Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Corwen vintage home emporium

#carubusnesaulleol yng Nghorwen gyda Vintage Home Styles Emporium a chaffi

Mae Carole Derbyshire-Styles wedi bod yn berchen ar y Vintage Home Styles Emporium yng Nghorwen ers chwe blynedd ac mae’n cynnig amrywiaeth fendigedig o hen greiriau, hen ddodrefn crand a phethau i’r cartref.

Ar ôl bod ar gau am gyfnod oherwydd y pandemig Covid-19, aeth Carole ati i ehangu ei siop wreiddiol i le mwy ar Heol Llundain sydd hefyd â chaffi erbyn hyn.

Yn ogystal â chynnig dewis mwy helaeth o eitemau, mae Carole yn cynnal marchnad ar ddydd Sul cyntaf bob mis gan roi lle i werthwyr dodrefn a chrefftwyr yn ogystal â therapydd harddwch a hyfforddwr personol, ac fe gynhelir y digwyddiadau nesaf ar 5 Rhagfyr.

Arferai Carole fod yn nyrs yn Ysbyty Glan Clwyd, ac mae’n dweud: “Dwi wastad wedi bod efo diddordeb mewn prynu a gwerthu dodrefn, mi ddechreuais i fynd i ocsiynau efo fy nhad pan oeddwn i’n byw yn Lerpwl.

Corwen vintage home emporium

“Mi symudais i Gorwen dri deg un o flynyddoedd yn ôl efo babi deg diwrnod oed a phlentyn arall oedd yn bedair. Roedden ni’n adeiladu tŷ ein hunain ac roedd pres yn brin, ond mi ddechreuais i fynd i ocsiynau i brynu dodrefn i’r tŷ a wnes i byth roi’r gorau iddi.

“Ar ôl i’r genod adael cartref mi ddaeth hi’n amser imi drio gwireddu fy mreuddwyd ac agor siop fy hun, a dyna lle ddechreuodd y Vintage Home Styles Emporium.

“Rydyn ni’n cynnig lle braf i bobl ddod i chwilota drwy hen greiriau, hen ddodrefn crand, pethau i’r cartref a chrefftau, i gyd o ansawdd da, ac mae’n lle cysurus i gwrdd efo ffrindiau, cael paned neu damaid o ginio a sgwrs.”

Mae Carole yn cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, sydd â’r nod o annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Mae Carole yn dweud y gall prynu hen greiriau a hen ddodrefn ac anrhegion crand gael effaith gadarnhaol ar newid hinsawdd.

Meddai: “Mae ailgylchu’n rhan fawr o fy musnes i, mae uwchgylchu ac ailddefnyddio dodrefn yn hytrach na’i fod yn cael ei gladdu o dan ddaear yn rhan fawr o fy ethos gwaith.

“Mae prynu hen greiriau a hen ddodrefn crand yn rhoi steil unigryw i’r cartref, ond mae hefyd yn golygu nad ydi’r eitemau’n mynd i safleoedd tirlenwi a bod dim angen gwneud dodrefn newydd, ac felly mae’n osgoi’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n digwydd wrth gynhyrchu pethau newydd, eu pecynnu, eu cludo a chael gwared arnyn nhw.”

Mae Vintage Home Styles Emporium yn un o blith nifer o fusnesau annibynnol lleol ledled Sir Ddinbych ac mae Carole yn annog siopwyr i ymweld â threfi’r Sir y Nadolig hwn.

Meddai: “Dwi wrth fy modd yn sôn wrth bobl am Gorwen, y llefydd braf i fynd am dro a phethau fel yr amgueddfa, y trên stêm a holl hanes difyr y dref. Mae yma lwyth o siopau, caffis, bwytai a thafarndai gwerth chweil, ac ar ôl y deunaw mis diwethaf mae’n bwysig fod pobl leol yn ein cefnogi ni’r gaeaf yma. Dysgwch fwy am Gorwen. Neu lawrlwythwch ein llwybr tref yma.

Corwen

“Mae siopa’n lleol yn rhoi hwb aruthrol i fusnesau lleol ac mae’n helpu i gynnal ein economi a chreu swyddi yma yn Sir Ddinbych. Dwi’n annog pawb yn y sir i ymweld â’u trefi lleol i weld beth sydd ar gael.”

Gall siopwyr helpu drwy rannu profiadau a chynnyrch da ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn rhoi gwybod i bobl eich bod wedi siopa’n lleol y gaeaf hwn ac yn argymell fod pobl eraill hefyd yn #CaruBusnesauLleol.