{"id":2371,"date":"2023-04-06T15:42:09","date_gmt":"2023-04-06T14:42:09","guid":{"rendered":"http:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/st-asaph-town-trail\/"},"modified":"2024-11-06T15:36:00","modified_gmt":"2024-11-06T15:36:00","slug":"st-asaph-town-trail","status":"publish","type":"lsvr_project","link":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/","title":{"rendered":"Llwybr Tref Llanelwy"},"content":{"rendered":"<p class=\"main-header__subtitle\">Mae Llanelwy \u2013 sydd \u00e2 phoblogaeth o tua 4,000 \u2013 wastad wedi ystyried ei hun fel dinas, ond nid oedd gweddill Prydain yn ymwybodol o hynny nes i\u2019r Frenhines roi anrhydedd dinesig i\u2019r dref yn ystod ei Jiwbil\u00ee Diemwnt.<\/p>\n<div class=\"town-trails\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-11446 size-full\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/st_asaph-650px.jpg\" alt=\"\" width=\"650\" height=\"432\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><a class=\"new-red-button\" href=\"\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/St-Asaph-trail-2024.pdf\">Lawrlwythwch y llwybr<\/a><\/p>\n<div class=\"town-trails-info\">\n<p><strong>Pellter:<\/strong> 1 milltir \/1.6 km gan gynnwys taith gerdded ar lan yr afon<br \/>\n<strong>Pa mor anodd yw\u2019r llwybr?:<\/strong> Gweddol hawdd dringo i fyny\u2019r High Street, gall llwybr glan yr afon fod yn fwdlyd<br \/>\n<strong>Amser yn cerdded:<\/strong> 1 awr<br \/>\n<strong>Man cychwyn:<\/strong> Maes parcio i\u2019r de o\u2019r eglwys gadeiriol LL17 ORD<br \/>\n<strong>Cludiant cyhoeddus:<\/strong> Traveline Cymru <a style=\"color: #ffffff; text-decoration: underline;\" href=\"tel:08004640000\">0800 464 0000<\/a>,<br \/>\nYmholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol <a style=\"color: #ffffff; text-decoration: underline;\" href=\"tel:03457484950\">03457 484950<\/a><\/p>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-map\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-21405\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/stasaph-trail-map.jpg\" alt=\"St Asaph Town Trail Map\" width=\"2171\" height=\"2523\" \/><\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21407\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/stasaph-tt-01.jpg\" alt=\"St Asaph Cathedral\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">1<\/div>\n<h3>Eglwys<br \/>\nGadeiriol Llanelwy<\/h3>\n<p>Dyma\u2019r gadeirlan hynafol leiaf ym Mhrydain \u2013 dim ond 182 troedfedd o hyd a 68 troedfedd o led. Ond nid yw hyn wedi ei atal rhag mynd i drafferthion. Wedi\u2019i sefydlu gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif, mae\u2019r eglwys gadeiriol wedi dioddef ymosodiadau dro ar \u00f4l tro \u2013 cafodd ei difrodi\u2019n wael gan Edward I yn 1282, ei llosgi gan Owain Glynd\u0175r yn 1402 a\u2019i defnyddio fel stabl gan Bengryniaid yn ystod y Rhyfel Cartref. Ond drwy waith ailadeiladu ac adfer parhaus, mae ei \u201churddas a\u2019i mawredd\u201d fel y\u2019i disgrifiwyd gan Dr Johnson, yn parhau. Ei thrysor mwyaf yw Beibl William Morgan o\u2019r 16eg ganrif. Mae arddangosiadau rhyngweithiol yn adrodd hanes yr adeilad hynod, tra bod Caffi\u2019r Cyfieithwyr yn cynnig diodydd, brechdanau, cawl a chacennau blasus.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21409\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/stasaph-tt-02.jpg\" alt=\"Translators\u2019 Memorial\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">2<\/div>\n<h3>Cofeb Dau<br \/>\nGyfieithydd<\/h3>\n<p>Adeiladwyd y t\u0175r Gothig ysblennydd hwn gan y Fictoriaid i ddathlu 300 mlwyddiant ers cyfieithu\u2019r Beibl i\u2019r Gymraeg. O\u2019u cilfachau \u00e2 chanopi, mae delw wyth ysgolhaig yn syllu allan ar dir y gadeirlan \u2013 gan gynnwys yr Esgob William Morgan, a gyfieithodd y Beibl yn 1588 a helpodd i achub un o ieithoedd hynaf Ewrop. Mor fyw a hoff oedd y gwaith hwn fel ei fod wedi parhau yn eang nes diwedd yr 20fed ganrif. Mae gan yr eglwys gadeiriol gopi gwreiddiol a gaiff ei arddangos, ac mae Morgan ei hun, a fu farw yn ddyn tlawd yn 1604, wedi\u2019i gladdu o dan yr allor uchel.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21411\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/stasaph-tt-03.jpg\" alt=\"Powell Brothers House\" width=\"400\" height=\"546\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">3<\/div>\n<h3>T\u0177 y Brodyr<br \/>\nPowell<\/h3>\n<p><strong>Cymerwch gamau i lawr at High Street a throwch i\u2019r chwith.<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r t\u0177, sydd bellach yn salon harddwch, yn dwyn carreg \u00e2\u2019r dyddiad 1745, ond mae hyn yn stori o gerddoriaeth yn fwy nag o bensaern\u00efaeth. Hwn oedd man geni\u2019r brodyr George a Felix Powell, y daeth eu c\u00e2n \u201cPack up your troubles in your old kit-bag\u201d yn hynod boblogaidd yn ystod y Rhyfel Mawr. Yn eironig, roedd George yn heddychwr ac yn gwrthod ymladd, ond teithiodd Felix o amgylch ffosydd y Ffrynt Gorllewinol gyda\u2019u c\u00e2n galonogol. Ymhellach i lawr High Street ar y chwith, yn union cyn yr eglwys, mae\u2019r Elusendai Barrow a adeiladwyd ym 1680 gan yr Esgob Barrow ar gyfer \u201cwyth gweddw tlawd o gymeriad da\u201d.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21413\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/stasaph-tt-04.jpg\" alt=\"Parish Church\" width=\"400\" height=\"553\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">4<\/div>\n<h3>Eglwys y Plwyf<\/h3>\n<p>Datblygodd Llanelwy o amgylch mynachlog ar lan yr afon Elwy, wedi\u2019i sefydlu gan Sant Cyndeyrn, a elwir hefyd yn Mungo, yn 560AD \u2013 a\u2019i adael yng ngofal ei hoff ddisgybl, Sant Elwy. Yn gwbl haeddiannol, mae\u2019r eglwys wedi ei chysegru i\u2019r ddau arwr hwn o\u2019r dref ers canol y 12fed ganrif. Adeiladwyd yr adeilad presennol ar ben sylfeini hy\u02c6n yn 1524, a chafwyd estyniad yn fuan wedyn yn arddull adeiladau nodweddiadol Sir Ddinbych. Mae gan yr adeilad do trawstiau gordd gwych, wedi\u2019u haddurno ag angylion ar yr ochr ddeheuol hy\u02c6n. Ychwanegodd y pensaer anorchfygol, Syr George Gilbert Scott, y porth, y cwt clychau a\u2019r festri yn 1872.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21417\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/stasaph-tt-05.jpg\" alt=\"Dic Aberdaron Grave\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">5<\/div>\n<h3>Bedd Dic<br \/>\nAberdaron<\/h3>\n<p>Hap a damwain oedd bod y dyn crwydrol, \u201cDic Aberdaron\u201d, enw go iawn Richard Jones, wedi marw yn Llanelwy yn 1843. Treuliodd y dyn diddysg hwn, a oedd yn fab i adeiladwr cychod, ei fywyd yn crwydro Cymru a Lloegr, yn droednoeth a\u2019i wallt yn hir, yn cario telyn, llawer o lyfrau a chath. Gallai siarad 14 o ieithoedd, gan gynnwys ieithoedd hynafol y Dwyrain Canol, a bu\u2019n treulio blynyddoedd yn ysgrifennu geiriadur Cymraeg-Hebraeg-Groeg. Yn anffodus, ni chyhoeddwyd y geiriadur erioed \u2013 Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth sydd \u00e2\u2019r unig gopi \u2013 a bu farw yn ddyn siomedig. Fe welwch ei garreg fedd ar ei ben ei hun ger pen y rheiliau yng nghornel dde-orllewin y fynwent.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21419\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/stasaph-tt-06.jpg\" alt=\"H M Stanley Obelisk\" width=\"400\" height=\"543\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">6<\/div>\n<h3>Obelisg<br \/>\nH M Stanley<\/h3>\n<p>Ganed y fforiwr Fictoraidd, Henry Morton Stanley, yn Ninbych ac fe\u2019i magwyd yn y tloty yn Llanelwy, ac yn ddiweddarach cafodd ysbyty ei enwi ar ei \u00f4l. Llwyddodd i ddianc o\u2019i \u201cboenydfa\u201d yn y diwedd, a rhedodd i ffwrdd i\u2019r m\u00f4r \u2013 gan wasanaethu ar y ddwy ochr yn Rhyfel Cartref America. Tra\u2019n gweithio fel newyddiadurwr, llwyddodd i olrhain y cenhadwr o\u2019r Alban, David Livingstone, yn ddwfn yng Nghanolbarth Affrica, a\u2019i gyfarch drwy ddweud: \u201cDr Livingstone, I presume?\u201d Yn ddiweddarach, dyfeisiodd gynlluniau gyda\u2019r Brenin Leopold II o Wlad Belg i harneisio adnoddau naturiol y Congo. Mae golygfeydd o\u2019i fywyd dadleuol yn troelli o amgylch yr obelisg trawiadol hwn, yn ogystal \u00e2 chopi bach o ddelw o\u2019r Congo.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21421\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/stasaph-tt-07.jpg\" alt=\"Elwy Bridge\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">7<\/div>\n<h3>Pont Elwy<\/h3>\n<p><strong>Trowch i\u2019r chwith gyferbyn \u00e2\u2019r gysgodfan bws i mewn i\u2019r parc, ac yna\u2019n syth i\u2019r dde i ddilyn y llwybr troed at y bont.<\/strong><\/p>\n<p>Efallai bod y bont hon o galchfaen a thywodfaen dros yr Afon Elwy yn Heneb Gofrestredig, ond nid dyma\u2019r un wreiddiol. Mae\u2019r un wreiddiol ymhellach i lawr yr afon, wedi\u2019i gwneud o bren ac yn dueddol o gael ei difrodi gan lifogydd. Felly, yn tua 1770, cafodd pensaer Carchar Rhuthun, Joseph Turner, y syniad o ddylunio pont gain bum bwa, yn rhychwantu cyfanswm o 65 metr \u2013 yn ddigon llydan i ymdopi pan fydd yr afon ar ei huchaf. Trowch i\u2019r chwith am Blas Ro neu cerddwch o dan y bont i weld Comin Llanelwy.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21423\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/stasaph-tt-08.jpg\" alt=\"Roe Plas\" width=\"400\" height=\"551\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">8<\/div>\n<h3>Plas Ro<\/h3>\n<p>Mae Afon Elwy a\u2019i llif cyflym yn cynnwys digon o frithyll, eogiaid a phennau lletwad, sydd yn eu tro yn denu cr\u00ebyr glas a glas y dorlan \u2013 hyd yn oed dyfrgwn o bryd i\u2019w gilydd. Felly, mae\u2019r daith gerdded dewisol hon ar lan yr afon yn cynnig cyfle bythgofiadwy. Hyd yn oed os bydd y creaduriaid bach yn teimlo\u2019n swil, rydych yn siw\u02c6 r o weld eirlysiau, blodau\u2019r gwynt, briallu, briallu Mair neu felyn Mair y gors, yn dibynnu ar y tymor. Heb s\u00f4n am y goeden bren fwyaf prin ym Mhrydain: y Boplysen Ddu. Dim ond 2,000 o\u2019r coed gosgeiddig crwm hyn sydd ar \u00f4l ym Mhrydain, a chawsant eu defnyddio i wneud fframiau nenffyrch ers talwm. Mae gan Blas Ro rai o\u2019r sbesimenau gorau yn y wlad.<\/p>\n<p><strong>Y cyfan sydd angen i chi ei wneud nawr yw dilyn eich camau yn \u00f4l at eich car.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Llanelwy \u2013 sydd \u00e2 phoblogaeth o tua 4,000 \u2013 wastad wedi ystyried ei hun fel dinas, ond nid oedd gweddill Prydain yn ymwybodol o hynny nes i\u2019r Frenhines roi anrhydedd dinesig i\u2019r dref yn ystod ei Jiwbil\u00ee Diemwnt.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":691,"template":"","meta":{"footnotes":""},"lsvr_project_cat":[565],"lsvr_project_tag":[],"class_list":["post-2371","lsvr_project","type-lsvr_project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","lsvr_project_cat-town-trails-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.1 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Llwybr Tref Llanelwy - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Llwybr Tref Llanelwy - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Llanelwy \u2013 sydd \u00e2 phoblogaeth o tua 4,000 \u2013 wastad wedi ystyried ei hun fel dinas, ond nid oedd gweddill Prydain yn ymwybodol o hynny nes i\u2019r Frenhines roi anrhydedd dinesig i\u2019r dref yn ystod ei Jiwbil\u00ee Diemwnt.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-11-06T15:36:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/st-asaph-town-trail.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"440\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"967\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/\",\"name\":\"Llwybr Tref Llanelwy - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/st-asaph-town-trail.jpg\",\"datePublished\":\"2023-04-06T14:42:09+00:00\",\"dateModified\":\"2024-11-06T15:36:00+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/st-asaph-town-trail.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/st-asaph-town-trail.jpg\",\"width\":440,\"height\":967,\"caption\":\"St Asaph Town Trail\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Portfolio\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Llwybr Tref Llanelwy\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"name\":\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"description\":\"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\",\"name\":\"North East Wales\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"width\":546,\"height\":188,\"caption\":\"North East Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\",\"https:\/\/x.com\/ntheastwales\",\"https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Llwybr Tref Llanelwy - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Llwybr Tref Llanelwy - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","og_description":"Mae Llanelwy \u2013 sydd \u00e2 phoblogaeth o tua 4,000 \u2013 wastad wedi ystyried ei hun fel dinas, ond nid oedd gweddill Prydain yn ymwybodol o hynny nes i\u2019r Frenhines roi anrhydedd dinesig i\u2019r dref yn ystod ei Jiwbil\u00ee Diemwnt.","og_url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/","og_site_name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","article_modified_time":"2024-11-06T15:36:00+00:00","og_image":[{"width":440,"height":967,"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/st-asaph-town-trail.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_site":"@ntheastwales","twitter_misc":{"Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/","name":"Llwybr Tref Llanelwy - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/st-asaph-town-trail.jpg","datePublished":"2023-04-06T14:42:09+00:00","dateModified":"2024-11-06T15:36:00+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/st-asaph-town-trail.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/st-asaph-town-trail.jpg","width":440,"height":967,"caption":"St Asaph Town Trail"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/st-asaph-town-trail\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Portfolio","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Llwybr Tref Llanelwy"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","description":"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales","publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization","name":"North East Wales","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","width":546,"height":188,"caption":"North East Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","https:\/\/x.com\/ntheastwales","https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2371","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/lsvr_project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2371\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6866,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2371\/revisions\/6866"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/691"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2371"}],"wp:term":[{"taxonomy":"lsvr_project_cat","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project_cat?post=2371"},{"taxonomy":"lsvr_project_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project_tag?post=2371"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}