Dyfrbont Pontcysyllte
Rhan o Safle Threftadaeth y Byd UNESCO Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, mae’r campwaith peirianyddol hwn yn sefyll 126 troedfedd o uchder, ac yn cario camlas Llangollen dros Afon Dyfrdwy.
Gallwch groesi ar droed neu ar gwch – ond cofiwch eich camera, mae’r golygfeydd yn wych!
Ffeithiau am Bontcysyllte
- Mae Pontcysyllte yn golygu ‘y bont sy’n cysylltu’
- Mae 18 o bileri 126 troedfedd o uchder a 19 o fwâu pob un â rhychwant 45 troedfedd
- I gadw’r draphont ddŵr mor ysgafn ag y bo modd, mae’r pileri cerrig main yn rhannol wag ac yn meinhau ar eu rhan uchaf
- Mae’r morter wedi’i wneud o waed ychen, calch a dŵr
- Mae’r draphont ddŵr yn dal 1.5 miliwn litr o ddŵr ac yn cymryd dwy awr i ddraenio
- Mae’r strwythur yn 1007 troedfedd o hyd, gydag Afon Dyfrdwy yn rhedeg oddi dani
- Gwnaed y gwaith gan Thomas Telford ac fe’i oruchwyliwyd gan beiriannydd camlesi mwy profiadol William Jessop
- Cafodd y garreg gyntaf ei gosod ym mis Gorffennaf 1795 ac fe’i hagorwyd ym mis Tachwedd 1805
- Hon yw’r gamlas uchaf a hiraf y mae posibl ei mordwyo ym Mhrydain
- Mae’r cafn haearn yn mesur 11 troedfedd 10 modfedd o led a 5 troedfedd 3 modfedd o ddyfnder
- Mae dŵr yn bwydo i’r draphont a’r gamlas o Afon Dyfrdwy yn Rhaeadr y Bedol ger Llangollen