Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

raspberries

Marchnadoedd Yr Wyddgrug

Croeso i’r Wyddgrug, tref farchnad draddodiadol sy’n swatio wrth droed Bryniau Clwyd. Ein marchnad stryd a dan do enwog, siopau annibynnol, lleoliadau gwych i yfed a bwyta, cyfoeth o hanes diwylliannol a nifer o ddigwyddiadau gwych. Profiad siopa gwahanol bob diwrnod o’r wythnos. Mae yna ddigonedd o lefydd parcio pum munud ar droed i ffwrdd o’r farchnad. Mae yna gilfachau penodol i goetsys a gwasanaeth bws yn cysylltu trefi cyfagos gan gynnwys Caer, Wrecsam a’r cyrchfannau arfordirol.

Lawrlwythwch Pamffled PDF.

Marchnadoedd stryd – fe’u cynhelir bob dydd Mercher a dydd Sadwrn rhwng 9am a 3.30pm trwy gydol y flwyddyn gan ddenu mwy na 70 o fasnachwyr. Mae’r dref yn llawn stondinau marchnad ar y stryd fawr ac ar Sgwâr Daniel Owen, ac yn gwerthu amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau, cawsiau a chigoedd, yn ogystal â chrochenwaith, dillad a phlanhigion. Does dim i guro marchnad stryd i gael awyrgylch a gwir flas o dref. Mwynhewch y bwrlwm wrth i chi chwilio am fargeinion ac fe gewch chi ddigon o gyngor ar faterion sy’n amrywio o sut i goginio cinio dydd Sul yn berffaith i’r planhigyn gorau i’w blannu yn rhannau trafferthus eich gardd.

Marchnad dan do – yng nghanol Canolfan Daniel Owen mae yna farchnad dan do sy’n ffynnu sydd ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gydag o fasnachwyr unigol.

Marchnad Ffermwyr – Mae hi werth ymweld â marchnad y ffermwyr hefyd, lle caiff bwydydd a diodydd ffres a chrefftau sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol eu gwerthu gan ffermwyr lleol a gweithwyr crefft medrus. Cynhelir marchnad y ffermwyr yn Neuadd Eglwys y Santes Fair (Heol y Brenin) rhwng 9am a 2pm ar ddydd Sadwrn cyntaf a thrydydd dydd Sadwrn y mis.

 

Cysylltwch