{"id":2377,"date":"2023-04-07T18:15:34","date_gmt":"2023-04-07T17:15:34","guid":{"rendered":"http:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/denbigh-town-trail\/"},"modified":"2024-11-06T15:57:53","modified_gmt":"2024-11-06T15:57:53","slug":"denbigh-town-trail","status":"publish","type":"lsvr_project","link":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/","title":{"rendered":"Llwybr Tref Dinbych"},"content":{"rendered":"<p class=\"main-header__subtitle\">Dyma hanes dwy dref. Un ohonynt yw tref garsiwn gaerog fawr Edward I, gyda\u2019i chastell eiconig, a deiladwyd yn ddidrugaredd ar ben caer Gymreig hynafol. Y llall yw\u2019r dref farchnad brysur sy\u2019n rhaeadru i lawr y bryn mewn amrywiaeth rhyfeddol o arddulliau pensaern\u00efol dros y naw canrif nesaf.<\/p>\n<div class=\"town-trails\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-11414 aligncenter\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh_castle_square.jpg\" alt=\"\" width=\"787\" height=\"787\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><a class=\"new-red-button\" href=\"\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Denbigh-trail-2024.pdf\">Lawrlwythwch y llwybr<\/a><\/p>\n<div class=\"town-trails-info\">\n<p><strong>Pellter:<\/strong> 1.25 milltir \/ 2 km gan gynnwys Stryd y Dyffryn<br \/>\n<strong>Pa mor anodd yw\u2019r llwybr?:<\/strong> Rhai rhannau cymedrol i fyny allt, arwyneb anwastad ar furiau\u2019r dref<br \/>\n<strong>Amser yn cerdded:<\/strong> 75 munud<br \/>\n<strong>Man cychwyn:<\/strong> Maes parcio Factory Place LL16 3TS<br \/>\n<strong>Cludiant cyhoeddus:<\/strong> Traveline Cymru <a style=\"color: #ffffff; text-decoration: underline;\" href=\"tel:08004640000\">0800 464 0000<\/a>,<br \/>\nYmholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol <a style=\"color: #ffffff; text-decoration: underline;\" href=\"tel:03457484950\">03457 484950<\/a><\/p>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-map\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-21429\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-trail-map.jpg\" alt=\"Denbigh Town Trail Map\" width=\"2182\" height=\"2546\" \/><\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21431\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-tt-01.jpg\" alt=\"Back Row\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">1<\/div>\n<h3>L\u00f4n Gefn<\/h3>\n<p><strong>Sefwch yn y maes parcio gydag Eglwys fawreddog y Santes Fair y tu \u00f4l i chi ac ewch i gyfeiriad y llwybr wrth ymyl y Eagles Inn.<\/strong><br \/>\nArferai L\u00f4n Gefn fod yn rhan o\u2019r farchnad ganoloesol ac mae\u2019n cynnwys adeiladau hynaf Dinbych nad ydynt yn gysylltiedig \u00e2\u2019r castell neu muriau\u2019r dref. Mae\u2019n debyg bod tafarn y Llew Aur wedi\u2019i chodi ddechrau\u2019r 16eg ganrif fel dwy siop ar wah\u00e2n. Fe sylwch hefyd ar gefn 33 Stryd Fawr, sy\u2019n fwy adnabyddus fel Siop Clwyd. Diolch i dendrocronoleg, neu ddyddio yn \u00f4l cylchoedd coed, rydym yn gwybod bod yr adeilad ffr\u00e2m bren bach a cham hwn yn dyddio o 1533, gan ei wneud yn un o siopau hynaf Cymru.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21433\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-tt-02.jpg\" alt=\"Denbigh Library\" width=\"400\" height=\"571\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">2<\/div>\n<h3>Llyfrgell Dinbych<\/h3>\n<p><strong>Trowch i\u2019r dde i mewn i Sgw\u00e2r y Goron a cherddwch heibio\u2019r gofeb ryfel gan Charles Leonard Hartwell i gyfeiriad y llyfrgell.<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r cerflun y tu allan i\u2019r llyfrgell ac oriel gelf o\u2019r fforiwr Fictoraidd dadleuol HM Stanley, a anwyd yn Ninbych ym 1841. Y tu mewn mae cast plastr ychydig yn arswydus o\u2019i law, a estynnodd unwaith wrth ddweud y geiriau enwog: \u201cDr Livingstone, I presume?\u201d Ar gael yma hefyd mae wifi am ddim ac, am flaendal bychan, eich goriad eich hun i furiau\u2019r dref (gweler rhif 5). Adeiladwyd y llyfrgell fel Neuadd y Sir ym 1572 gan Iarll Caerly\u02c6 r \u2013 mwy amdano ef yn nes ymlaen. Roedd y colofnresi yn agored yn y dyddiau hynny i wneud lle i Neuadd y Farchnad.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21435\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-tt-03.jpg\" alt=\"Broomhill Lane\" width=\"400\" height=\"566\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">3<\/div>\n<h3>L\u00f4n Brombil<\/h3>\n<p><strong>Edrychwch am yr arwydd i\u2019r castell wrth ymyl tafarn yr Old Vaults.<\/strong><\/p>\n<p>Mae llawer o siopau annibynnol hynod a thafarndai a chaffis bywiog Dinbych wedi\u2019u clystyru rhwng y Stryd Fawr a chylchfan Lenten Pool, a oedd ar un adeg yn bwll pysgod canoloesol. Felly, mae pob croeso i chi newid cyfeiriad yn y fan hon cyn dychwelyd i L\u00f4n Brombil. Roedd hon ar un adeg yn llwybr tawel yn cysylltu\u2019r dref a\u2019r castell, a ddefnyddiwyd yn bennaf gan bobl leol \u2013 ond erbyn hyn mae\u2019r gyfrinach wedi\u2019i thorri. Mae wedi cael ei thrawsnewid gan ddim llai na phum artist gyda chymorth cerddi, cerfluniau, griliau ffenestri addurniadol, goleuadau uwchben a hyd yn oed gorchuddion cyfleustodau newydd, y cyfan yn seiliedig ar dreftadaeth unigryw Dinbych neu hanesion o\u2019r Mabinogion.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21437\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-tt-04.jpg\" alt=\"Burgess Gate\" width=\"400\" height=\"552\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">4<\/div>\n<h3>Porth Burgess<\/h3>\n<p>Rydych r\u0175an yn cyrraedd tref gaerog ganoloesol Edward I. Adeiladwyd yr enfawr Porth Burgess a\u2019i dyrrau dwbl rhwng 1282 a 1294 gan ei farwn Henry de Lacy, Iarll Lincoln. Yn wreiddiol roedd yn 60 troedfedd o uchder ac yn llawn amddiffynfeydd gan gynnwys ffos, pont, porthcwlis a thyllau llofruddio, ac mae\u2019n debyg iddo gael ei ddylunio gan hoff bensaer milwrol Edward, sef James o St George. Gwelodd ddigon o gyffro yn ystod gwarchae enwog Dinbych yn ystod y Rhyfel Cartref \u2013 gallwch weld y creithiau a achoswyd gan ynnau mawr a daniwyd gan y lluoedd seneddol. Daw golygfeydd ysblennydd dros y dref i\u2019r amlwg wrth i chi fynd o dan y gi\u00e2t a mynd am dro ar hyd Leicester Terrace.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21439\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-tt-05.jpg\" alt=\"Town Walls\" width=\"400\" height=\"570\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">5<\/div>\n<h3>Muriau\u2019r Dref<\/h3>\n<p><strong>Cewch fynediad at y muriau ar hyd y ramp gyferbyn \u00e2 Leicester Terrace.<\/strong><\/p>\n<p>Oes gennych chi eich goriad? Os nad oes, holwch yn y castell. Wnewch chi ddim difaru \u2013 er hynny, gwyliwch am arwynebau anwastad a chwympau heb eu diogelu. Dyma un o\u2019r muriau tref canoloesol mwyaf cyflawn ym Mhrydain. Cawsant eu hadeiladu i ddiogelu bwrdeistref Saesnig newydd ar ben hen gadarnle Cymreig Dafydd ap Gruffydd, ac mae\u2019r muriau a\u2019r tyrau calchfaen hyn yn cynnig golygfeydd trawiadol ar draws Dyffryn Clwyd. Heb s\u00f4n am gipolwg bryfoclyd i mewn i rai o erddi cudd Dinbych a theithiau cerdded yn y coetir. Chwiliwch am d\u0175r gwyn Eglwys Sant Marcella yn y pellter.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21441\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-tt-06.jpg\" alt=\"Leicester\u2019s Church\" width=\"400\" height=\"543\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">6<\/div>\n<h3>Eglwys Leicester<\/h3>\n<p>Efallai eich bod eisoes wedi gweld adfail di-do Eglwys Leicester o furiau\u2019r dref. Os naddo, edrychwch amdano ar y chwith wrth i chi gerdded i fyny Bull Lane. Dyma\u2019r cyfan sy\u2019n weddill o uchelgais fawreddog un dyn. Dechreuodd Robert Dudley, Iarll Caerl\u0177r a ffefryn Elisabeth I, waith ar yr eglwys 10 bwa ym 1578. Mae\u2019n debyg mai\u2019r bwriad oedd creu eglwys gadeiriol Brotestannaidd newydd, gydag arddull Gothig ar y tu allan a chlasurol ar y tu mewn, hon fyddai wedi bod yn eglwys fwyaf oes Elisabeth. Ond ni chafodd ei chwblhau. Bron mor gyflym ag y gallai\u2019r amhoblogaidd Dudley godi\u2019r cerrig, roedd pobl leol yn eu tynnu i lawr. Nid oedd mwy o arian ar \u00f4l a gadawodd ei gynllun mawreddog i drugaredd yr elfennau ym 1584.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21443\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-tt-07.jpg\" alt=\"St Hilary\u2019s Chapel\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">7<\/div>\n<h3>Capel St Hilari<\/h3>\n<p>Mae\u2019r t\u0175r ynysig hwn yn dal yn drawiadol ddigon. Ond ar un adeg roedd gan St Hilary, a adeiladwyd yn tua 1300 fel capel garsiwn i dref gaerog Edward I, gorff eglwys, cangell, ystlys ogleddol a th\u0175r gorllewinol hefyd. Erbyn y cyfnod Fictoraidd, roedd yn dirywio\u2019n wael ac roedd eglwyswyr yn wynebu dewis anodd: talu am waith atgyweirio costus neu adeiladu eglwys arall mewn man mwy cyfleus. Doedd dim amheuaeth. Agorwyd Eglwys y Santes Fair gyda\u2019i ffenestri lliw Celf a Chrefft hyfryd ym 1875 \u2013 a chafodd popeth heb law am d\u0175r herfeiddiol St Hilari eu dymchwel o\u2019r diwedd ym 1923.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21445\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-tt-08.jpg\" alt=\"Denbigh Castle\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">8<\/div>\n<h3>Castell Dinbych<\/h3>\n<p>Camwch i mewn i borthdy tri th\u0175r mawreddog Castell Dinbych ac rydych yn sicr o deimlo ymchwydd o gyffro. Byddwch hefyd yn clywed twrw codi\u2019r porthcwlis a throedio trwm milwyr yn gorymdeithio, diolch i\u2019r ceidwaid Cadw. Bydd eu canolfan ymwelwyr ecogyfeillgar yn dweud y cyfan wrthych am y gaer Edwardaidd glasurol hon, a adeiladwyd fel rhan o \u201cgylch haearn\u201d o gestyll Saesnig ddiwedd y 13eg ganrif i ddarostwng y Cymry. Nid oedd yn lwyddiant ar y dechrau. Cipiodd Madog ap Llywelyn y castell a adeiladwyd yn rhannol ym 1294 ac, pan wnaethant ei gipio yn \u00f4l yn y pen draw, gwnaeth y Saeson y waliau hyd yn oed yn fwy trwchus ac yn uwch.<br \/>\n<a href=\"https:\/\/cadw.llyw.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.cadw.llyw.cymru<\/a><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21447\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-tt-09.jpg\" alt=\"Vale Street\" width=\"400\" height=\"551\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">9<\/div>\n<h3>Stryd y Dyffryn<\/h3>\n<p><strong>Dychwelwch eich goriad i\u2019r llyfrgell ac, os dymunwch, ychwanegwch y dargyfeiriad hwn.<\/strong><\/p>\n<p>Hyd yn oed yn Ninbych, gyda\u2019i chyfoeth o adeiladau rhestredig, mae Stryd y Dyffryn yn ryfeddod pensaern\u00efol. Wrth i\u2019r dref ffynnu, codwyd cyfres o dai bonedd yma i greu ardal breswyl benodol. Mae\u2019r cynharaf, Y Gelli neu Grove House, yn dyddio o 1574 \u2013 gan ei wneud yn un o\u2019r tai brics cyntaf yng Nghymru. Mae\u2019r gweddill, fel T\u0177 Mostyn neu Plas Grove, yn dyddio\u2019n bennaf o\u2019r 18 ganrif neu ddechrau\u2019r 19 ganrif. Chwiliwch am D\u0177 Thomas Gee ar y chwith, sef cartref y pregethwr Anghydffurfiol chwedlonol a chyhoeddwr. Mae Argraffdy Gwasg Gee, a oedd yn dal i redeg tan 2001, i\u2019w weld o hyd ar L\u00f4n Swan.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21449\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-tt-10.jpg\" alt=\"Dr Evan Pierce Memorial Garden\" width=\"400\" height=\"570\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">10<\/div>\n<h3>Gardd Goffa<br \/>\nDr Evan Pierce<\/h3>\n<p>Roedd y Crwner, YH, Henadur a Maer Dinbych, Dr Evan Pierce, yn arwr yn epidemig colera 1832. Ond nid oedd gwyleidd-dra yn un o\u2019i gryfderau. Pan gynhigiodd pobl ddiolchgar y dref adeiladu cofeb iddo, rhoddodd y tir iddynt \u2013 yn union gyferbyn \u00e2\u2019i ddrws ffrynt ym Mhlas Salusbury sydd wedi\u2019i ddymchwel bellach. Fel y gallai edrych bob bore ar ei gerflun ei hun ar ben ei golofn Tysganaidd 72 troedfedd. Diolch i waith adfer yn 2007, y safle heddychlon a dirgel hwn gyda\u2019i ffynhonnau a choed conwydd yw prif ardd hanesyddol Sir Ddinbych.<\/p>\n<p><strong>Dilynwch eich camau i fyny Stryd y Dyffryn i ddychwelyd i\u2019ch car.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma hanes dwy dref. Un ohonynt yw tref garsiwn gaerog fawr Edward I, gyda\u2019i chastell eiconig, a deiladwyd yn ddidrugaredd ar ben caer Gymreig hynafol.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":671,"template":"","meta":{"footnotes":""},"lsvr_project_cat":[565],"lsvr_project_tag":[],"class_list":["post-2377","lsvr_project","type-lsvr_project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","lsvr_project_cat-town-trails-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.1 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Llwybr Tref Dinbych - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Llwybr Tref Dinbych - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dyma hanes dwy dref. Un ohonynt yw tref garsiwn gaerog fawr Edward I, gyda\u2019i chastell eiconig, a deiladwyd yn ddidrugaredd ar ben caer Gymreig hynafol.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-11-06T15:57:53+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-town-trail.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"440\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"967\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/\",\"name\":\"Llwybr Tref Dinbych - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-town-trail.jpg\",\"datePublished\":\"2023-04-07T17:15:34+00:00\",\"dateModified\":\"2024-11-06T15:57:53+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-town-trail.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-town-trail.jpg\",\"width\":440,\"height\":967,\"caption\":\"Denbigh Town Trail\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Portfolio\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Llwybr Tref Dinbych\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"name\":\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"description\":\"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\",\"name\":\"North East Wales\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"width\":546,\"height\":188,\"caption\":\"North East Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\",\"https:\/\/x.com\/ntheastwales\",\"https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Llwybr Tref Dinbych - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Llwybr Tref Dinbych - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","og_description":"Dyma hanes dwy dref. Un ohonynt yw tref garsiwn gaerog fawr Edward I, gyda\u2019i chastell eiconig, a deiladwyd yn ddidrugaredd ar ben caer Gymreig hynafol.","og_url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/","og_site_name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","article_modified_time":"2024-11-06T15:57:53+00:00","og_image":[{"width":440,"height":967,"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-town-trail.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_site":"@ntheastwales","twitter_misc":{"Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/","name":"Llwybr Tref Dinbych - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-town-trail.jpg","datePublished":"2023-04-07T17:15:34+00:00","dateModified":"2024-11-06T15:57:53+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-town-trail.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/denbigh-town-trail.jpg","width":440,"height":967,"caption":"Denbigh Town Trail"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/denbigh-town-trail\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Portfolio","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Llwybr Tref Dinbych"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","description":"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales","publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization","name":"North East Wales","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","width":546,"height":188,"caption":"North East Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","https:\/\/x.com\/ntheastwales","https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2377","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/lsvr_project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2377\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6878,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2377\/revisions\/6878"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/671"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2377"}],"wp:term":[{"taxonomy":"lsvr_project_cat","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project_cat?post=2377"},{"taxonomy":"lsvr_project_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project_tag?post=2377"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}