Ymweld â’r Bwcle

Saif tref Bwcle ar gadwyn o fryniau sy’n rhedeg rhwng dyffryn Afon Alyn a’r gwastadedd cul ger Aber Afon Dyfrdwy lle ceir golygfeydd hardd o Fryniau Clwyd i un cyfeiriad ac Afon Dyfrdwy i’r cyfeiriad arall.

Mae pobl wedi byw yn yr ardal hon ers cannoedd o flynyddoedd.  Mae olion yr oesoedd a fu yn dal i gael eu darganfod ac mae tystiolaeth y bu anheddiad yma yn yr Oes Efydd.  Mae’r ardal wedi’i dylanwadu arni gan fewnlifiadau o Geltiaid, Rhufeiniaid,      Eingl- Sacsoniaid a Normaniaid  ac o’r dylanwadau hyn y datblygodd gwareiddiad a diwylliant yr ardal.  Roedd crefydd a chyfiawnder, gweithfeydd mwyn a chrochendai, amaethyddiaeth a ffyrdd da ymysg y manteision a ddaeth yn sgil y mewnfudwyr, a thyfodd Bwcle i fod yn ganolfan ddiwydiannol brysur o weithfeydd brics, crochendai a glofeydd.


Mae llwybr treftadaeth Bwcle yn eich tywys o amgylch yr ardaloedd a’r adeiladau o ddiddordeb hanesyddol gan amlygu mwynderau cyhoeddus yr ardal.  Mwynhewch ddysgu am hanes y dref a’r cyffiniau.  Mae yna hefyd Lwybr Tref.  Gellir mwynhau’r ddau lwybr o unrhyw un o’r lleoliadau sydd wedi’u rhannu’n ddau liw: glas ar gyfer y Llwybr Tref a choch ar gyfer y Llwybr Treftadaeth. Mae gwybodaeth am y llwybrau tref a threftadaeth ar gael yn yma.


Mae gan Fwcle hefyd draddodiad balch o ddod a’r gymuned at ei gilydd drwy Jiwbilî flynyddol y dref.  Sefydlwyd y Jiwbilî yn 1856 ac yn draddodiadol fe’i cynhelir ar yr ail ddydd Mawrth ym mis Gorffennaf.  Mae’n sefydliad y mae gan ddinasyddion Bwcle falchder mawr ynddo. Yn ôl pob sôn sefydlwyd y Jiwbili gan griw o anghydffurfwyr a oedd â’u bryd ar hyrwyddo dirwest yn y gymuned. I’r perwyl hwnnw trefnwyd gorymdaith i ddangos undod gyda diwrnod maes a gala gemau ar gyfer y plant a bwyd a diod di-alcohol.  Yn 2006 dathlodd y Jiwbilî ei phen-blwydd yn 150. Bob blwyddyn bydd Band Tref Brenhinol Bwcle’n cyfeilio’r canu yn yr ŵyl awyr agored a gynhelir ar y Comin Uchaf i agor yr Jiwbilî a chodir baneri yn yr amrywiol Eglwysi.  Ymunodd yr Ysgolion Sul Anglicanaidd yn y Jiwbilî yn 1933 ac chymerodd  Eglwys Gatholig Arglwyddes y Rosari ran yn yr orymdaith am y tro cyntaf yn 1970.


Mae Bwcle’n ffodus i fod â dwy warchodfa natur o fewn y dref ei hun, sef Lane End a Spon Green yn ogystal â chomin hyfryd lle gallwch fwynhau mynd am dro neu bysgota.
Ar gyrion Bwcle mae Clwb Golff Padeswood a Maes Ymarfer Golff Bannel.  Mae’r cwrs golff yn un arbennig o hardd gyda meysydd gwyrdd o safon uchel wedi’u hamgylchynu â choed. Mae Afon Alyn,  nentydd ac afonydd yn rhedeg drwy’r cwrs sy’n golygu bod dŵr yn rhan o her y chwarae yn 11 o’r tyllau – hyn oll ar gwrs golff yn harddwch cefn gwlad Clwyd.
Ym Mwcle hefyd mae clwb cerddoriaeth fyw o’r enw The Tivoli Venue. Yn sinema a theatr yn y 1920au mae’r clwb wedi’i drawsnewid sawl gwaith dros y blynyddoedd.


Mae i’r clwb awyrgylch unigryw a thanddaearol sy’n wahanol iawn i’r arenau mawr (a weithiau di-enaid) modern a geir heddiw. Mae’r Tivoli Venue mewn gwirionedd yn ddau leoliad mewn un – ystafell sy’n dal 500 a neuadd fwy sy’n dal hyd at 1000. Yn ystod y 70au, yr 80au a’r 90au daeth toreth anhygoel o fandiau drwy’r drysau ac ystyriwyd y Tivoli’n un o’r llefydd gorau i berfformio, felly ôl 15 mlynedd fel clwb nos mwy arferol penderfynwyd ceisio ail-greu llwyddiant y gorffennol.  Roedd 2010 yn gam mawr yn y cyfeiriad cywir  ac mae’r Tivoli ar hyn o bryd yn mwynhau adfywiad fel rhywle blaenllaw ar y sîn cerddoriaeth fyw.
Mae canol tref Bwcle yn ardal i gerddwyr yn unig gyda chanolfan siopa fodern a siopau gwerth chweil. Yn y dref ei hun ac yn yr ardaloedd cyfagos mae caffis a bwytai da, felly mae’r dref yn sicr yn rhywle sy’n werth ymweliad.


Mae gan Ogledd Ddwyrain Cymru ei ap llwybrau ei hun; am ragor o wybodaeth cliciwch ar yma
#FforddGogleddCymru #GogleddDdwyrainCymru #Sir y Fflint
#Antur #Golff #Tirwedd #Cerdded #Treftadaeth #BwydaDiod