Goleuo strwythur eiconig ar gyfer dathliad 10 mlynedd arbennig

MAE disgwyl i arddangosfa oleuadau o strwythurau eiconig ar hyd coridor 11 milltir Safle Treftadaeth y Byd Dyffryn Dyfrdwy ger Llangollen ddenu miloedd o ymwelwyr fis yma.   Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 7 a 27 Hydref i ddathlu 10 mlynedd ers i Dyfrbont Pontcysyllte, strwythur syfrdanol Thomas Telford o’r bedwaredd ganrif […]

MAE disgwyl i arddangosfa oleuadau o strwythurau eiconig ar hyd coridor 11 milltir Safle Treftadaeth y Byd Dyffryn Dyfrdwy ger Llangollen ddenu miloedd o ymwelwyr fis yma.

 

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 7 a 27 Hydref i ddathlu 10 mlynedd ers i Dyfrbont Pontcysyllte, strwythur syfrdanol Thomas Telford o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Masn Trefor, ennill Statws Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2009.

 

Mae’n cyd-daro hefyd â chynnal Cynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Treftadaeth y Byd y DU yn Llangollen, ar y thema ‘Making The Most Of World Heritage’, ar 7-8 Hydref.

 

Mae pob safle’n unigryw ac naill ai wedi’i raddio, yn heneb gofrestredig neu’r ddau, a byddant yn cael eu goleuo gan y cwmni goleuo arbenigol Enlightened o Fryste am ddwy awr bob nos rhwng 7.30pm a 9.30pm.

 

Dyma’r safleoedd a gaiff eu goleuo:

 

Dyfrbont, Y Waun (Heneb Gofrestredig Gradd II)

Traphont, Y Waun (Gradd II)

Dyfrbont Pontcysyllte, Trefor (Heneb Gofrestredig Gradd I)

Castell Dinas Bran, Llangollen (Heneb Gofrestredig)

Rhaeadr y Bedol, Llangollen (Gradd II)

 

Mae’r trefnwyr yn credu y bydd yr olygfa, sy’n gwneud y strwythur 126 troedfedd yn ganolbwynt i’r dathliadau, yn dod yn fyw yn y tywyllwch, ac yn annog pobl leol a thwristiaid i archwilio’r pum strwythur ar hyd Camlas Llangollen o Langollen i’r Waun, yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Ei fwriad yw ymestyn tymor twristiaeth 2019 i hybu economi leol yr ardal.

 

Meddai Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Wrecsam Terry Evans, Aelod Arweiniol o’r Tîm Gweithredol ac aelod o Fwrdd Statws Treftadaeth y Byd: “Rwy’n edrych ymlaen at weld y strwythurau wedi’u goleuo, a fydd yn pwysleisio eto bod Safle Treftadaeth y Byd yn goridor 11 milltir ac yn annog pobl i ymweld â mwy ohono. Mae’n wych y bydd y digwyddiad hwn yn para tair wythnos, gan roi cyfle i fwy o bobl ymweld â’r ardal a rhyfeddu ar yr olygfa.”

 

Meddai Adnan Saif, cyfarwyddwr rhanbarthol Glandŵr Cymru: “Mae Camlas Llangollen yn ddyfrffordd hardd ac yn lle hyfryd i ymweld ag ef drwy’r flwyddyn. Mae ymchwil yn dangos bod treulio amser ger y dŵr yn eich gwneud chi’n hapusach ac yn iachach, a bydd y digwyddiad goleuo hwn yn galluogi ymwelwyr i weld y gamlas mewn golau gwahanol ac yn helpu i ddathlu deng mlynedd ers iddi ddod yn Safle Treftadaeth y Byd.”

 

Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu cefnogi’r prosiect cyffrous hwn sy’n ffordd wych o ddathlu 10 mlynedd ers i Dyfrbont Pontcysyllte ennill Statws Treftadaeth y Byd. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy weithio mewn partneriaeth a sut gall syniadau arloesol fel hyn ein helpu ni i fanteisio’n llawn ar ein Safleoedd Treftadaeth y Byd.”

 

Ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb gyllid gan Croeso Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, na heb ganiatâd tirfeddianwyr preifat a Network Rail, sydd wedi rhoi caniatâd i oleuo Traphont Y Waun.

 

Gallwch chi weld y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau arbennig Dyfrbont Pontcysyllte ar ei thudalen Facebook arbennig neu drwy Twitter neu Instagram.

 

 

NODIADAU I OLYGYDDION:

Ynglŷn â Dyfrbont Pontcysyllte a choridor 11 milltir Safle Treftadaeth y Byd Camlas Llangollen

 

  • Daeth Dyfrbont Pontcysyllte a Chamlas Llangollen yn Safle Treftadaeth y Byd ar 27 Mehefin 2009.
  • Mae Dyfrbont Pontcysyllte yn adeilad rhestredig gradd un a heneb gofrestredig sy’n ganolbwynt ar gyfer coridor 11 milltir y Safle Treftadaeth y Byd.
  • Adeiladwyd Dyfrbont Pontcysyllte gan Thomas Telford a William Jessop rhwng 1796 a 1805 yn ystod y Chwyldro Diwydiannol er mwyn gallu cludo llechi a chalchfaen o chwareli yn y Gogledd i Ganolbarth Lloegr a thu hwnt.
  • Mae’r dyfrbont yn 1,000 troedfedd (307 metr) o hyd, yr hiraf ym Mhrydain, ac ar ei phwynt uchaf, mae hi 126 troedfedd (38.4 metr) uwchben Afon Dyfrdwy.
  • Mae’r cafn haearn bwrw, sy’n dal 330,000 galwyn (1.5 miliwn litr) o ddŵr, yn 11 troedfedd o led a 5 troedfedd 3 modfedd o ddyfnder. Mae’n cael ei wacáu trwy dynnu plwg enfawr yn y canol ac mae’n cymryd dwy awr i ddraenio.
  • Mae 19 o fwâu cain ac 18 o bileri tywodfaen main, pob un â rhychwant o 45 troedfedd.

 

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan yr elusen Glandŵr Cymru, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych fel rhan o ddathliadau 10 mlynedd Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte a Chamlas Llangollen. Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF) a chymorth trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru, y Gronfa i wella profiad ymwelwyr a chreu cyrchfannau cryfach trwy gydweithio. Mae’r prosiect wedi elwa hefyd ar Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol trwy Brosiect Ein Tirlun Darluniadwy.

 

 

 

I gael mwy o wybodaeth am ymweld â Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte a Chamlas Llangollen a digwyddiadau arbennig i ddathlu 10 mlynedd ers ennill Statws Treftadaeth y Byd, neu i gefnogi’r strwythurau treftadaeth 200 oed hyn trwy gyfrannu arian neu wirfoddoli gyda Glandŵr Cymru, ewch i www.glandwrcymru.org.uk

 

Mae Glandŵr Cymru yn gofalu am 2,000 o filltiroedd o gamlesi ac afonydd ar draws Cymru a Lloegr. Credwn fod gan ddyfrffyrdd y pŵer i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a bod treulio amser yn ymyl dŵr yn gallu ein gwneud ni’n iachach a hapusach. Trwy ddod â chymunedau ynghyd i wneud gwahaniaeth i’w dyfrffordd leol, rydym yn creu llefydd a mannau y gall pawb eu defnyddio a’u mwynhau, bob dydd.