{"id":3430,"date":"2023-02-08T11:57:40","date_gmt":"2023-02-08T11:57:40","guid":{"rendered":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?p=3430"},"modified":"2023-02-14T13:26:31","modified_gmt":"2023-02-14T13:26:31","slug":"exploring-the-vale-of-clwyd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/","title":{"rendered":"Archwilio Dyffryn Clwyd"},"content":{"rendered":"<p>Yr wythnos diwethaf fe aethom ar y pumed daith Ymgyfarwyddo a drefnwyd gan D\u00eem Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych, a gynlluniwyd i amlygu rhannau gorau\u2019r ardal gyda busnesau twristiaeth leol fel y gallant rannu\u2019r wybodaeth ac annog ymwelwyr i dyrchu\u2019n ddyfnach i\u2019n hanes lleol, atyniadau, caffis a siopau.<\/p>\n<p>Y tro hwn fe wnaethom ganolbwyntio ar Ddyffryn Clwyd, ardal sydd wedi elwa o arwyddion newydd yn ddiweddar. Ein man galw cyntaf oedd Llyfrgell Dinbych. Tynnodd ein tywysydd Pete sylw at deithiau cerdded fel <a href=\"https:\/\/www.ramblers.org.uk\/route-detail?routeuid=6042-Lady-Bagots-Drive-and-the-Vale-of-Clwyd-Denbighshirehttps:\/\/www.ramblers.org.uk\/route-detail?routeuid=6042-Lady-Bagots-Drive-and-the-Vale-of-Clwyd-Denbighshire\">Lady Baggot&#8217;s Drive<\/a> ar hyd Afon Clywedog ar y ffordd i Ddinbych a\u2019r rheswm dros yr enw Pwll y Grawys yn Ninbych oedd oherwydd cyn iddo gael ei ddraenio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dilyn epidemig colera byddai wedi cael ei stocio gyda physgod a oedd yn darparu bwyd i bobl y dref a\u2019r garsiwn yn Ninbych yn ystod y Grawys.<\/p>\n<p>Cafwyd sgwrs gan Roland yn Llyfrgell Dinbych a eglurodd iddo gael ei adeiladu\u2019n wreiddiol fel Neuadd y Dref gan Robert Dudley, Iarll Caerl\u0177r a Barwn Dinbych ym 1572. Roedd Dudley yn ffefryn mawr gan Elisabeth I ar y pryd ac roedd hefyd yn gyfrifol am adeiladu Eglwys Caerl\u0177r. Wedi&#8217;i ailfodelu&#8217;n helaeth ym 1780, yn wreiddiol roedd yr adeilad yn neuadd farchnad a llys ac yna cafodd ei ddefnyddio fel neuadd y dref hyd at ail hanner yr ugeinfed ganrif. Mae&#8217;r adeilad bellach yn llyfrgell gyhoeddus helaeth dros 3 llawr gydag arddangosfeydd treigl. Mae oriau agor i\u2019w gweld <a href=\"%3chttps:\/www.denbighshire.gov.uk\/cy\/hamdden-a-thwristiaeth\/llyfrgelloedd\/dinbych.aspx%3e.\">yma<\/a><u>. <\/u>Ni allwch fethu\u2019r cerflun dadleuol o fab enwog Dinbych, archwiliwr Affrica, Syr Henry Morton Stanley, wrth fynedfa\u2019r llyfrgell, wrth iddo estyn allan i ysgwyd eich llaw. Mae\u2019r anturiaethwr yn fwyaf enwog am ddod o hyd i\u2019r cenhadwr coll Dr David Livingstone mewn rhan anghysbell o\u2019r hyn sydd bellach yn Tansan\u00efa ym 1871 ac am lefaru\u2019r geiriau a ddyfynnir yn aml: &#8220;Dr Livingstone, I presume?&#8221;. Gweithredodd fel asiant i Frenin Leopold II o Wlad Belg a chaiff y clod am agor rhanbarth Affrica i&#8217;r Gorllewin, ond iddo gael ei gam-fanteisio\u2019n greulon ar \u00f4l iddo adael. Mae&#8217;n adnabyddus am fod yn un o&#8217;r ychydig bobl a ymladdodd ar ddwy ochr y Rhyfel Cartref. Ymunodd \u00e2 Byddin y Conffederasiwn yn dilyn dechrau Rhyfel Cartref America yn 1861 ac ymladdodd ym Mrwydr Shiloh. Ar \u00f4l cael ei ddal fe newidiodd ochr yn gyflym ac ymuno \u00e2 Byddin yr Undeb. Beth bynnag yw eich barn am Stanley mae\u2019n parhau i fod yn rhan o hanes cyfoethog Dinbych a bu\u2019n dilyn antur drwy gydol ei oes.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-3419 aligncenter\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/2110.jpg\" alt=\"\" width=\"332\" height=\"499\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yna, bu i ni gerdded i fyny i\u2019r castell ar hyd y llwybr cyswllt yn L\u00f4n Brombil, gan fwynhau\u2019r gyfres o waith celf ar hyd y ffordd yn darlunio barddoniaeth gan Rhys Trimble, gosodiadau golau ar ffurf Banadl yn ogystal \u00e2 stori\u2019r Mabinogi, Blodeuwedd sy\u2019n cael ei hadnabod fel Duwies y blodau a redodd i ffwrdd i&#8217;r goedwig, dim ond i gael ei holrhain gan Gwydion, dewin sy&#8217;n cael ei gynddeiriogi gan frad ei nai. Mae hi&#8217;n cael ei throi&#8217;n dylluan, i grwydro yn y nos yn unig, ac nid yw\u2019n cael gweld pelydrau&#8217;r haul yr oedd yn eu caru gymaint ac yn mynd i fywyd unig. Pan gyrhaeddwch ben y l\u00f4n fe welwch darian hardd o flodau, trowch yn \u00f4l ar y ffordd rydych newydd ei cherdded ac fe welwch dylluan hardd yn hedfan.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-3409 aligncenter\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/4217.jpg\" alt=\"\" width=\"499\" height=\"332\" \/><\/p>\n<p>Bu i ni gerdded i&#8217;r castell drwy Borth Burgess oedd yn un o&#8217;r ddwy brif fynedfa i&#8217;r dref gaerog. Mae Dinbych (yn golygu caer fechan) yn un o drefi mwyaf hanesyddol Gogledd Cymru. Sonnir am y dref gyntaf mewn cofnodion yn y blynyddoedd yn dilyn y Goncwest Normanaidd pan ddaeth yn dref ar y ffin yn gwarchod y ffordd ddynesu at Fryniau Hiraethog ac Eryri. Mae&#8217;n debyg mai Dinbych hefyd oedd lleoliad tref gaead yn ystod meddiannaeth y Rhufeiniaid ac yn y deuddegfed ganrif roedd pencadlys Dafydd ap Gruffydd, brawd Llewelyn, Ein Llyw Olaf, yma. Creodd Edward I Arglwyddiaeth Dinbych ym 1282 a roddwyd i Henry de Lacy a awdurdododd i Gastell Dinbych gael ei adeiladu dros gadarnle Dafydd ap Gruffydd. Nodwedd orau&#8217;r castell yw ei Borthdy Mawr tri th\u0175r ac arno stamp digamsyniol Meistr Iago o Lansan Si\u00f4r, y pensaer a oedd yn gyfrifol am holl gestyll mawr Edward I yng Ngogledd Cymru.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-3417 aligncenter\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/4218.jpg\" alt=\"\" width=\"499\" height=\"332\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Gwelsom weddillion Eglwys anorffenedig Caerl\u0177r. Dechreuwyd adeiladu ym 1578 gyda\u2019r bwriad o fod yr un mwyaf mawreddog o\u2019r cyfnod, wedi\u2019i gynllunio ar gyfer gwasanaeth Protestannaidd ac o bosibl yn cymryd lle Capel St Hilari ac o bosibl Cadeirlan Llanelwy. Oherwydd diffyg cyllid a gwrthwynebiad lleol cafodd ond ei datblygu hyd at uchder y ffenestr ac fe\u2019i gadawyd yn llwyr pan fu farw Dudley ym 1588. Effeithiodd ei farwolaeth yn fawr ar Elisabeth I a chadwodd ei lythyr olaf ati wrth erchwyn ei gwely tan y bu iddi hi farw 15 mlynedd yn ddiweddarach.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-3415 aligncenter\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/4664.jpg\" alt=\"\" width=\"500\" height=\"333\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Ein stop nesaf oedd cinio bendigedig yng nghaffi\u2019r Cyfieithwyr yng Nghadeirlan Llanelwy. Daeth yn amser am ychydig o rwydweithio a sgwrs gan David am hanes cyfoethog ac amrywiol y gadeirlan. Cafodd ei hadeiladu\u2019n gyntaf yn y drydedd ganrif ar ddeg ond yn \u2018llwybr rhyfel\u2019 peryglus Tywysogion Cymru a Brenhinoedd Lloegr ychydig a wyddys faint o ddifrod y byddai\u2019r adeilad gwreiddiol wedi\u2019i ddioddef. Cafodd ei ailfodelu yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gan ddefnyddio tywodfaen melynaidd graen m\u00e2n a gloddiwyd yn y Fflint ar gyfer casin allanol y waliau ac ar gyfer myliynau a gwaith cerfiedig arall. Fe&#8217;i defnyddiwyd fel stabl gan Owain Glyndwr yn 1402 ac ers hynny mae wedi dod yn adeilad hardd fel a welwn heddiw. Mae wir yn eich synnu ac mae ar agor gyda gwasanaeth 365 diwrnod y flwyddyn a ch\u00f4r gweithredol y byddwch efallai&#8217;n clywed yn ymarfer yn ystod eich ymweliad.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-3421 aligncenter\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/2357.jpg\" alt=\"\" width=\"499\" height=\"332\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-3425 alignright\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/1932.jpg\" alt=\"\" width=\"240\" height=\"500\" \/><\/p>\n<p>Yna, bu i ni ymweld \u00e2 chastell Rhuddlan un arall o gadarnleoedd Edward I. Hoffai i&#8217;w gestyll fod ar yr arfordir er mwyn cael nwyddau\u2019n hawdd dros y m\u00f4r pe na bai ei ymgyrch yn erbyn y Cymry yn mynd rhagddo fel y bwriadwyd. Ond gan fod Rhuddlan yn fewndir, y cynllun oedd defnyddio afon Clwyd yn lle. Fe orfododd Edward gannoedd o gloddwyr ffosydd i ddyfnhau a dargyfeirio ei gwrs. Mae castell Rhuddlan yn parhau i edrych fel castell yr oedd hi\u2019n werth symud afon ar ei gyfer. Dechreuwyd ei adeiladu yn 1277 a hwn oedd y castell cyntaf o\u2019r math consentrig arloesol, neu \u2018waliau o fewn waliau\u2019 a ddyluniwyd gan y meistr bensaer Iago o Lansan Si\u00f4r. Mae\u2019n hawdd gweld cynllun grid y strydoedd canoloesol yn Rhuddlan yr oes fodern a\u2019i ffosydd.<\/p>\n<p>Yna bu i ni gerdded ar draws i Eglwys y Santes Fair sydd wedi bod yn gwasanaethu pobl Rhuddlan ers 1301 fel man i wedd\u00efo ac addoli, dathlu a chofio. Mae\u2019n Eglwys hardd ac yn werth ei gweld, fe\u2019i symudwyd i\u2019r safle hwn gan Edward I ac mae\u2019n ymddangos ei fod yn hoff iawn o symud pethau i weddu i\u2019w gynlluniau cyffredinol. Y tu mewn mae llawer o luniadau canoloesol a ddadorchuddiwyd gan waith adnewyddu blaenorol a chredir eu bod ymhlith y cynharaf sy&#8217;n dal i fodoli yng Nghymru.<\/p>\n<p>Fe wnaethom orffen ein diwrnod gydag ymweliad ag Eglwys y Santes Fererid (a elwir hefyd yn Yr Eglwys Farmor), Bodelwyddan. Mae\u2019r eglwys blwyf hon sydd wedi\u2019i haddurno mewn Arddull Gothig gyda meindwr 202 troedfedd i\u2019w gweld am filltiroedd yn rhan isaf Dyffryn Clwyd ac mae\u2019n hawdd ei chyrraedd o ffordd gyflym yr A55.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Comisiynwyd yr eglwys gan y Foneddiges Margaret Willoughby de Broke o Gastell Bodelwyddan gerllaw er cof am ei g\u0175r, Henry Peyto-Verney, Barwn Willoughby de Broke rhif 16. Gosododd y garreg sylfaen ar 24 Gorffennaf 1856 a chysegrwyd yr eglwys newydd a gynlluniwyd gan John Gibson gan Esgob Llanelwy ar 23 Awst 1860 ar \u00f4l ei hadeiladu ar gost o \u00a360,000. Cr\u00ebwyd plwyf newydd Bodelwyddan ar 3 Awst 1860. Oherwydd ei ddeunydd a&#8217;i ddyluniad moethus cafodd y llys enw\u00a0 <em>&#8216;The Pearl of the Vale&#8217;.<\/em><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-3411 aligncenter\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/3889.jpg\" alt=\"\" width=\"375\" height=\"500\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae&#8217;r eglwys yn cynnwys pedwar math ar ddeg o farmor gan gynnwys pileri wedi&#8217;u gwneud o farmor Coch Gwlad Belg, mae mynedfa corff yr eglwys wedi&#8217;i gwneud o farmor M\u00f4n a siafftiau o farmor Languedoc ar sylfaen o farmor Purbeck. Mae hefyd yn cynnwys gwaith coed cywrain, ac yn y t\u0175r gellir dod o hyd i ffenestri gwydr lliw ar yr ochr ogleddol a deheuol, yn cynnwys y Santes Fererid a Sant Cyndeyrn. Os edrychwch yn ofalus, gallwch weld ei henw hi a&#8217;i g\u0175r wedi&#8217;u cerfio yn y to yn ogystal \u00e2&#8217;u hwynebau, yn amlwg roedd ganddi lawer o fewnbwn i&#8217;r dyluniad yn ogystal \u00e2 bod yn gofeb hardd i&#8217;w diweddar \u0175r.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yn sicr, fe wnaethom wneud llawer yn ystod ein diwrnod yn y Dyffryn ac os hoffech chi ddarganfod mwy am yr ardal beth am ystyried cymryd rhan yn ein <a href=\"%3chttps:\/www.ambassador.wales\/cy\/ambassador-courses\/denbighshire-tourism-ambassador-scheme\/%3e.\">cwrs llysgennad rhad ac am ddim<\/a>? Sir Ddinbych oedd y cyntaf i lansio cwrs ar-lein o\u2019i fath yng Nghymru. Mae\u2019n cynnwys cyfres o fodiwlau ar-lein ar wahanol them\u00e2u sy\u2019n berthnasol i\u2019r ardal gan gynnwys y Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded. Mae 3 lefel o wobrau &#8211; efydd, arian ac aur. Fe anogir preswylwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol lleol i fod yn Llysgenhadon i ddysgu mwy am rinweddau unigryw&#8217;r ardal. Os hoffech wybod mwy am y cynllun neu os hoffech dderbyn ein newyddlenni, <a href=\"mailto:%3cmailto:tourism@denbighshire.gov.uk%3e\">cysylltwch \u00e2 ni.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yr wythnos diwethaf fe aethom ar y pumed daith Ymgyfarwyddo a drefnwyd gan D\u00eem Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych, a gynlluniwyd i amlygu rhannau gorau\u2019r ardal gyda busnesau twristiaeth leol fel y gallant rannu\u2019r wybodaeth ac annog ymwelwyr i dyrchu\u2019n ddyfnach i\u2019n hanes lleol, atyniadau, caffis a siopau. Y tro hwn fe wnaethom ganolbwyntio ar Ddyffryn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":3410,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[39,41,37,43,34],"tags":[169,170,171,172],"class_list":["post-3430","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-atyniadau","category-bwyd-a-diod","category-activities-cy","category-treftadaeth","category-inspire-me-cy","tag-marblechurch-cy","tag-stasaph-cy","tag-transaltorstearooms-cy","tag-valeofclwyd-broomhilllane-denbighcastle-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.1 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Archwilio Dyffryn Clwyd - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Archwilio Dyffryn Clwyd - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yr wythnos diwethaf fe aethom ar y pumed daith Ymgyfarwyddo a drefnwyd gan D\u00eem Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych, a gynlluniwyd i amlygu rhannau gorau\u2019r ardal gyda busnesau twristiaeth leol fel y gallant rannu\u2019r wybodaeth ac annog ymwelwyr i dyrchu\u2019n ddyfnach i\u2019n hanes lleol, atyniadau, caffis a siopau. Y tro hwn fe wnaethom ganolbwyntio ar Ddyffryn [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-02-08T11:57:40+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-02-14T13:26:31+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/4217.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"499\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"332\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Fiona Dolben\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Fiona Dolben\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/\"},\"author\":{\"name\":\"Fiona Dolben\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0\"},\"headline\":\"Archwilio Dyffryn Clwyd\",\"datePublished\":\"2023-02-08T11:57:40+00:00\",\"dateModified\":\"2023-02-14T13:26:31+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/\"},\"wordCount\":1578,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/4217.jpg\",\"keywords\":[\"#marblechurch\",\"#stasaph\",\"#transaltorstearooms\",\"#valeofclwyd #broomhilllane #denbighcastle #\"],\"articleSection\":[\"Atyniadau\",\"Bwyd a Diod\",\"Gweithgareddau\",\"Treftadaeth\",\"Ysbrydoliaeth\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/\",\"name\":\"Archwilio Dyffryn Clwyd - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/4217.jpg\",\"datePublished\":\"2023-02-08T11:57:40+00:00\",\"dateModified\":\"2023-02-14T13:26:31+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/4217.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/4217.jpg\",\"width\":499,\"height\":332},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Archwilio Dyffryn Clwyd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"name\":\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"description\":\"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\",\"name\":\"North East Wales\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"width\":546,\"height\":188,\"caption\":\"North East Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\",\"https:\/\/x.com\/ntheastwales\",\"https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0\",\"name\":\"Fiona Dolben\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Fiona Dolben\"},\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/author\/fiona-dolbendenbighshire-gov-uk\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Archwilio Dyffryn Clwyd - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Archwilio Dyffryn Clwyd - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","og_description":"Yr wythnos diwethaf fe aethom ar y pumed daith Ymgyfarwyddo a drefnwyd gan D\u00eem Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych, a gynlluniwyd i amlygu rhannau gorau\u2019r ardal gyda busnesau twristiaeth leol fel y gallant rannu\u2019r wybodaeth ac annog ymwelwyr i dyrchu\u2019n ddyfnach i\u2019n hanes lleol, atyniadau, caffis a siopau. Y tro hwn fe wnaethom ganolbwyntio ar Ddyffryn [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/","og_site_name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","article_published_time":"2023-02-08T11:57:40+00:00","article_modified_time":"2023-02-14T13:26:31+00:00","og_image":[{"width":499,"height":332,"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/4217.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Fiona Dolben","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@ntheastwales","twitter_site":"@ntheastwales","twitter_misc":{"Written by":"Fiona Dolben","Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/"},"author":{"name":"Fiona Dolben","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0"},"headline":"Archwilio Dyffryn Clwyd","datePublished":"2023-02-08T11:57:40+00:00","dateModified":"2023-02-14T13:26:31+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/"},"wordCount":1578,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/4217.jpg","keywords":["#marblechurch","#stasaph","#transaltorstearooms","#valeofclwyd #broomhilllane #denbighcastle #"],"articleSection":["Atyniadau","Bwyd a Diod","Gweithgareddau","Treftadaeth","Ysbrydoliaeth"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/","name":"Archwilio Dyffryn Clwyd - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/4217.jpg","datePublished":"2023-02-08T11:57:40+00:00","dateModified":"2023-02-14T13:26:31+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/4217.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/4217.jpg","width":499,"height":332},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/exploring-the-vale-of-clwyd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Archwilio Dyffryn Clwyd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","description":"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales","publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization","name":"North East Wales","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","width":546,"height":188,"caption":"North East Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","https:\/\/x.com\/ntheastwales","https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0","name":"Fiona Dolben","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g","caption":"Fiona Dolben"},"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/author\/fiona-dolbendenbighshire-gov-uk\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3430","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3430"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3430\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3491,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3430\/revisions\/3491"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3410"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3430"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3430"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3430"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}