Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Porth y Dŵr – y Tŷ Dirgel!

Agorwch y drws a syrthio mewn cariad â’r Tŷ Dirgel sydd wedi’i guddio y tu mewn! Mae Porth y Dŵr, y tŷ Gradd II, yn un o’r tai hynaf yn Rhuthun ac mae ei hen nodweddion gwreiddiol wedi cael eu hadfer yn ofalus i ddarparu lleoedd unigryw ac anhygoel yn llawn teimlad tawel a digynnwrf sydd ond yn digwydd â threigl amser. I gael profiad hanesyddol heb ei ail, peidiwch â methu’r profiad o aros ym Mhorth y Dŵr.

 

Mae gan yr ystafell fyw agored le cyfforddus i eistedd o flaen tân agored, bwrdd mawr i fwyta arno a chornel dawel i fyfyrio ynddi. Drwy’r bwa gothig mae cegin fodern fawr. I fyny’r grisiau, mae gan y brif ystafell wely â’i llawr derw a phaneli coed, wely maint brenin ac ystafell ymolchi en suite. Mae ail ystafell wely olau â dau wely sengl ac ystafell ymolchi fawr i deulu.  Croeso i gŵn.

Cysylltwch

65 Clwyd Street, Ruthin LL15 1HN