Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

The North Wales Way

Ffordd y Gogledd

Mae Ffordd Gogledd Cymru yn dilyn hen ffordd fasnach am 75 milltir (120km) ar hyd arfordir y gogledd i Ynys Môn. Y triawd o gestyll anferth sy’n tynnu’r sylw’n syth: Biwmares, Caernarfon a chaer dinesig Conwy. Ynghyd â Harlech, mae’r clwstwr anhygoel hwn o gestyll o’r trydydd ganrif ar ddeg yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Mae nifer o gylchoedd a gwyriadau hefyd. O’r fan yma, gallwch fynd ar daith o fynyddoedd Eryri, y Fenai, a’n ynys fwyaf, Ynys Môn. Dyma’r porth i Ddyffryn Conwy a Dyffryn Clwyd, lle mae llinell o drefi marchnad hyfryd yn asgwrn cefn i’r ffordd i lawr i Langollen. Mae Ffordd Gogledd Cymru’n cysylltu’n rhwydd gyda’i chwaer Ffyrdd, cludiant cyhoeddus a llwybrau beicio a cherdded o bellter hir.

Ffordd y Gogledd: Gogledd Ddwyrain Cymru

Mae Gogledd Ddwyrain Cymru, gyda Ffordd y Gogledd yn ymestyn 25 milltir / 40km o’r ffin gyda Lloegr i gyrchfan gwyliau glan y môr y Rhyl, yn gartref i draethau tywodlyd, dyffrynnoedd afon coediog, cestyll canoloesol a threfi marchnad braf. Ymlwybrwch oddi ar y llwybrau arferol i ganfod brynceiri Oes Haearn dramatig, olion treftadaeth ddiwydiannol ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte.

Mae Gogledd Ddwyrain Cymru nid yn unig yn hygyrch ac yn daith diwrnod hawdd o lawer o ddinasoedd mawr, mae hefyd hefo llawer o atyniadau fesul milltir sgwâr. Byddech yn synnu beth y gallwch ei gynnwys mewn diwrnod neu hyd yn oed yn well aros drosodd am ychydig ddyddiau. Rydyn ni’n gwybod ei fod yn fod pawb yn dweud y rhyn peth ond mae gennym ni wir rywbeth i bawb. Tirwedd hardd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gan gynnwys Clawdd Offa , llwybr yr Arfordir – camp beirianneg eithriadol Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte a mwy o gestyll nag Edward y cyntaf i’w harchwilio. Ar gyfer y rhai sy’n dwlu ar fwyd, mae gennym siopau fferm organig a micro-fragdai yn ogystal â bwytai arobryn. Mae gennym barciau gwledig i’w harchwilio yn ogystal â choedwigoedd, beicio mynydd a llwybrau cenedlaethol i lywio fel yr enwog Clawdd Offa. Os mai cartrefi crand yw mwy eich peth chi, mae gennym un neu ddau o’r rheini yn ogystal â Erddig yn Wrecsam â Chastell y Waun a Plas Bodrhyddan y mae’r tirfeddianwyr yn dal i fyw ynddynt. Mae gan ein trefi glan môr yn y Rhyl a Phrestatyn gyffyrddiad o hiraeth i’r rhai sy’n hanu ar lan y môr ond gyda chwistrelliad o atyniadau a chwaraeon dŵr newydd gwych.

Teithlenni

Bydd awgrymiadau o deithlenni i’ch helpu i fanteisio ar Ffordd Gogledd Cymru, gyda’r themâu canlynol.

Taflenni Gwybodaeth

North Wales Way brochure - English

The North Wales Way
English, 7.1 MB PDF

North Wales Way brochure - Welsh

Ffordd y Gogledd
Welsh, 3.5 MB PDF

North Wales Way brochure - Dutch

De North Wales Way
Dutch, 2.8 MB PDF

North Wales Way brochure - French

Le North Wales Way
French, 7 MB PDF

North Wales Way brochure - German

Der North Wales Way
German, 7.1 MB PDF