{"id":2382,"date":"2023-04-09T19:17:44","date_gmt":"2023-04-09T18:17:44","guid":{"rendered":"http:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/llangollen-town-trail\/"},"modified":"2024-11-06T16:06:01","modified_gmt":"2024-11-06T16:06:01","slug":"llangollen-town-trail","status":"publish","type":"lsvr_project","link":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/","title":{"rendered":"Llwybr Tref Llangollen"},"content":{"rendered":"<p class=\"main-header__subtitle\">Mae Llangollen wedi bod yn un o gyrchfannau mewndirol mwyaf poblogaidd Cymru ers peth amser bellach \u2013 a dydi hy nny ddim yn syndod. Yng nghy sgod y mynyddoedd ac adfeilion Cas t ell Dinas Br\u00e2n a adeiladwyd yn y 13eg ganr if, gor weddai\u2019r dref mewn llecyn har dd ac unigr yw.<\/p>\n<div class=\"town-trails\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-14599 aligncenter\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Llangollen.jpg\" alt=\"\" width=\"3128\" height=\"2346\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><a class=\"new-red-button\" href=\"\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Llangollen-trail-2024.pdf\">Lawrlwythwch y llwybr<\/a><\/p>\n<div class=\"town-trails-info\">\n<p><strong>Pellter:<\/strong> 2 filltir \/ 3.2 km<br \/>\n<strong>Pa mor anodd yw\u2019r llwybr?:<\/strong> Eithaf gwastad oni bai eich bod chi\u2019n dewis mynd ar hyd y llwybr i Blas Newydd<br \/>\n<strong>Amser yn cerdded:<\/strong> 2 awr<br \/>\n<strong>Man cychwyn:<\/strong> Maes parcio\u2019r Pafiliwn Rhyngwladol, Ffordd yr Abaty LL20 8SW<br \/>\n<strong>Cludiant cyhoeddus:<\/strong> Traveline Cymru <a style=\"color: #ffffff; text-decoration: underline;\" href=\"tel:08004640000\">0800 464 0000<\/a>,<br \/>\nYmholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol <a style=\"color: #ffffff; text-decoration: underline;\" href=\"tel:03457484950\">03457 484950<\/a><\/p>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-map\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-21453\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-trail-map.jpg\" alt=\"Llangollen Town Trail Map\" width=\"2134\" height=\"2560\" \/><\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21455\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-tt-01.jpg\" alt=\"Llangollen Pavilion\" width=\"400\" height=\"549\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">1<\/div>\n<h3>Pafiliwn<br \/>\nLlangollen<\/h3>\n<p><strong>Ewch ar hyd y llwybr tynnu ac wrth ymyl y bont ym mhen gorllewinol y maes parcio trowch i\u2019r dde.<\/strong><\/p>\n<p>Bydd Pafiliwn Llangollen yn ymddangos mewn dolydd ar y dde. Adeiladwyd y pafiliwn yn 1992 ac mae lle i 4,500 o bobl eistedd y tu mewn iddo. Yma, wrth gwrs, mae cartref Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Yn ogystal \u00e2 chroesawu 120,000 o ymwelwyr a cherddorion o bedwar ban byd bob mis Gorffennaf, mae\u2019r Pafiliwn yn cynnal rhaglen o gyngherddau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.<br \/>\n<a href=\"http:\/\/www.llangollenpavilion.co.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.llangollenpavilion.co.uk<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">https:\/\/international-eisteddfod.co.uk<\/a><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21457\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-tt-02.jpg\" alt=\"Llangollen Wharf\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">2<\/div>\n<h3>Glanfa Llangollen<\/h3>\n<p>Edrychwch o\u2019ch cwmpas. Eithaf da, yn dydi? Cystal \u00e2\u2019r Taj Mahal a\u2019r Acropolis, yn \u00f4l UNESCO. Felly, yn 2009, bu iddyn nhw ddynodi 11 milltir o Gamlas Llangollen \u2013 gan gynnwys Rhaeadr y Bedol a Thraphont Dd\u0175r Pontcysyllte \u2013 yn Safle Treftadaeth y Byd. Fe allwch chi deithio ar gwch i\u2019r ddau gyfeiriad o\u2019r fan hon. Bydd ceffylau yn gallu\u2019ch tynnu chi hyd at Raeadr y Bedol ond bydd arnoch chi angen modur, a gwylio rhag bod eich pen chi\u2019n troi, i groesi\u2019r \u201cafon syfrdanol yn yr awyr\u201d, campwaith Thomas Telford.<\/p>\n<p><strong>Ewch i\u2019r dde ar \u00f4l mynd heibio\u2019r ystafell de a dilynwch ffordd Wharf Hill at y bont. Trowch i\u2019r dde neu i\u2019r chwith os oes arnoch chi awydd mynd i fyny i Gastell Dinas Br\u00e2n (taith 45 munud).<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21459\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-tt-03.jpg\" alt=\"Llangollen Bridge\" width=\"400\" height=\"541\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">3<\/div>\n<h3>Pont Llangollen<\/h3>\n<p>Yn \u00f4l y traddodiad, er nad oes sicrwydd ynghylch hyn, adeiladwyd Pont Llangollen gan yr Esgob John Trevor yn 1345. Heb amheuaeth, mae\u2019r bont wedi ei haddasu ers hynny, yn anad dim i ganiat\u00e1u i geir groesi drosti ac i drenau fynd oddi tani. Ond, yr hyn sy\u2019n sicr, yw ei bod yn cynnig darlun godidog o ddyfroedd byrlymog Afon Dyfrdwy, lle\u2019r oedd pysgota eogiaid mewn cwryglau yn olygfa gyffredin iawn tan y 1950au. Does ryfedd felly ei bod hi\u2019n un o \u201cSaith Rhyfeddod Cymru\u201d. Heddiw rydych chi\u2019n fwy tebygol o weld pobl yn canw\u02c6 io, caiacio neu\u2019n rafftio i lawr yr afon gan fod Llangollen yn hafan ar gyfer chwaraeon d\u0175r a gweithgareddau awyr agored cyffrous eraill.<\/p>\n<p><strong>Ar \u00f4l croesi\u2019r bont, trowch yn syth i\u2019r dde i Dee Lane.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21461\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-tt-04.jpg\" alt=\"Corn Mill\" width=\"400\" height=\"553\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">4<\/div>\n<h3>Melin Flawd<\/h3>\n<p>Adeiladwyd y felin yn y drydedd ganrif ar ddeg gan fynaich Sistersiaid Abaty Glyn y Groes gerllaw. Ailadeiladwyd y felin flawd yn 1786 a bu iddi aros agor tan 1974. Ond, erbyn i\u2019r felin gael ei rhoi ar osod i gwmni tafarn yn y 1990au, roedd mewn cyflwr ofnadwy ac mewn perygl o ddymchwel i\u2019r afon. Ond ddim heddiw. Rw\u02c6 an fe allwch chi weld yr olwyn ddw\u02c6 r yn troi y tu \u00f4l i\u2019r bar \u2013 a chael diod ar y deciau pren a osodwyd i\u2019r dde dros ffrwd a dyfroedd gwyllt y felin.<\/p>\n<p><strong>Dilynwch y llwybr wrth ochr y Felin Flawd, ac yna trowch i\u2019r chwith \u2013 neu fe allwch chi barhau i gerdded ar hyd Promen\u00e2d Fictoria ar daith olygfaol i Barc Glan yr Afon lle mae yna le chwarae, cae p\u00eal-droed a pharc sglefrio, yn ogystal \u00e2 chaffi a golff gwallgof yn yr haf.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21463\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-tt-05.jpg\" alt=\"Llangollen Museum\" width=\"400\" height=\"570\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">5<\/div>\n<h3>Amgueddfa<br \/>\nLlangollen<\/h3>\n<p>Ar fin ailagor yn 2025 gyda tho newydd sbon, nid yw&#8217;r adeilad polygonaidd hwn o ganol yr 20fed ganrif yn cynnig llawer o gliw i&#8217;r trysorau y tu mewn. Mae gan Amgueddfa Llangollen dros 1,500 o arteffactau a mwy na 7,000 o ffotograffau a dogfennau, a roddwyd yn bennaf gan y gymuned leol. Maen nhw&#8217;n helpu i adrodd stori ryfeddol y dref &#8211; yr holl ffordd o Oes y Cerrig, trwy&#8217;r cyfnod Rhufeinig a Normanaidd ac ymlaen i&#8217;r ddwy ganrif ddiwethaf.<\/p>\n<p>Ar gornel Parade Street a Heol y Castell mae Neuadd y Dref a adeiladwyd yn 1867, sef yr hen Ystafelloedd Cynnull a Neuadd y Farchnad.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21465\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-tt-06.jpg\" alt=\"Y Capel\" width=\"400\" height=\"546\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">6<\/div>\n<h3>Y Capel<\/h3>\n<p>Adeiladwyd y Capel yn y 1860au yn yr arddull Roman\u00e9sg (bydd arbenigwyr pensaern\u00efaeth yn eich plith wedi sylwi ar y tri bwa ar bilastrau o dan y pediment). Cafodd ei gynllunio i ddal cynulleidfa o 400 o Fedyddwyr ond yn anffodus, wrth i\u2019r blynyddoedd fynd heibio, doedd dim angen cymaint o seddi. Erbyn 1982 nid oedd y capel bellach o fudd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r adeilad bellach yn ffynhonnell pob gwybodaeth, gyda Chanolfan Groeso a llyfrgell i fyny grisiau. Mae yna hyd yn oed oriel gelf a chrefft gyfoes. Cafodd yr adeilad ei agor ar ei newydd wedd yn 2003 gan arlunydd Cymreig enwocaf yr ugeinfed ganrif, Syr Kyffin Williams \u2013 ac roedd o\u2019n gwybod ei bethau\u2019n iawn.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21467\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-tt-07.jpg\" alt=\"The Armoury\" width=\"400\" height=\"545\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">7<\/div>\n<h3>Yr Arfdy<\/h3>\n<p>Ar \u00f4l croesi\u2019r A5 ym mhen uchaf Heol y Castell, efallai yr hoffech chi aros ennyd i fyfyrio ar y ffordd aruthrol o Lundain i Gaergybi a adeiladwyd gan Thomas Telford i gyflymu\u2019r post rhwng y brifddinas ac Iwerddon. Cafodd y ffordd ei chwblhau ar \u00f4l codi Pont Grog Menai yn 1826.<\/p>\n<p>Mae\u2019r arfdy mewn tipyn o argyfwng hunaniaeth, ac mae\u2019r adeilad hefyd yn cael ei alw\u2019n The Old Lock-up. Mae\u2019r dryswch yma\u2019n adlewyrchu ei ddefnydd amrywiol ers ei adeiladu fel carchar a llys ynadon yn 1835. Fe\u2019i defnyddiwyd yn ddiweddarach fel neuadd y dref ac yna fel neuadd ymarfer ac arfdy ar gyfer Milisia\u2019r Iwmyn tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21469\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-tt-08.jpg\" alt=\"Plas Newydd\" width=\"400\" height=\"543\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">8<\/div>\n<h3>Plas Newydd<\/h3>\n<p><strong>Cerddwch i fyny Heol y Bryn at Blas Newydd (mae\u2019r plasty ar agor o fis Ebrill tan fis Hydref, ond mae\u2019r gerddi ar agor drwy\u2019r flwyddyn) neu fe allwch chi barhau i gerdded i lawr Regent Street a throi i\u2019r chwith i mewn i faes parcio Eglwys Sant Collen.<\/strong><\/p>\n<p>Plas Newydd yw cartref byd-enwog Merched Llangollen: Sef y Fonesig Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby a oedd wedi rhedeg i ffwrdd o Iwerddon. Yn 1780 bu iddyn nhw symud i mewn i fwthyn bychan a\u2019i droi\u2019n ffantasi Gothig o wydr lliw a derw cerfiedig. Bu i \u201cymddeoliad Rhamantaidd\u201d y merched ddal dychymyg y gymdeithas Regentaidd a bu iddyn nhw groesawu llu o enwogion i\u2019w cartref rhyfeddol, gan gynnwys William Wordsworth, Syr Walter Scott a Dug Wellington.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21471\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-tt-09.jpg\" alt=\"St Collen\u2019s Church\" width=\"400\" height=\"552\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">9<\/div>\n<h3>Eglwys<br \/>\nSant Collen<\/h3>\n<p><strong>O Blas Newydd, dilynwch Butler Hill yn \u00f4l i lawr i\u2019r A5 a chroeswch i Church Street. Ewch i mewn i\u2019r fynwent drwy\u2019r gatiau haearn wrth ymyl Gwesty\u2019r Hand.<\/strong><\/p>\n<p>Sefydlwyd yr eglwys yn y chweched ganrif gan Sant Collen, rhyfelwr Cristnogol a fu\u2019n feudwy yn ddiweddarach yn Nh\u0175r Glastonbury. Yn \u00f4l y chwedl bu iddo ymddeol yma ar \u00f4l trechu cawres leol a oedd yn llarpio dynion. Adeiladwyd yr eglwys a welwch chi heddiw yn y drydedd ganrif ar ddeg ond fe addaswyd cryn dipyn arni yn Oes Fictoria. Ond, diolch i\u2019r drefn, mae\u2019r ddau drawst gordd cerfiedig wedi goroesi. A welwch chi\u2019r heneb driongl yn y fynwent i Ferched Llangollen a\u2019u morwyn Mary Carryl \u2013 marmor Eidalaidd iddyn nhw a thywodfaen ar gyfer Mary.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21473\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-tt-10.jpg\" alt=\"Heritage Railway\" width=\"400\" height=\"570\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">10<\/div>\n<h3>Rheilffordd<br \/>\nTreftadaeth<\/h3>\n<p>Wrth i chi groesi\u2019r bont eto fe welwch chi orsaf Reilffordd Treftadaeth Llangollen-Corwen, a adeiladwyd yn 1865, wrth ymyl glan ogleddol Afon Dyfrdwy. Y tu mewn mae bar caffi yn gweini byrbrydau poeth a chwrw go iawn a (pan fydd y trenau\u2019n rhedeg) siop anrhegion sy\u2019n gwerthu pob mathau o nwyddau. Mae unig led rheilffordd treftadaeth safonol yng ngogledd Cymru bellach yn chwythu a phwffian am bron i 10 milltir drwy Ddyffryn Dyfrdwy, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Diolch i estyniad 2.5 milltir a gwblhawyd yn 2014 gan d\u00eem o wirfoddolwyr wedi aros mawr, fe allwch chi rw\u02c6 an deithio\u2019r holl ffordd i Gorwen trwy fynyddoedd y Berwyn, Glyndyfrdwy a Charrog.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Llangollen wedi bod yn un o gyrchfannau mewndirol mwyaf poblogaidd Cymru ers peth amser bellach \u2013 a dydi hy nny ddim yn syndod.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":677,"template":"","meta":{"footnotes":""},"lsvr_project_cat":[565],"lsvr_project_tag":[],"class_list":["post-2382","lsvr_project","type-lsvr_project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","lsvr_project_cat-town-trails-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.1 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Llwybr Tref Llangollen - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Llwybr Tref Llangollen - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Llangollen wedi bod yn un o gyrchfannau mewndirol mwyaf poblogaidd Cymru ers peth amser bellach \u2013 a dydi hy nny ddim yn syndod.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-11-06T16:06:01+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-town-trail.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"440\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"965\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/\",\"name\":\"Llwybr Tref Llangollen - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-town-trail.jpg\",\"datePublished\":\"2023-04-09T18:17:44+00:00\",\"dateModified\":\"2024-11-06T16:06:01+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-town-trail.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-town-trail.jpg\",\"width\":440,\"height\":965,\"caption\":\"Llangollen Town Trail\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Portfolio\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Llwybr Tref Llangollen\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"name\":\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"description\":\"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\",\"name\":\"North East Wales\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"width\":546,\"height\":188,\"caption\":\"North East Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\",\"https:\/\/x.com\/ntheastwales\",\"https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Llwybr Tref Llangollen - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Llwybr Tref Llangollen - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","og_description":"Mae Llangollen wedi bod yn un o gyrchfannau mewndirol mwyaf poblogaidd Cymru ers peth amser bellach \u2013 a dydi hy nny ddim yn syndod.","og_url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/","og_site_name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","article_modified_time":"2024-11-06T16:06:01+00:00","og_image":[{"width":440,"height":965,"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-town-trail.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_site":"@ntheastwales","twitter_misc":{"Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/","name":"Llwybr Tref Llangollen - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-town-trail.jpg","datePublished":"2023-04-09T18:17:44+00:00","dateModified":"2024-11-06T16:06:01+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-town-trail.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/llangollen-town-trail.jpg","width":440,"height":965,"caption":"Llangollen Town Trail"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/llangollen-town-trail\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Portfolio","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Llwybr Tref Llangollen"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","description":"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales","publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization","name":"North East Wales","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","width":546,"height":188,"caption":"North East Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","https:\/\/x.com\/ntheastwales","https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2382","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/lsvr_project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2382\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6885,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2382\/revisions\/6885"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/677"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2382"}],"wp:term":[{"taxonomy":"lsvr_project_cat","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project_cat?post=2382"},{"taxonomy":"lsvr_project_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project_tag?post=2382"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}