Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Offa's Dyke National Path

Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa

Mae angen dechrau gafaelgar a diweddglo boddhaol i bob stori dda. Ar y daith chwedlonol hon, mae tref glan y môr Prestatyn yn darparu’r ddau.

Mae’n dibynnu i ba gyfeiriad rydych yn cerdded. Prestatyn yw un pen y Llwybr Genedlaethol Clawdd Offa epig 177 milltir sy’n ymestyn o fôr i fôr, croesi ffin Cymru-Lloegr 27 o weithiau ac yn dilyn y clawdd wythfed ganrif ei hun – cofadail hynafol hiraf Prydain – am 50 milltir.

Felly dyma naill ai ddechrau eich antur neu anterth eich breuddwydion. Os mai’r olaf ydyw, galwch draw i Ganolfan y Nova ar lan y môr i gofnodi eich llwyddiant – efallai ar ôl trochi eich traed dolurus ym Môr yr Iwerydd.

Mae Prestatyn hefyd yn nodi’r pwynt lle bydd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru, gan alluogi taith gylchol 1,030 milltir o Gymru. Does dim rhyfedd mai dyma’r dref gyntaf yng Nghymru i ennill statws Croeso i Gerddwyr.

Dechrau: Canolfan y Nova, Prestatyn LL19 7EY

Contact

Gallery