Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Rhodd natur yr Hydref hwn

 

Fe gwrddais i â Lisa ym Mhlas Newydd, Llangollen  ar bnawn hyfryd o hydref.  Fe fuon ni’n ffodus; roedd y tywydd yn berffaith i fynd i fforio yn ardal goediog y Glyn.

Fy unig brofiad blaenorol o fforio am fadarch oedd mynd gyda fy Nhad yn ôl yn y 70au hwyr, pan oedd o’n arfer fy neffro i gyda’r wawr a’n gyrru ni yn ei dryc agored i goetir cyfagos.  Rydw i’n cofio y byddai yna haen o darth yn gorchuddio’r gwellt gwlithog ar y boreau hynny wrth i mi ddilyn ôl traed araf a phwyllog Dad, yn teimlo’n bwysig gan mai fi oedd yn gyfrifol am gario basged wiail Mam fyddai’n dal ein trysor.  Roedden ni wastad yn dawel ac yn sibrwd wrth ein gilydd, oedd yn ychwanegu at y cyffro, cyn iddo stopio’n stond gan wneud i mi daro yn ei erbyn yn amlach na pheidio, ac amneidio at fadarchen y maes fawr berffaith, estyn am ei gyllell boced ffyddlon i dorri’r coesyn, ac yna ei gosod yn ofalus yn y fasged.  Yn fy ngolwg i, roedden nhw mor fawr â phlatiau bychain a doedden ni wir ddim angen llawer i gael gwledd.  Yna, fe fydden ni’n gyrru adref ac fe fyddai Dad yn torri’r madarch mor fawr â stêcs ac yn eu ffrio yn y badell cyn i ni fwynhau ein brecwast blasus gyda thost a menyn. Dyna’r unig dro i mi gofio Dad yn coginio.

Ffwng Stecen Eidion yn diferu gyda ‘gwaed’

Wrth i ni gamu’n ofalus i lawr y grisiau graddol i’r Glyn, fe gefais i ychydig o gefndir gan Lisa am sut y sbardunwyd ei diddordeb hi ym mhopeth i’w wneud â ffyngau. Fe dreuliodd hithau ei phlentyndod hefyd yn casglu madarch y maes yn y bore bach gyda’i thad, a dyna oedd hyd a lled ei phrofiad o fforio hyd nes tua wyth mlynedd yn ôl pan aeth ati i drefnu un trip olaf fel anrheg gadael i ffrind iddi a oedd yn mudo i Awstralia – taith fadarch yn Croydon! Fe gafodd y daith hon a drefnwyd gan Wild Food UK argraff fawr iawn ar Lisa, gan CHWALU ei chred flaenorol bod y rhan fwyaf o fadarch gwyllt yn hynod wenwynig, ac mai dim ond madarch y maes y dylem ni eu bwyta.  Bu i’r profiad o dreulio ychydig oriau’n chwilota dan wrychoedd ar ymylon parciau yn canfod amrywiaeth eang o fywyd yn agoriad llygad i Lisa – teimlai fel pe bai wedi bod yn cerdded o gwmpas â’i llygaid ar gau ar gyrion y byd arall yma. Yn dilyn y daith, coginiodd y trefnwyr bryd blasus gyda’r hyn yr oedden nhw wedi’i fforio ym maes parcio rhyw dafarn; fel y mae’n digwydd, doedd y ffrind oedd yn mudo ddim hyd yn oed yn hoffi madarch…ond roedd Lisa wedi gwirioni. O’r funud honno ymlaen, roedd yn benderfynol o gadw ei llygaid ar agor – felly drwy lyfrau, gwefannau, fideos YouTube ac yn bwysicaf, drwy gerdded, datblygodd Lisa ei gwybodaeth a’i hyder.

Lisa gyda phêl pwffr enfawr

Mae’n ymddangos bod mwy i ffyngau na madarch yn unig … y corff hadol yw’r madarch, eglurodd Lisa i mi, mae’r gweddill yn digwydd o’r golwg – yn y pridd, y coed, y planhigion ac hyd yn oed mewn anifeiliaid. Yr hyn rydyn ni’n ei weld fel madarch yw’r cyfrwng y mae’r ffyngau yn ei ddefnyddio i ledaenu ei sbôr neu ei ‘had’. Yr adeg orau i fynd i chwilio am y mwyafrif o fadarch yw yn ystod yr hydref, yn dilyn pwl o dywydd oer a gwlyb yn ddelfrydol. Mae nifer o fadarch arbenigol rydyn ni’n gyfarwydd â’u prynu mewn archfarchnadoedd, fel y madarch siantrel a’r porcini sych, mewn gwirionedd i’w gweld yn helaeth yn ein coetiroedd a’n glaswelltiroedd yn Sir Ddinbych. Mae wystrys y coed (oyster mushrooms) i’w canfod ran helaeth o’r flwyddyn ac yn hoffi tyfu ar goed wedi pydru fel derw, gan eu gwneud yn brin gan fod galw mawr am dderw yn aml fel coed tân. Ond fe lwyddon ni i weld clwstwr bychan yn y Glyn oedd yn argoeli i dyfu’n bryd anhygoel yn yr ychydig ddyddiau nesaf. Un fadarchen fwytadwy a welir yn yr haf yw’r un a elwir yn Ysgwydd Felen, neu Chicken of the Woods yn Saesneg oherwydd ei hymddangosiad pluog, ac fe welsom ni enghraifft wych ym Mhlas Newydd, ond ei bod wedi mynd yn rhy hen i’w bwyta.

Ysgwydd Felen ym Mhlas Newydd

Capiau cwyr sy’n tyfu mewn glaswelltir

Fe gerddom ni’n ddyfnach i’r Glyn, a oedd yn llawn prysurdeb wiwerod a chath hynod chwilfrydig. Wrth i ni archwilio pentwr o goed wedi cwympo, fe welsom ni dyfiant rhyfedd yn ymgodi o’r boncyff. Roedd yn ymwthio allan ychydig fodfeddi o’r boncyff, ac yn ddu fel glo. Roedd Lisa wedi cyffroi ar unwaith, gan fod hwn yn rhywbeth nad oedd hi wedi’i weld o’r blaen. Estynnodd am ei ffôn a thynnu llun, cyn dangos i mi’r peth gorau i’w wneud os dewch chi ar draws rhywbeth nad ydych chi’n ei adnabod – defnyddio’r ap Google image, “fe allwch chi chwilio’r we gan ddefnyddio’r llun, yn hytrach na theipio geiriau”. Dywedodd yr ap wrthym ni ein bod wedi dod ar draws Bysedd y Meirw. Yna fe welsom ni ddafadennau ffawydd ar bren ffawydd wedi pydru, a rhywbeth a elwir yn addas iawn yn llwydni llysnafeddog Tapioca sydd, yn ôl Lisa, “yn edrych fel petai rhywun wedi taflu uwd ar foncyff”.  Mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau o’r hyn a elwir yn fadarch anfwytadwy, ond nid yn wenwynig. Ond i Lisa, nid y bwyta sy’n bwysig o reidrwydd gyda madarch – mae ei diddordeb yn ymwneud â’u hamrywiaeth a’u lliwiau a’r hyn y gallan nhw ei ddysgu i ni am ein tirweddau. Drwy ffyngau, mae Lisa wedi dod i ddeall mwy am y tywydd, coed ac ecoleg, ac mae yna wastad fwy i’w ddysgu.

Lisa yn archwilio’r Bysedd y Meirw a ganfuom

Parasol yn Ninas Bran

Mae ffyngau yn deyrnas ynddyn nhw eu hunain, dydyn nhw ddim yn blanhigion nac yn anifeiliaid, maen nhw’n amrywio’n eang o ran maint, o ficro-organebau i rai o’r organebau hysbys mwyaf ar dir, a hyd yma, mae yna dros 100,000 o rywogaethau. Mae gan nifer briodweddau meddyginiaethol rydym ni wedi anghofio’n llwyr amdanyn nhw. Daethpwyd o hyd i Otzi, y dyn iâ, a ddarganfuwyd yn yr Alpau ym 1991 wedi’i rewi ers dros 5,000 o flynyddoedd, gyda dau fath o ffwng yn ei god, un o’r enw pelen ddu, sy’n gwneud coed tân gwych, ac ysgwydd y fedwen, sydd â rhinweddau meddyginiaethol gwrthfacterol posib, sy’n arwydd bod buddion ffyngau yn hysbys dros 5,000 o flynyddoedd yn ôl, ond bod cymaint o’r wybodaeth hon wedi’i cholli dros amser.

Un o hoff ganfyddiadau bwytadwy Lisa yw’r goden fwg, gan nad ydi’n edrych fel un dim arall – “unwaith y byddwch chi’n gwybod am beth rydych chi’n chwilio, rydych chi wastad yn ddiogel gyda choden fwg”, meddai. Maen nhw i’w canfod mewn glaswelltir ac yn gallu tyfu’n enfawr. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cofio eu cicio fel peli troed yn blant!  Fe ddaethon ni ar draws un yn nes ymlaen yn Rhaeadr y Bedol, ac fe aeth Lisa ag o adref i swper. “Fy hoff ffordd i o’u bwyta nhw ydi wedi’u ffrio mewn menyn, sef y ffordd orau o fwyta unrhyw beth”.

Mae Lisa’n cynnal sgyrsiau’n aml gan ddangos sleidiau i grwpiau lleol fel Sefydliad y Merched a chlybiau garddio, a’r fadarchen sy’n peri’r chwerthin mwyaf yw’r Cingroen, sy’n arogli fel marwolaeth a phydredd er mwyn denu anifeiliaid i ledaenu ei sborau… ond mae hefyd yn edrych braidd yn anweddus!

Wrth i ni barhau i gerdded, fe welsom ni hefyd ffwng ysgwydd oedd yn edrych fel cwrel a’r capiau inc, a gafodd eu henw am eu bod yn ymdoddi’n inc a ddefnyddiwyd yn y gorffennol i luniadu. Bob tro, roedd Lisa yn fy annog i gyffwrdd ac arogli’r hyn roedden ni’n ei ganfod, gan egluro bod adnabod madarch yn golygu mynd yn agos atyn nhw – cymryd printiau o’r sborau, dysgu am y tagellau a sut maen nhw’n teimlo ac yn arogli. Fe ddywedodd hefyd ei bod yn arfer dda wrth fforio i gymryd ychydig yn unig o’r hyn rydych chi ei angen, gan wneud yn siŵr bob tro bod yna ddigon ar ôl.

Mae’n ymddangos y bydd madarch hefyd o fudd gyda’n pryderon dybryd ni am yr hinsawdd a llygredd –  mae ffyngau bellach yn cael eu defnyddio i greu deunydd pecynnu, sy’n lleihau’r angen am blastig ac yn gwbl bydradwy; gellir defnyddio wystrys y coed i lanhau olew sydd wedi gorlifo.

Cyflwynodd Lisa fi i waith Merlin Sheldrake, sef biolegydd ac awdur, y mae ei lyfr, Entangled Life, yn gipolwg hynod ddiddorol ar sut mae ffyngau’n llunio ein byd, yn gallu newid ein meddyliau a siapio’n dyfodol.  Mae gwaith ymchwil blaenllaw ar y ‘we coed eang’ yn awgrymu bod gan ffyngau system gyfathrebu danddaearol sy’n gweithredu i helpu’r ddaear a phlanhigion i gydfyw’n gytûn. Fe fuon ni’n trafod sut y gall pobl ganolbwyntio gormod ar gadw ein hamgylchedd yn ‘daclus’, ac fe hoffai Lisa weld mwy o fannau gwyllt naturiol gyda choed wedi cwympo ac yn pydru, a phlanhigion yn cael aros lle maen nhw i helpu organebau fel ffyngau i ffynnu.

Porcini wrth Afon Dyfrdwy

Felly mae’n ymddangos fod Ffyngau ym mhobman, ond ei bod yn hawdd peidio â sylwi arnyn nhw nes y byddwch chi’n dechrau chwilio. Roedd brwdfrydedd Lisa yn heintus, ac rydw i eisoes yn llawn cyffro am gael mynd ar fy nhaith gerdded hydrefol nesaf gyda’m llygaid ar agor led y pen.

Fly Agaric in Glyndyfrdwy

 

Cofiwch ddilyn y cod cefn gwlad ac ymddwyn yn gyfrifol a chofiwch eich addysgu eich hun yn gyntaf cyn bwyta unrhyw ffyngau.

 

Mae The Forge yng Nghorwen a’r Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari ill dau’n cynnig cyrsiau fforio, yn ogystal â Wild Food UK.