{"id":2397,"date":"2023-04-11T21:13:27","date_gmt":"2023-04-11T20:13:27","guid":{"rendered":"http:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/rhyl-town-trail\/"},"modified":"2024-11-06T15:50:14","modified_gmt":"2024-11-06T15:50:14","slug":"rhyl-town-trail","status":"publish","type":"lsvr_project","link":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/","title":{"rendered":"Llwybr Tref Y Rhyl"},"content":{"rendered":"<p class=\"main-header__subtitle\">Dwy ganrif yn \u00f4l roedd y Rhyl yn bentref pysgota di-nod ar arfordir gogledd Cymru. Ond, erbyn canol y 1800au, diolch i\u2019r rheilffordd, roedd yn un o\u2019r dyfrfannau mwyaf ffasiynol ym Mhrydain. Dyma lwybr llawn awyrgylch atgofus a byddwch yn gweld nifer o olion Fictoraidd ac Edwardaidd o oes aur y Rhyl. Ond mi fyddwch chi hefyd yn dod ar draws pont o\u2019r unfed ganrif ar hugain a pharc dwr newydd sbon danlli, gwerth sawl miliwn o bunnau, sy\u2019n denu 350,000 o ymwelwyr y flwyddyn.<\/p>\n<p class=\"main-header__subtitle\">Mae llawer o newid wedi bod ers i\u2019n cyndeidiau gerdded i lawr y promen\u00e2d mewn hetiau silc neu grinolinau. Ond mae rhai pethau wedi aros yr un fath \u2013 y m\u00f4r, y tywod a\u2019r hinsawdd sy\u2019n fwy heulog na\u2019r cyfartaledd cenedlaethol.<\/p>\n<div class=\"town-trails\">\n<figure id=\"attachment_16345\" aria-describedby=\"caption-attachment-16345\" style=\"width: 768px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-16345 size-medium_large\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/Pro-Kitesurfing-768x456.jpg\" alt=\"\" width=\"768\" height=\"456\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-16345\" class=\"wp-caption-text\">Pro Kitesurfing<\/figcaption><\/figure>\n<p style=\"text-align: center;\"><a class=\"new-red-button\" href=\"\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Rhyl-trail-2024.pdf\">Lawrlwythwch y llwybr<\/a><\/p>\n<div class=\"town-trails-info\">\n<p><strong>Pellter:<\/strong> 3.1 milltir \/ 5 km (gan gynnwys amdaith i Theatr y Pafiliwn)<br \/>\n<strong>Pa mor anodd yw\u2019r llwybr?:<\/strong> Hawdd a gwastad<br \/>\n<strong>Amser yn cerdded:<\/strong> 2.5 awr<br \/>\n<strong>Man cychwyn:<\/strong> Maes Parcio\u2019r T\u0175r Awyr, Rhodfa\u2019r Gorllewin LL18 1HF<br \/>\n<strong>Cludiant cyhoeddus:<\/strong> Traveline Cymru <a style=\"color: #ffffff; text-decoration: underline;\" href=\"tel:08004640000\">0800 464 0000<\/a>,<br \/>\nYmholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol <a style=\"color: #ffffff; text-decoration: underline;\" href=\"tel:03457484950\">03457 484950<\/a><\/p>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-map\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-21477\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-trail-map.jpg\" alt=\"Rhyl Town Trail Map\" width=\"2181\" height=\"2484\" \/><\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21479\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-tt-01.jpg\" alt=\"SC2\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">1<\/div>\n<h3>SC2<\/h3>\n<p>Heb amheuaeth, prif atyniad glan m\u00f4r y Rhyl yw SC2 a\u2019i 1,200 metr sgw\u00e2r o hwyl ddyfriog gyda llithrennau mawr y tu mewn a\u2019r tu allan, mannau padlo, llithrennau bach, pad sblasio y tu allan sy\u2019n gr\u00eat ar gyfer plant bach, a therasau caffi i\u2019r oedolion. Mae hefyd yn cynnwys arena chwarae dan do cyffrous TAGactive \u2013 y cyntaf yng Nghymru. Mae SC2 yn brofiad gwyliau cyflawn, pa un ai ydych chi\u2019n chwilio am gyffro neu\u2019n dymuno padlo ac ymlacio a rhoi eich traed i fyny.<br \/>\n<a href=\"http:\/\/www.sc2rhyl.co.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.sc2rhyl.co.uk<\/a><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21481\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-tt-02.jpg\" alt=\"Aviator Vivian Hewitt\" width=\"400\" height=\"545\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">2<\/div>\n<h3>Yr Awyrennwr<br \/>\nVivian Hewitt<\/h3>\n<p><strong>O\u2019r T\u0175r Awyr, trowch i\u2019r chwith ar hyd Rhodfa\u2019r Gorllewin.<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r arena ddigwyddiadau awyr agored ar eich chwith yn un o fannau gwylio gorau Sioe Awyr y Rhyl, pan fydd 140,000 o bobl yn heidio i\u2019r promen\u00e2d yn ystod penwythnos G\u0175yl y Banc mis Awst. Mae hanes awyrennu\u2019r dref yn mynd yn \u00f4l flynyddoedd lawer. Ar 21 Ebrill 1912 bu i\u2019r awyrennwr Vivian Hewitt esgyn o draeth y Rhyl mewn monoplan Bleriot wedi\u2019i wneud allan o goed, weiars a chynfas. Ar \u00f4l ail-lenwi\u2019r awyren \u00e2 phetrol yng Nghaergybi glaniodd yn ddiogel yn Nulyn fel y dyn cyntaf i hedfan dros F\u00f4r Iwerddon. Byddai ei lwyddiant wedi bod yn fwy adnabyddus pe na bai wedi digwydd yn fuan ar \u00f4l i\u2019r Titanic suddo.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21483\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-tt-03.jpg\" alt=\"Pavilion Theatre\" width=\"400\" height=\"543\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">3<\/div>\n<h3>Theatr y Pafiliwn<\/h3>\n<p><strong>Os hoffech chi amdaith i Theatr y Pafiliwn, ewch ar hyd Rhodfa\u2019r Dwyrain. Ar y chwith byddwch yn gweld Pro Kitesurfing, sy\u2019n cynnig antur a chaffi ger y traeth.<\/strong><\/p>\n<p>Mae Theatr y Pafiliwn a\u2019i 1000 o seddi yn cynnal cymysgedd o gyngherddau, nosweithiau comedi a sioeau West End. I fyny\u2019r grisiau fe ddowch o hyd i fwyty a bar 1891 sy\u2019n defnyddio bwydydd a chynhwysion lleol. Dyma le bendigedig i fwynhau pryd o fwyd cyn sioe neu i ymlacio a mwynhau\u2019r golygfeydd godidog o\u2019r m\u00f4r. Ewch yn \u00f4l ar hyd Rhodfa\u2019r Dwyrain, a chofiwch aros i sylwi ar y t\u0175r gwylio a godwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel gorsaf signalau semaffor ar gyfer stemars padlo.<br \/>\n<a href=\"http:\/\/www.rhylpavilion.co.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.rhylpavilion.co.uk<\/a><br \/>\n<a href=\"http:\/\/www.1891rhyl.com\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.1891rhyl.com<\/a><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21485\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-tt-04.jpg\" alt=\"Churches of Holy Trinity and St Thomas\" width=\"400\" height=\"552\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">4<\/div>\n<h3>Eglwysi\u2019r Drindod<br \/>\nSanctaidd a<br \/>\nSant Thomas<\/h3>\n<p><strong>Trowch i\u2019r chwith i Stryd y Baddon a\u2019i adeiladau Fictoraidd gwych.<\/strong><\/p>\n<p>Cyn i\u2019r rheilffordd gyrraedd yn 1848 pentref di-nod oedd y Rhyl. Ond, yn fuan iawn wedyn daeth y lle\u2019n fwrlwm o dwristiaid yn chwilio am antur a dechreuwyd adeiladu ac estyn y pentref. Gorffennwyd Eglwys Sant Tomos, adeilad gothig Fictoraidd gan y pensaer George Gilbert Scott, yn 1867. Drws nesaf mae Eglwys y Drindod Sanctaidd, eglwys a godwyd yn 1835 a ddaeth, o fewn cenhedlaeth, yn rhy fach i\u2019r cynulleidfa a oedd wedi tyfu yn sgil y cyrchfan gwyliau poblogaidd. Er gwaethaf presenoldeb ei frawd mawr gerllaw, dyma eglwys y plwyf hyd heddiw.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21487\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-tt-05.jpg\" alt=\"Rhyl Museum\" width=\"400\" height=\"571\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">5<\/div>\n<h3>Amgueddfa\u2019r Rhyl<\/h3>\n<p><strong>Mae\u2019r amgueddfa yn Llyfrgell y Rhyl ar y chwith.<\/strong><\/p>\n<p>I fyny\u2019r grisiau gallwch gerdded ar hyd pier Edwardaidd dychmygol ac edrych i mewn i giosgau yn llawn pethau gwych a rhyfeddol fel gwregysau achub, cadeiriau baddon a dillad nofio o oes aur y cyrchfan. Mae\u2019n fan gwych i ddysgu mwy am yr unigolion a luniodd y Rhyl a Phrestatyn gerllaw, o wneuthurwyr y baddonau Rhufeinig i arloeswyr cynnar y sinema. Ac mae\u2019n rhad ac am ddim.<\/p>\n<p><strong>Ewch i mewn i Ganolfan Siopa\u2019r Rhosyn Gwyn. Trowch i\u2019r chwith ac yna i\u2019r dde i\u2019r Stryd Fawr.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21489\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-tt-06.jpg\" alt=\"Town Hall\" width=\"400\" height=\"571\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">6<\/div>\n<h3>Neuadd y Dref<\/h3>\n<p><strong>Ewch i lawr y Stryd Fawr, ac yna troi i Stryd y Farchnad.<\/strong><\/p>\n<p>Agorwyd Neuadd y Dref gyferbyn gyda gorymdaith stryd a ffanfer yn 1876 \u2013 a hynny\u2019n haeddiannol. Mae\u2019n enghraifft wych o bensaern\u00efaeth ddinesig hyderus yn arddull Gothig Ffrainc. Y tu mewn roedd swyddfeydd clerc y dref a\u2019r syrf\u00ebwr, gorsaf d\u00e2n, cegin gawl, banc, cyfnewidfa y\u02c6d a swyddfa arwerthwr. Os nad oedd hyn oll yn ddigon, cafwyd estyniad yn 1907 ar gyfer llyfrgell a ariannwyd gan y dyngarwr Andrew Carnegie, a oedd hefyd yn gyfrifol am y Carnegie Hall yn Efrog Newydd. Roedd llyfrgell y dref wedi\u2019i lleoli yma tan 1982.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21491\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-tt-07.jpg\" alt=\"Marine Lake\" width=\"400\" height=\"544\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">7<\/div>\n<h3>Llyn Morol<\/h3>\n<p><strong>Wrth fynd tua\u2019r gorllewin byddwch yn gweld hen Eglwys Sant Ioan ar gornel Stryd yr Afon, a godwyd yn 1885 ar gyfer cynulleidfa o Erddi\u2019r Gaeaf.<\/strong><\/p>\n<p>Llyn Morol y Rhyl, sydd wedi\u2019i gysylltu \u00e2\u2019r m\u00f4r gan lifddor, yw\u2019r unig lyn dw\u02c6 r hallt yng ngogledd Cymru. Os hoffech chi, gallwch gerdded ar hyd llwybr natur a threftadaeth o amgylch y llyn. Neu, os ydi hynny\u2019n weithgaredd rhy egn\u00efol i chi, beth am gamu ar yr hen locomotif st\u00eam, y rheilffordd fach hynaf ym Mhrydain. Bu iddyn nhw ddathlu can mlynedd yn 2011 drwy godi Gorsaf Ganol gydag amgueddfa lle fedrwch chi gogio gyrru tr\u00ean, tynnu liferi signal a chanu\u2019r clychau. Beth am roi cynnig arn?<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21493\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-tt-08.jpg\" alt=\"Rhyl Harbour\" width=\"400\" height=\"545\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">8<\/div>\n<h3>Harbwr y Rhyl<\/h3>\n<p>Mae\u2019r harbwr gwreiddiol dros 700 mlwydd oed, wedi\u2019i greu fel rhan o sianel ddw\u02c6 r dwfn i gyflenwi castell Edward y Cyntaf yn Rhuddlan. Ond mae pethau wedi newid cryn dipyn ers hynny. I ddechrau mae yna amddiffynfeydd arfordirol newydd, llithrfa, iard gychod a chei estynedig. Heb s\u00f4n am fast 50 metr Pont y Ddraig. Mae\u2019r adeiledd eiconig yma, sy\u2019n agor a chau fel blodyn metel anferth i ganiat\u00e1u i gychod hwylio heibio, yn arwain at y caffi a\u2019r siop hurio beics newydd. Ond mae hefyd yn rhan o Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 a Llwybr Arfordir Cymru.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21495\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-tt-09.jpg\" alt=\"Horton\u2019s Nose\" width=\"400\" height=\"572\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">9<\/div>\n<h3>Trwyn Horton<\/h3>\n<p>Mae ganddo si\u00e2p sy\u2019n debyg i drwyn ac roedd yn eiddo i ddyn o\u2019r enw Horton. A dyna pam bod y warchodfa natur hon, un o\u2019r systemau twyni tywod olaf ar arfordir gogledd Cymru, wedi\u2019i galw\u2019n Trwyn Horton. Ewch am dro ar hyd y llwybr bordiau i weld golygfeydd hardd o lan m\u00f4r y Rhyl ac, os ydych chi\u2019n lwcus, efallai y gwelwch chi ychydig o fywyd gwyllt hefyd, fel madfallod, ehedyddion, bilidowcars a m\u00f4r-wenoliaid pigddu. Yn anhygoel, yn 1962 y fan a\u2019r lle yma oedd cartref gwasanaeth hofrenfad gyntaf y byd, yn uno\u2019r Rhyl \u00e2 Wallasey.<\/p>\n<p><strong>Ewch yn \u00f4l dros y bont a cherddwch ar hyd Rhodfa\u2019r Gorllewin. Cadwch i\u2019r chwith ar hyd glan y m\u00f4r ac ewch am oleuf\u00e2u uchel Parc Drifft.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"town-trail-number-sections\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-21497\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-tt-10.jpg\" alt=\"Wreck of the Resurgam\" width=\"400\" height=\"571\" \/><\/p>\n<div class=\"town-trail-number-text\">\n<div class=\"numberCircle\">10<\/div>\n<h3>Llongddrylliad<br \/>\nResurgam<\/h3>\n<p>Wedi\u2019i ysgythru ar wal wrth ymyl y trydydd oleufa mae delwedd o\u2019r Rhyl yn yr oes a fu. Yn hedfan yn uchel uwchben y dref gwelir awyren Vivian Hewitt (gweler rhif 2) ac oddi tano mae cwch o ryw fath i\u2019w weld yn y tonnau. Dyma\u2019r Resurgam, un o gychod tanddwr pw\u02c6 er hynaf yn y byd a chynnyrch meddwl y clerigwr ecsentrig y Parch. George Garrett. Wedi\u2019i hadeiladu ym Mhenbedw yn 1879, suddodd ei gwch danfor, a oedd yn cael ei phweru \u00e2 st\u00eam, yn fuan ar \u00f4l gadael y Rhyl i fynd i Portsmouth. Yn 1995 darganfuwyd y drylliad pum milltir ar y m\u00f4r gan ddeifiwr lleol. Ond, hyd yma, nid yw enw\u2019r bad, \u201cFe ddyrchafaf eto\u201d yn Lladin, wedi bod yn broffwydol.<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"clear: left;\"><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dwy ganrif yn \u00f4l roedd y Rhyl yn bentref pysgota di-nod ar arfordir gogledd Cymru. Ond, erbyn canol y 1800au, diolch i\u2019r rheilffordd, roedd yn un o\u2019r dyfrfannau mwyaf ffasiynol ym Mhrydain.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":687,"template":"","meta":{"footnotes":""},"lsvr_project_cat":[565],"lsvr_project_tag":[],"class_list":["post-2397","lsvr_project","type-lsvr_project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","lsvr_project_cat-town-trails-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.1 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Llwybr Tref Y Rhyl - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Llwybr Tref Y Rhyl - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dwy ganrif yn \u00f4l roedd y Rhyl yn bentref pysgota di-nod ar arfordir gogledd Cymru. Ond, erbyn canol y 1800au, diolch i\u2019r rheilffordd, roedd yn un o\u2019r dyfrfannau mwyaf ffasiynol ym Mhrydain.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-11-06T15:50:14+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-town-trail.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"440\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"966\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/\",\"name\":\"Llwybr Tref Y Rhyl - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-town-trail.jpg\",\"datePublished\":\"2023-04-11T20:13:27+00:00\",\"dateModified\":\"2024-11-06T15:50:14+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-town-trail.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-town-trail.jpg\",\"width\":440,\"height\":966,\"caption\":\"Rhyl Town Trail\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Portfolio\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Llwybr Tref Y Rhyl\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"name\":\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"description\":\"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\",\"name\":\"North East Wales\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"width\":546,\"height\":188,\"caption\":\"North East Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\",\"https:\/\/x.com\/ntheastwales\",\"https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Llwybr Tref Y Rhyl - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Llwybr Tref Y Rhyl - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","og_description":"Dwy ganrif yn \u00f4l roedd y Rhyl yn bentref pysgota di-nod ar arfordir gogledd Cymru. Ond, erbyn canol y 1800au, diolch i\u2019r rheilffordd, roedd yn un o\u2019r dyfrfannau mwyaf ffasiynol ym Mhrydain.","og_url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/","og_site_name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","article_modified_time":"2024-11-06T15:50:14+00:00","og_image":[{"width":440,"height":966,"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-town-trail.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_site":"@ntheastwales","twitter_misc":{"Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/","name":"Llwybr Tref Y Rhyl - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-town-trail.jpg","datePublished":"2023-04-11T20:13:27+00:00","dateModified":"2024-11-06T15:50:14+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-town-trail.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-town-trail.jpg","width":440,"height":966,"caption":"Rhyl Town Trail"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/rhyl-town-trail\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Portfolio","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/booklets\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Llwybr Tref Y Rhyl"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","description":"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales","publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization","name":"North East Wales","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","width":546,"height":188,"caption":"North East Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","https:\/\/x.com\/ntheastwales","https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2397","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/lsvr_project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2397\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7299,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project\/2397\/revisions\/7299"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/687"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2397"}],"wp:term":[{"taxonomy":"lsvr_project_cat","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project_cat?post=2397"},{"taxonomy":"lsvr_project_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/lsvr_project_tag?post=2397"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}