{"id":2366,"date":"2023-04-05T12:12:19","date_gmt":"2023-04-05T11:12:19","guid":{"rendered":"http:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/ruthin-town-trail\/"},"modified":"2024-11-06T15:39:39","modified_gmt":"2024-11-06T15:39:39","slug":"ruthin-town-trail","status":"publish","type":"lsvr_project","link":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/","title":{"rendered":"Llwybr Tref Rhuthun"},"content":{"rendered":"<p class=\"main-header__subtitle\">Mae awdur a cyn-chadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Simon Jenkins, yn disgrifio Rhuthun fel \u201cun o drefi bychain mwyaf swynol Cymru\u201d. Wrth ddilyn llwybr cylchol y dref fe welwch pam ei fod yn dweud hynny.<\/p>\n<div class=\"town-trails\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-11445 size-full\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-650px.jpg\" alt=\"\" width=\"650\" height=\"363\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><a class=\"new-red-button\" href=\"\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Ruthin-trail-2024.pdf\">Lawrlwythwch y llwybr<\/a><\/p>\n<div class=\"town-trails-info\">\n<p><strong>Pellter:<\/strong> 1.5 miles \/ 2.4 km<br \/>\n<strong>Pa mor anodd yw\u2019r llwybr?:<\/strong> Mae rhai rhannau serth ac ar i fyny<br \/>\n<strong>Walking time:<\/strong> 90 munud<br \/>\n<strong>Start point:<\/strong> Maes parcio Cae Dd\u00f4l LL15 1HN<br \/>\n<strong>Cludiant cyhoeddus:<\/strong> Traveline Cymru <a style=\"color: #ffffff; text-decoration: underline;\" href=\"tel:08004640000\">0800 464 0000<\/a>,<br \/>\nYmholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol <a style=\"color: #ffffff; text-decoration: underline;\" href=\"tel:03457484950\">03457 484950<\/a><\/p>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-map\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-21377\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-trail-map.jpg\" alt=\"Ruthin Town Trail map\" width=\"2157\" height=\"2415\" \/><\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21379\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-tt-01.jpg\" alt=\"Cae Dd\u00f4l\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">1<\/div>\n<h3>Cae Dd\u00f4l<\/h3>\n<p>Mae\u2019n si\u0175r eich bod chi ar bigau drain eisiau dechrau\u2019r llwybr hwn o amgylch un o drefi bychain mwyaf diddorol a phrydferth Cymru. Ond<br \/>\npeidiwch \u00e2 rhuthro i ffwrdd eto. Mae Cae Ddol, y parc bach hyfryd y tu \u00f4l i chi, yn werth ei weld. Ewch am dro ar lan yr Afon Clwyd wrth iddi ymdroelli drwy\u2019r dolydd dw\u02c6 r naturiol. Gwyliwch yr hwyaid a\u2019r elyrch ar y llyn. Ac os oes gennych chi blant, ewch \u00e2 nhw i\u2019r iard chwarae neu\u2019r parc sglefrio.<\/p>\n<p><strong>Yna, unwaith yr ydych yn barod, ewch ymlaen i Heol Clwyd o\u2019r maes parcio a throwch i\u2019r dde.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21381\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-tt-02.jpg\" alt=\"Ruthin Gaol\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">2<\/div>\n<h3>Carchar Rhuthun<\/h3>\n<p>Mae\u2019r \u201cCyweirdy\u201d, lle roedd y crwydriaid a\u2019r di-waith yn cael eu rhoi ar waith wedi bodoli ar waelod Stryd Clwyd ers 1654. Adeiladwyd yr adain arddull-Pentonville a digroeso yng nghefn y cwrt ym 1868, a dyma\u2019r unig un ym Mhrydain sydd ar agor i\u2019r cyhoedd. Gallwch archwilio\u2019r holl dyllau a holltau iasol, a chanfod beth oedd y carcharorion yn ei fwyta (grual, grual a mwy o rual) a chlywed am y cosbau a ddioddefwyd ganddynt sy\u2019n siw\u02c6 r o godi ias arnoch. Gallwch hyd yn oed gael cipolwg yng nghell y dyn a gondemniwyd os ydych yn ddigon dewr.<\/p>\n<p><strong>Trowch i\u2019r dde i Upper Clwyd Street a pharatowch eich hunain am ddringfa byr a serth.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21383\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-tt-03.jpg\" alt=\"The Old Courthouse\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">3<\/div>\n<h3>Yr Hen Lys<br \/>\nBarn<\/h3>\n<p>O\u2019ch blaen mae Hen Lys Barn godidog gyda hanner ohono wedi\u2019w wneud allan o bren. Adeiladwyd y llys tua 1421 i gymryd lle yr adeilad a losgwyd i\u2019r llawr gan yr ymladdwr rhyddid Cymreig Owain Glyndw\u02c6 r. Tydi\u2019r crocbren ar y talcen gorllewinol heb gael ei ddefnyddio mewn dicter ers i offeiriad Ffransisgaidd gael ei grogi ym 1674.<\/p>\n<p>Y tu allan ac yn ymyl Banc Barclays mae carreg anferth o\u2019r enw Maen Huail lle yn \u00f4l y s\u00f4n roedd y Brenin Arthur, ac yn sicr nid oedd yn syniad da cythruddo\u2019r gw\u02c6 r hwn, wedi dienyddio gw\u02c6 r arall a oedd yn cyd-gystadlu ag ef am gariad merch.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21385\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-tt-04.jpg\" alt=\"Nantclwyd y Dre\" width=\"400\" height=\"551\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">4<\/div>\n<h3>Nantclwyd y Dre<\/h3>\n<p>Mae Stryd y Castell yn llawn tai cyfnod ysblennydd. Y gorau o\u2019r rhain yw Nantclwyd y Dre, y ty\u02c6 tref pren hynaf yng Nghymru. O tua 1435, bu dan feddiannaethbarhaol am fwy na pum canrif \u2013 cafodd y portsh flaen eiconig ei ychwanegu gan Eubule Thelwell ym 1693. Mae\u2019r saith ystafell wedi\u2019u hatgyweirio\u2019n rhagorol yn dweud hanes \u201cSaith Oes\u201d Nantclwyd a\u2019r bobl oedd yn byw drwy\u2019r oesau. Cofiwch fynd am dro hamddenol o amgylch Gardd yr Arglwydd, a grybwyllwyd am y tro cyntaf ym 1282, ac a fu unwaith yn berllan a gardd cegin ar gyfer Castell Rhuthun sydd drws nesaf.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21387\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-tt-05.jpg\" alt=\"Ruthin Castle Gateway\" width=\"400\" height=\"570\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">5<\/div>\n<h3>Porth Castell<br \/>\nRhuthun<\/h3>\n<p>Mae mwy i Gastell Rhuthun na\u2019r hyn a welir ar yr olwg gyntaf. Dim ond smalio bod yn ganoloesol mae\u2019r adeilad tywodfaen coch enfawr. Cafodd ei adeiladu ym 1826 a\u2019i ymestyn ym 1848-52 gan yr un pensaer, Henry Clutton a ddyluniodd y porth a\u2019r porthdy hwn mewn arddull Gothig ysblennydd. Ond mae rhywbeth llawer hy\u02c6n oddi tano. Mae\u2019r castell gwreiddiol yn dyddio\u2019n \u00f4l cyn belled \u00e2 1277. Cerddwch drwy\u2019r porth ar y tir sydd bellach yn westy moethus (maent yn fwy na hapus i chi gael gweld) a throwch i\u2019r dde i archwilio\u2019r adfeilion atgofus.<\/p>\n<p><strong>Ewch yn \u00f4l rhan o\u2019r ffordd i lawr Stryd y Castell a throwch i\u2019r dde ar Stryd y Llys.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21389\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-tt-06.jpg\" alt=\"Ruthin Library\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">6<\/div>\n<h3>Llyfrgell Rhuthun<\/h3>\n<p>Peidiwch \u00e2 chael eich twyllo gan ddiben diniwed presennol yr adeilad. Dyma\u2019r trydydd adeilad ar ein taith sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 throsedd a chosb. Adeiladwyd y ty\u02c6 ym 1785 i gadw cofnodion Brawdlys Mawr, a daeth yn lys yn ei rinwedd ei hun a chafodd y cyntedd trawiadol gyda\u2019r colofnau Dorig eu hychwanegu yn y 1860au. Y tro diwethaf i\u2019r llys gyfarfod yma oedd ym 1974, ond parhaodd fel Llys Ynadon tan 1986. Erbyn hyn y ddedfryd waethaf sy\u2019n cael ei rhoi yw dirwy am ddychwelyd llyfrau\u2019r llyfrgell yn hwyr.<\/p>\n<p><strong>Trowch i\u2019r dde ar ddiwedd Stryd y Llys \u2013 neu i\u2019r chwith (heibio\u2019r siop lle cafodd anthem genedlaethol Cymru ei hargraffu am y tro cyntaf ym 1860) i gwtogi\u2019r daith.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21391\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-tt-07.jpg\" alt=\"Ruthin Craft Centre\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">7<\/div>\n<h3>Canolfan Grefft<br \/>\nRhuthun<\/h3>\n<p>Ar ddiwedd Stryd y Ffynnon, croeswch drosodd i\u2019r rhes o fythynnod rheilffordd brics coch i ddilyn Rhodfa\u2019r Orsaf. Croeswch y gylchfan i mewn i L\u00f4n Parcwr, trowch i\u2019r chwith i mewn i faes parcio\u2019r ganolfan grefftau a mynd i mewn trwy\u2019r cwrt.<\/p>\n<p>Canolfan Grefft Rhuthun yw\u2019r oriel gelf gymhwysol bwysicaf yng Nghymru. Mae\u2019r waliau cerrig a tho sinc drosto yn adlais o Fryniau Clwyd sydd yn eu hunain yn gelfyddydwaith. Y tu mewn mae tair oriel, stiwdios gwneuthurwyr, siop a chaffi yn ogystal \u00e2 rhaglen brysur o sgyrsiau, digwyddiadau a gweithdai. Felly, os ydych wedi\u2019ch ysbrydoli gan y grefft, gallwch ddod yn \u00f4l a gwneud crefft eich hun.<br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.canolfangrefftrhuthun.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.canolfangrefftrhuthun.org.uk<\/a><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21393\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-tt-08.jpg\" alt=\"Town and Market Halls\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">8<\/div>\n<h3>Neuadd y<br \/>\nDref a Neuadd<br \/>\ny Farchnad<\/h3>\n<p><strong>Gadewch y ganolfan grefftau drwy\u2019r drws ffrynt, croeswch y brif ffordd i mewn i Troed y Rhiw a throi i\u2019r dde ar Stryd y Farchnad.<\/strong><\/p>\n<p>Tan 1991 byddai ffermwyr lleol yn dod i\u2019r dref ar gyfer marchnad da byw lle mae maes parcio Stryd y Farchnad bellach yn sefyll. Erbyn hyn maent yn cyfarfod y tu allan i\u2019r dref. Ond gyferbyn mae Neuadd y Farchnad (sydd dan do) ac yn dal i fod ar agor rhan fwyaf o\u2019r wythnos yn gwerthu celf, crefftau a chynnyrch lleol, gan gynnwys wyau buarth, porc cartref, jamiau, cyffeithiau a chacennau. Mae Neuadd y Farchnad a Neuadd y Dref yn enghreifftiau gwych o adeilad dinesig yn yr arddull Gothig Fictoraidd.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21395\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-tt-09.jpg\" alt=\"St Peter\u2019s Church\" width=\"400\" height=\"556\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">9<\/div>\n<h3>Eglwys Sant Pedr<\/h3>\n<p><strong>Yn Sgw\u00e2r Sant Pedr, trowch i\u2019r dde heibio\u2019r Myddelton Arms sy\u2019n deillio o\u2019r 17eg ganrif gyda\u2019i ffenestri dormer a elwir yn \u201cSaith Llygad Rhuthun\u201d. Ewch drwy\u2019r giatiau haearn gyr gwych a wnaed gan y brodyr Davies ym 1727, ac i mewn i\u2019r fynwent \u00e2 chi.<\/strong><\/p>\n<p>Adeiladwyd Eglwys Sant Pedr yn 1310, ac mae\u2019n un o eglwysi nodweddiadol Sir Ddinbych sydd \u00e2 dau gorff adeiladol yn perthyn iddo. Ychwanegwyd y toeau pren hyfryd sydd wedi\u2019u haddurno yn gynnar yn y 16eg ganrif, ond codwyd y meindwr tal, sy\u2019n ymddangos i\u2019ch ddilyn chi wrth i chi gerdded o amgylch y dref, o ganlyniad i \u201cadferiad\u201d Fictoraidd. Mewn cornel dawel ger yr eglwys fe ddowch o hyd i\u2019r elusendai a waddolwyd gan Gabriel Goodman ym 1590.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21397\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-tt-10.jpg\" alt=\"Tom Pryce Memorial\" width=\"400\" height=\"570\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">10<\/div>\n<h3>Coflech<br \/>\nTom Pryce<\/h3>\n<p>Mae pawb yn hoffi clywed stori am fachgen lleol yn gwneud yn dda iddo\u2019i hun \u2013 yn enwedig rhywun sydd byth yn anghofio\u2019i wreiddiau. Roedd Rhuthun yng ngwythiennau Thomas Maldwyn Pryce. Un o\u2019r gyrwyr rasio mwyaf talentog ei genhedlaeth, a chafodd ei ladd mewn ras pan redodd marshal diogelwch o flaen ei gar ym 1977 yn y Grand Prix yn Ne Affrica. Roedd Tom yn 27 mlwydd oed pan laddwyd ef. Cafodd y cerfwedd efydd gwych gan y cerflunydd lleol Neil Dalrymple ei ddadorchuddio ar 11 Mehefin 2009. Byddai wedi bod yn ben-blwydd ar Tom yn 60 oed.<\/p>\n<p><strong>Trowch i\u2019r chwith i Mill Street gyferbyn \u00e2 Charchar Rhuthun, cerddwch heibio\u2019r felin o\u2019r 13eg ganrif a throwch i\u2019r dde wrth y pyst i ddychwelyd i faes parcio Cae Dd\u00f4l.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae awdur a cyn-chadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Simon Jenkins, yn disgrifio Rhuthun fel \u201cun o drefi bychain mwyaf swynol Cymru\u201d.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":689,"template":"","meta":{"footnotes":""},"lsvr_project_cat":[565],"lsvr_project_tag":[],"class_list":["post-2366","lsvr_project","type-lsvr_project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","lsvr_project_cat-town-trails-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.1 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Llwybr Tref Rhuthun - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Llwybr Tref Rhuthun - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae awdur a cyn-chadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Simon Jenkins, yn disgrifio Rhuthun fel \u201cun o drefi bychain mwyaf swynol Cymru\u201d.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-11-06T15:39:39+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-town-trail-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"440\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"958\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/\",\"name\":\"Llwybr Tref Rhuthun - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-town-trail-1.jpg\",\"datePublished\":\"2023-04-05T11:12:19+00:00\",\"dateModified\":\"2024-11-06T15:39:39+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-town-trail-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-town-trail-1.jpg\",\"width\":440,\"height\":958,\"caption\":\"Ruthin Town Trail\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Portfolio\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Llwybr Tref Rhuthun\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"name\":\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"description\":\"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\",\"name\":\"North East Wales\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"width\":546,\"height\":188,\"caption\":\"North East Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\",\"https:\/\/x.com\/ntheastwales\",\"https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Llwybr Tref Rhuthun - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Llwybr Tref Rhuthun - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","og_description":"Mae awdur a cyn-chadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Simon Jenkins, yn disgrifio Rhuthun fel \u201cun o drefi bychain mwyaf swynol Cymru\u201d.","og_url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/","og_site_name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","article_modified_time":"2024-11-06T15:39:39+00:00","og_image":[{"width":440,"height":958,"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-town-trail-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_site":"@ntheastwales","twitter_misc":{"Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/","name":"Llwybr Tref Rhuthun - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-town-trail-1.jpg","datePublished":"2023-04-05T11:12:19+00:00","dateModified":"2024-11-06T15:39:39+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-town-trail-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ruthin-town-trail-1.jpg","width":440,"height":958,"caption":"Ruthin Town Trail"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/ruthin-town-trail\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Portfolio","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Llwybr Tref Rhuthun"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","description":"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales","publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization","name":"North East Wales","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","width":546,"height":188,"caption":"North East Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","https:\/\/x.com\/ntheastwales","https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2366","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/lsvr_project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2366\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6868,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2366\/revisions\/6868"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/689"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2366"}],"wp:term":[{"taxonomy":"lsvr_project_cat","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project_cat?post=2366"},{"taxonomy":"lsvr_project_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project_tag?post=2366"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}