{"id":3601,"date":"2023-03-08T16:08:23","date_gmt":"2023-03-08T16:08:23","guid":{"rendered":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?p=3601"},"modified":"2023-03-14T09:41:16","modified_gmt":"2023-03-14T09:41:16","slug":"taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/","title":{"rendered":"Taith gyda gwahaniaeth i&#8217;r arfordir"},"content":{"rendered":"<p>Yr wythnos ddiwethaf fe aethon ar y daith \u2018Ymgyfarwyddo\u2019 olaf mewn cyfres o deithiau a drefnwyd gan D\u00eem Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych.\u00a0 Dyluniwyd y prosiect i dynnu sylw at gyrchfannau diddorol ac allweddol o fewn yr ardal i fusnesau twristiaeth lleol fel eu bod, yn eu tro, yn gallu rhannu\u2019r wybodaeth ac annog ymwelwyr i fynd yn ddyfnach i hanes, atyniadau, caffis a siopau lleol.\u00a0 Mae cyfanswm o 60 o fusnesau wedi mynychu hyd yma sydd wedi cynnwys Safle Treftadaeth y Byd Traphont Dd\u0175r a Chamlas Pontcysyllte, y Celfyddydau a Diwylliant, Wrecsam, Rhuthun, Dyffryn Clwyd, yn ogystal \u00e2\u2019r un olaf hwn ar hyd yr Arfordir.\u00a0 Defnyddiwyd tywyswyr teithiau lleol a chafodd y prosiect cyfan ei ariannu gan Gadwyn Clwyd.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-3580\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/IMG_5461-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" \/><\/p>\n<p>Y lle cyntaf i ni ymweld ag ef oedd Harbwr y Foryd yn y Rhyl.\u00a0 \u00a0Fel y gwnaethom ei ddarganfod ar ein taith ddiwethaf, roedd Rhuddlan yn arfer bod yn brif borthladd ar gyfer gafael Edward I ar Ddyffryn Clwyd ond wrth i\u2019r sianel gael ei llenwi \u00e2 silt ac wrth i\u2019r Rhyl ddatblygu, bu i Harbwr y Foryd gymryd drosodd.\u00a0 Ar lanw isel, gellir gweld prennau yn y silt wrth lan ddwyreiniol yr Harbwr.\u00a0\u00a0 Gweddillion <em>Dinas Ottawa<\/em>, llong hwylio fawr a adeiladwyd yng Nghanada yn 1860 yw\u2019r rhain. Roedd yn cario cargo ar draws y gl\u00f4b ac fe gafodd ei gadael yn y Rhyl yn dilyn storm yn 1906.<\/p>\n<figure id=\"attachment_1806\" aria-describedby=\"caption-attachment-1806\" style=\"width: 600px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-1806\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/pont-y-ddraig-600x400.jpg\" alt=\"Pont Y Ddraig Harbour Bridge, Rhyl\" width=\"600\" height=\"400\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/pont-y-ddraig-600x400.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/pont-y-ddraig-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/pont-y-ddraig.jpg 999w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1806\" class=\"wp-caption-text\">Pont Y Ddraig ,\u00a0 \u00a0Y Rhyl<\/figcaption><\/figure>\n<p>Yn y Gwanwyn 2012, dechreuodd gwaith adeiladu i drawsnewid y rhan yma o\u2019r Rhyl gyda\u2019r nod o gynyddu twristiaeth a rhoi hwb i\u2019r economi lleol.\u00a0 Nod allweddol arall y prosiect oedd darparu llwybr mwy diogel a hardd i gerddwyr a beicwyr fel rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy\u2019n dilyn arfordir cyfan Cymru.\u00a0 Roedd hwn yn sicr yn llwyddiant gyda\u2019r Bont y Ddraig anhygoel sy\u2019n agor i ganiat\u00e1u i gychod uwch fynd drwodd ac sy\u2019n cysylltu\u2019r Rhyl gyda <a href=\"https:\/\/www.denbighshire.gov.uk\/cy\/hamdden-a-thwristiaeth\/harbwr-y-rhyl\/harbwr-y-rhyl-pont-y-ddraig.aspx\">Llwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol<\/a> sy\u2019n mynd ar hyd arfordir Gogledd Cymru.\u00a0 Mae\u2019r llwybr yn darparu mynediad di draffig at \u2018Lwybr Arfordir Cymru\u2019 yn ogystal ag at gyfleusterau newydd yr Harbwr.\u00a0 Mae gan yr Harbwr gaffi a chyfleusterau llogi beiciau hefyd.\u00a0 Bu i ni ddysgu bod y bont las gyfagos fel y mae\u2019n cael ei galw yn lleol wedi\u2019i dylunio gan RG Whitley, Syrf\u00ebwr Cyngor Sir y Fflint a\u2019i hadeiladu gan Dorman, Long a Company of Middlesbrough yn yr 1930au, a wnaeth hefyd adeiladu\u2019r bont fwy, Pont Harbwr Sydney.<\/p>\n<p>Ein stop nesaf oedd ymweliad byr i\u2019r Theatr sydd newydd ei hadnewyddu a\u2019i bwyty anhygoel 1891 (wedi\u2019i enwi ar \u00f4l blwyddyn adeiladu\u2019r pafiliwn wnaeth bara cyfnod byr yn y Rhyl.) Mae\u2019n anodd curo golygfeydd y bwyty, ac mae\u2019r addurniadau yn groesawgar iawn.\u00a0 Mae gan y Theatr ddewis anhygoel o sioeau i\u2019w gweld ac mae\u2019n cynnig profiad bwyta ac yfed cyn y sioe a fyddai\u2019n cystadlu yn erbyn unrhyw daith theatr yn y ddinas.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-567\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/rhyl-tt-03.jpg\" alt=\"\" width=\"400\" height=\"543\" \/><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-3596\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/20230228_115245-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"450\" height=\"600\" \/><\/p>\n<p>Wedyn, aethom yn \u00f4l ar y bws am daith arfordirol trwy Brestatyn a\u2019i Dwyni Gronant tywodlyd tuag at ein cyrchfan cinio ym Mynwent Anifeiliaid Sir y Fflint.\u00a0 Efallai ei fod yn ymddangos fel lle rhyfedd i gael caffi, ond mae llonyddwch y lle a\u2019i erddi addurniadol sydd wedi ennill gwobrau a\u2019r dewis blasus o gacennau cartref wedi dod yn hoff le i gerddwyr a beicwyr alw heibio yn ogystal \u00e2 bod yn lle i orffwys i lawer o anifeiliaid anwes.\u00a0 Roeddem wrth ein bodd yn benodol \u00e2\u2019r preswylydd byw, hwyaden Muscovy chwilfrydig, a ddaeth i ddweud helo.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-3590\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/20230228_133217-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"450\" height=\"600\" \/><\/p>\n<p>Ar \u00f4l prynu rhai o\u2019r cacennau Malteser deniadol, a gafodd eu rhoi mewn bocsys i fynd adref yn nes ymlaen, aethom yn \u00f4l ar y bws ar gyfer ein stop olaf.\u00a0\u00a0 Cafodd pob un ohonom ddarn o bapur yr oedd angen i ni ei lofnodi gan ein tywysydd teithiau Carole\u2026 y ddeddf cyfrinachau swyddogol!\u00a0 Gan fod ein stop nesaf yn lleoliad hollol gyfrinachol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.\u00a0 Mae\u2019r gwaith arfau yn Rhydymwyn a wnaeth chwarae rhan allweddol yn ystod y rhyfel a\u2019i dwneli dan ddaear, wedi rhyfeddu\u2019r cyhoedd ers blynyddoedd, a r\u0175an roedd gennym y cyfle i gael cipolwg ar ran allweddol o\u2019n hanes yn ystod y rhyfel.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-3586\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/20230228_143816-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"450\" height=\"600\" \/><\/p>\n<p>Mae Gwaith y Dyffryn, fel y mae\u2019n cael ei alw, yn awr yn eistedd yng nghanol gwarchodfa natur yn Rhydymwyn a gafodd ei drosi yn ffatri nwy mwstard yn 1939 gan ICI ar gais Winston Churchill ar ddechrau\u2019r Ail Ryfel Byd.\u00a0 Wedyn fe wnaeth aelodau o Gymdeithas Hanes Dyffryn Rhydymwyn ganfod tystiolaeth fod gan y milltiroedd o dwneli o dan y warchodfa natur r\u00f4l strategol allweddol yn y Rhyfel Oer.\u00a0 Maent yn credu bod gweithwyr wedi gwneud 40,000 o gregyn nwy mwstard yr wythnos yn y ffatri gyfrinachol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-3592\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/20230228_145641-1-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"450\" height=\"600\" \/> <img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-3594\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/20230228_145621-1-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"450\" height=\"600\" \/><\/p>\n<p>Yn 1940, roedd dau o ffisegwyr mwyaf blaenllaw\u2019r byd, Otto Frisch a Rudolf Peierls, angen cyfleuster cyfrinachol i weithio ar eu damcaniaethau ar gyfer adeiladu <a href=\"https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/soviet-spy-leaked-atom-bomb-2785583\">bom atomig Wraniwm<\/a>. &#8211; Fe wnaeth Churchill ddewis Rhydymwyn. Ac mae\u2019r gweddill yn hen hanes.<\/p>\n<p>Roedd yn brofiad arswydus i gerdded o gwmpas y safle, gyda\u2019r adeiladau wedi\u2019u gosod mewn system grid, a\u2019r waliau wedi\u2019u peintio\u2019n guddliw wedi pylu, a lluniau o\u2019r gweithwyr wedi\u2019i sgriblo \u00e2 phensil yn dal i\u2019w gweld ar rai o\u2019r waliau mewnol.\u00a0\u00a0 Fe wnaeth i mi deimlo\u2019n ffodus nad wyf erioed wedi gorfod profi aberth rhyfel a\u2019r penderfyniadau anodd a wnaed gan y llywodraeth i\u2019n cadw ni\u2019n ddiogel rhag ymosodiadau posibl.\u00a0\u00a0 Os hoffech chi weld y twneli eich hunain, mae Cymdeithas Hanes Dyffryn Rhydymwyn yn cynnig teithiau ac yn cynnal dyddiau agored.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Cawsom ddiwrnod amrywiol iawn ac ymweliad eithaf gwahanol ar hyd arfordir Cymru.\u00a0\u00a0 Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am yr ardal, pam na wnewch chi ystyried cymryd rhan yn y <a href=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/ambassador-courses\/denbighshire-tourism-ambassador-scheme\/\">cwrs Llysgennad am ddim<\/a>? Y Cyngor oedd y cyntaf i lansio cwrs ar-lein o\u2019i fath yng Nghymru.\u00a0 Cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o them\u00e2u sy\u2019n berthnasol i\u2019r ardal yn cynnwys y Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded.\u00a0 Mae yna dair lefel i\u2019r gwobrau \u2013 efydd, arian ac aur.\u00a0\u00a0 Fe anogir preswylwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol lleol i fod yn Llysgenhadon i ddysgu mwy am nodweddion unigryw\u2019r ardal. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y cynllun neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn derbyn ein newyddlen, <a href=\"mailto:tourism@denbighshire.gov.uk\">cysylltwch \u00e2 ni.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yr wythnos ddiwethaf fe aethon ar y daith \u2018Ymgyfarwyddo\u2019 olaf mewn cyfres o deithiau a drefnwyd gan D\u00eem Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych.\u00a0 Dyluniwyd y prosiect i dynnu sylw at gyrchfannau diddorol ac allweddol o fewn yr ardal i fusnesau twristiaeth lleol fel eu bod, yn eu tro, yn gallu rhannu\u2019r wybodaeth ac annog ymwelwyr i [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":3581,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[39,41,37,43,34],"tags":[],"class_list":["post-3601","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-atyniadau","category-bwyd-a-diod","category-activities-cy","category-treftadaeth","category-inspire-me-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.1 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Taith gyda gwahaniaeth i&#039;r arfordir - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Taith gyda gwahaniaeth i&#039;r arfordir - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yr wythnos ddiwethaf fe aethon ar y daith \u2018Ymgyfarwyddo\u2019 olaf mewn cyfres o deithiau a drefnwyd gan D\u00eem Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych.\u00a0 Dyluniwyd y prosiect i dynnu sylw at gyrchfannau diddorol ac allweddol o fewn yr ardal i fusnesau twristiaeth lleol fel eu bod, yn eu tro, yn gallu rhannu\u2019r wybodaeth ac annog ymwelwyr i [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-03-08T16:08:23+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-03-14T09:41:16+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/IMG_5461-e1678290134944.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2016\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1512\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Fiona Dolben\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Fiona Dolben\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/\"},\"author\":{\"name\":\"Fiona Dolben\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0\"},\"headline\":\"Taith gyda gwahaniaeth i&#8217;r arfordir\",\"datePublished\":\"2023-03-08T16:08:23+00:00\",\"dateModified\":\"2023-03-14T09:41:16+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/\"},\"wordCount\":1095,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/IMG_5461-e1678290134944.jpg\",\"articleSection\":[\"Atyniadau\",\"Bwyd a Diod\",\"Gweithgareddau\",\"Treftadaeth\",\"Ysbrydoliaeth\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/\",\"name\":\"Taith gyda gwahaniaeth i'r arfordir - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/IMG_5461-e1678290134944.jpg\",\"datePublished\":\"2023-03-08T16:08:23+00:00\",\"dateModified\":\"2023-03-14T09:41:16+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/IMG_5461-e1678290134944.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/IMG_5461-e1678290134944.jpg\",\"width\":2016,\"height\":1512},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Taith gyda gwahaniaeth i&#8217;r arfordir\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"name\":\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"description\":\"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\",\"name\":\"North East Wales\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"width\":546,\"height\":188,\"caption\":\"North East Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\",\"https:\/\/x.com\/ntheastwales\",\"https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0\",\"name\":\"Fiona Dolben\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Fiona Dolben\"},\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/author\/fiona-dolbendenbighshire-gov-uk\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Taith gyda gwahaniaeth i'r arfordir - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Taith gyda gwahaniaeth i'r arfordir - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","og_description":"Yr wythnos ddiwethaf fe aethon ar y daith \u2018Ymgyfarwyddo\u2019 olaf mewn cyfres o deithiau a drefnwyd gan D\u00eem Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych.\u00a0 Dyluniwyd y prosiect i dynnu sylw at gyrchfannau diddorol ac allweddol o fewn yr ardal i fusnesau twristiaeth lleol fel eu bod, yn eu tro, yn gallu rhannu\u2019r wybodaeth ac annog ymwelwyr i [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/","og_site_name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","article_published_time":"2023-03-08T16:08:23+00:00","article_modified_time":"2023-03-14T09:41:16+00:00","og_image":[{"width":2016,"height":1512,"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/IMG_5461-e1678290134944.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Fiona Dolben","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@ntheastwales","twitter_site":"@ntheastwales","twitter_misc":{"Written by":"Fiona Dolben","Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/"},"author":{"name":"Fiona Dolben","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0"},"headline":"Taith gyda gwahaniaeth i&#8217;r arfordir","datePublished":"2023-03-08T16:08:23+00:00","dateModified":"2023-03-14T09:41:16+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/"},"wordCount":1095,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/IMG_5461-e1678290134944.jpg","articleSection":["Atyniadau","Bwyd a Diod","Gweithgareddau","Treftadaeth","Ysbrydoliaeth"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/","name":"Taith gyda gwahaniaeth i'r arfordir - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/IMG_5461-e1678290134944.jpg","datePublished":"2023-03-08T16:08:23+00:00","dateModified":"2023-03-14T09:41:16+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/IMG_5461-e1678290134944.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/IMG_5461-e1678290134944.jpg","width":2016,"height":1512},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/taith-gyda-gwahaniaeth-ir-arfordir\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Taith gyda gwahaniaeth i&#8217;r arfordir"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","description":"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales","publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization","name":"North East Wales","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","width":546,"height":188,"caption":"North East Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","https:\/\/x.com\/ntheastwales","https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0","name":"Fiona Dolben","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g","caption":"Fiona Dolben"},"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/author\/fiona-dolbendenbighshire-gov-uk\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3601","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3601"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3601\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3603,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3601\/revisions\/3603"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3581"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3601"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3601"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3601"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}