac yn rhoi sgwrs fin nos am eu bywyd yn ysgrifennu.

Yn ogystal â digwyddiadau misol rheolaidd, mae Llyfrgell Gladstone hefyd yn gartref i’w wyliau llenyddol ei hun, Gladfest a Hearth, sy’n dwyn ynghyd feddylwyr a siaradwyr ysbrydoledig.

Er mwyn darganfod mwy am Lyfrgell Gladstone neu unrhyw un o’i ddigwyddiadau ewch i www.gladstoneslibrary.org neu anfonwch e-bost at enquiries@gladlib.org neu ffoniwch 01244 532350.

Be happy with what you have and are, be generous with both, and you won’t have to hunt for happiness. William Ewart Gladstone

Cysylltwch

Llyfrgell Gladstone, Church Lane, Hawarden, Flintshire CH5 3DF

Delweddau