Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Flint Castle

Llwybr Arfordir Cymru

Llwybr Arfordir Cymru yw’r llwybr troed cyntaf yn y byd i ddilyn arfordir cenedl cyfan. Mae’n 870 milltir o hyd. Ac mae straeon seintiau, pechaduriaid a llongddrylliadau yn perthyn i bob cilfa a phen clogwyn.

Yn y Fflint ar lannau Moryd y Ddyfrdwy cyfrannodd Shakespeare hanes hefyd. Yng Nghastell y Fflint yn 1399, cipiwyd y Brenin Richard II gan Henry Bolingbroke, Henry IV yn ddiweddarach, golygfa a ddisgrifiwyd yn Richard II gan Shakespeare.

Dechreuodd prosiect adeiladu mwyaf uchelgeisiol Ewrop Canoloesol, y “cylch haearn” o gestyll ar hyd arfordir Gogledd Cymru, yn y Fflint yn 1277. O’r fan hon gallwch gerdded – neu feicio ar Lwybr Beiciau Cenedlaethol 5 – heibio ceg y foryd i Dwyni Gronant sy’n llawn bywyd gwyllt, ac ymlaen i gyrchfannau glan y môr enwog y Rhyl a Phrestatyn.

Dechrau: Castell y Fflint CH6 5PH

Cysylltwch

Dechrau: Castell y Fflint

Delweddau