{"id":5035,"date":"2023-11-13T10:21:58","date_gmt":"2023-11-13T10:21:58","guid":{"rendered":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?p=5035"},"modified":"2023-11-13T10:36:55","modified_gmt":"2023-11-13T10:36:55","slug":"fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/","title":{"rendered":"Fforiwr Dyfrdwy; T3, TrawsCymru"},"content":{"rendered":"<p><strong><em>Mae\u2019r T3 yn un o sawl taith TrawsCymru pellter hir a noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae\u2019n rhedeg yr holl ffordd o\u2019r Bermo i Wrecsam. Mae\u2019r prif arosfannau yn Nolgellau a\u2019r Bala yng Ngwynedd, Corwen a Llangollen yn Sir Ddinbych a Rhiwabon yn Wrecsam. (Edrychwch ar yr amserlenni i weld ym mha lefydd llai mae\u2019r bws yn stopio ar y ffordd). Mae \u2018na saith gwasanaeth bob dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a phedwar ar ddydd Sul. Gydag Ap TrawsCymru gallwch gynllunio eich siwrnai a gweld yn union lle mae eich bws. <\/em><\/strong><\/p>\n<p>Mae llawer o\u2019r daith hon, yn enwedig drwy Sir Ddinbych, yn dilyn llwybr Afon Dyfrdwy sy\u2019n tarddu ym mynydd y Dduallt yn Eryri, yna\u2019n llifo drwy ganol Llyn Tegid, yn byrlymu drwy Sir Dinbych ac yn troi\u2019n fwystfil o foryd yng Nghaer.<\/p>\n<p>Mae\u2019r daith hon yn un ardderchog os ydych eisiau ymuno \u00e2 llwybrau cerdded, er enghraifft Llwybr Tegid (18 milltir) o Gynwyd i\u2019r Bala neu Lwybr Gogledd y Berwyn (15 milltir) sy\u2019n mynd i\u2019r dde o\u2019r afon rhwng Llangollen a Chorwen. Hefyd, rhwng Llangollen a Chorwen, mae Llwybr Dyffryn Dyfrdwy (15 milltir) a Llwybr Bryniau Clwyd (122 milltir) yn deithiau sy\u2019n mynd i\u2019r gogledd o\u2019r afon.<\/p>\n<p><strong>Llandrillo<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r B4401 yn gwyro ychydig oddi wrth Afon Dyfrdwy yma felly nid yw pentref Llandrillo yn union ar lan yr afon. Ond mae Afon Ceidiog, un o is-afonydd y Ddyfrdwy, yn nodwedd amlwg yn\u00a0 llifo dan bontydd y pentref. I mi mae Llandrillo yn gwbl nodweddiadol o Sir Ddinbych &#8211; yn ymgorffori\u2019r tirweddau gwyrdd hardd o lwyni, dyffrynnoedd a bryniau sydd i\u2019w gweld drwy ffenestri\u2019r bysus. Mae\u2019r dafarn wedi cau, ond nid felly Eglwys Sant Trillo, siop y Swyddfa Bost a Bwyty\u2019r Berwyn. Cewch gipolwg ar dractorau rhwng y tai a rhosod yn dringo dros y drysau.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-4988\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-2-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-2-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-2-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-2-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-2-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-2-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p>Mae Llandrillo\u2019n hardd hyd yn oed yn y glaw, gyda\u2019i naws heddychlon, hynaws yn treiddio drwy\u2019r coed. Mae diferion o law p\u00ear yn disgyn i Afon Ceidiog. Yn y fan hon y gwnes i gyfarfod Jeff, yn mynd am dro foreol wlyb. \u201cDwi\u2019n cofio plisman yn y pentre\u201d meddai. \u201cPC. Roberts. Byddai\u2019n dod i lawr adeg golchi defaid, i wneud yn si\u0175r fod popeth yn mynd yn iawn.\u201d Dywedodd Jeff wrtha\u2019i fod y capeli mor llawn ar un adeg, a\u2019r gwasanaethau mor hir, byddai rhieni\u2019n gadael eu plant adref i ofalu amdanynt eu hunain.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-4990\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-19-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-19-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-19-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-19-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-19-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-19-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p>Mae Llandrillo\u2019n lle gwych i ddechrau taith gerdded. Gallwch gerdded i Foel T\u0177-Uchaf lle saif cylch cerrig o\u2019r Oes Efydd.\u00a0 Neu ddilyn Llwybr Tegid i Gynwyd neu\u2019r Bala. Os \u2018da chi\u2019n barod am fwy o her, ewch i Fynyddoedd y Berwyn, i Gadair Bronwen neu hyd yn oed drosti i Bistyll Rhaeadr. (Mae Pistyll Rhaeadr yn agos at bentref Llanrhaeadr ym Mochnant ym Mhowys, sy\u2019n cael ei wasanaethu gan wasanaeth 79 Dyffryn Tanat o Groesoswallt.) Neu cerddwch i Gadair Bronwen a dod yn \u00f4l ar hyd Wayfarers Way &#8211; taith 15 milltir heriol.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-4992\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-8-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-8-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-8-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-8-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-8-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Llandrillo-8-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p><strong>Roswell Cymru<\/strong><\/p>\n<p>Yn \u00f4l yr hanes, ar 23 Ionawr 1974 glaniodd UFO ym mynyddoedd y Berwyn y tu \u00f4l i Landrillo. Yn \u00f4l y Weinyddiaeth Amddiffyn gwir achos y digwyddiad oedd cyfuniad o ddaeargryn a meteor yn llosgi yn yr atmosffer. Disgrifiodd pum adroddiad arall o dde Lloegr y noson honno belen o d\u00e2n yn disgyn ar y gorwel yn y gogledd-orllewin.\u00a0 Credir fod y meteor wedi chwalu dros Fanceinion. Roedd yr ergyd fawr a glywodd preswylwyr Llandrillo, ac y cymerwyd mai daeargryn ydoedd &#8211; yn mesur 4.5 ar y raddfa Richter. Ond nid yw pawb yn fodlon \u00e2 chasgliadau\u2019r Weinyddiaeth Amddiffyn. Yn \u00f4l llygad dystion roedd goleuadau gwyrdd yn yr awyr a golau coch ar y mynydd. \u201cRoedd yn andros o ergyd fawr\u201d\u00a0 meddai Richard, un o drigolion Llandrillo, oedd yn 8 oed ar y pryd, \u201cac roedd y fyddin yno o fewn munudau\u201d. Cyrhaeddodd y gwasanaethau brys a\u2019r heddlu ond yn \u00f4l pob s\u00f4n caewyd yr ardal i ffwrdd iddyn nhw ac i ffermwyr lleol gan gonfoi o dryciau\u2019r fyddin. Ni chafwyd unrhyw adroddiad erioed fod unrhyw beth wedi\u2019i ddarganfod yno.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-4986\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Berwynion-Llandrillo-Copy-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Berwynion-Llandrillo-Copy-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Berwynion-Llandrillo-Copy-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Berwynion-Llandrillo-Copy-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Berwynion-Llandrillo-Copy-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Berwynion-Llandrillo-Copy-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p><strong>Corwen <\/strong><\/p>\n<p>\u201cMae Corwen yn ganolbwynt trafnidiaeth\u201d meddai arwydd yn yr amgueddfa wych. Cyfeirio mae hyn at y cyfnod rhwng y 18fed a dechrau\u2019r 20fed ganrif pan oedd Corwen yn dref brysur gyda choetsis mawr yn teithio drwyddi, porthmyn yn gyrru eu hanifeiliaid drwodd ar y ffordd i farchnadoedd Lloegr, ac yn ddiweddarach, yn 1841, y rheilffordd newydd yn cyrraedd a\u2019r bws cyntaf yn dod i\u2019r dref yn 1905. Ac mae\u2019r un peth yn wir heddiw gyda\u2019r orsaf fysus yn cynnig cysylltiadau TrawsCymru i bob cyfeiriad. Mae gorsaf Corwen newydd ailagor hefyd, sy\u2019n golygu y gallwch r\u0175an deithio ar Reilffordd Llangollen &#8211; hen lein Rheilffordd y Great Western gynt.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-4994\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-Bus-4-Copy-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-Bus-4-Copy-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-Bus-4-Copy-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-Bus-4-Copy-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-Bus-4-Copy-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-Bus-4-Copy-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p>Mae\u2019r dref yn fwrlwm o siarad am yr orsaf newydd gyda phawb yn rhyfeddu at yr holl ymwelwyr mae hi wedi\u2019u denu. \u201cDod mewn tonnau maen nhw\u201d meddai Cathryn yn y Bottletop Bar. \u201cMaen nhw\u2019n llifo i mewn i\u2019r dref ac yna\u2019n mynd yn \u00f4l allan ar y tr\u00ean.\u201d<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-5018\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-8-Copy-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-8-Copy-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-8-Copy-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-8-Copy-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-8-Copy-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-8-Copy-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p>Mae Chris yn Yum Yums yn cytuno. \u201cMae na fwrlwm yn y dref r\u0175an\u201d meddai. Mae Yum Yums yn lle gwych i dreulio bore gwlyb. Mae cerddoriaeth fywiog yn chwarae a\u2019r arwydd \u2018Roc a R\u00f4l\u2019 yn fflachio. Dwi\u2019n canu efo\u2019r g\u00e2n Shiny Happy People wrth i bobl fwynhau eu bacwn ac wy. Ac yng Nghaffi Treferwyn mae\u2019r sgyrsiau\u2019n mynd o Gymraeg i Saesneg ac yn \u00f4l. Mae te\u2019n cael ei droelli\u2019n y pot. \u201cMaen nhw\u2019n gneud cinio fel oedd Mam yn arfer ei wneud\u201d meddai Katherine yn yr Emporium yn nes ymlaen.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-4996\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-17-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-17-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-17-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-17-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-17-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-17-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-5028\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-106-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-106-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-106-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-106-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-106-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-106-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p>Mae o\u2019n lle gwych i chwilota, yr Emporium, gydag arogl polish a llwydni\u2019n gymysg a golau\u2019r haul yn treiddio drwy\u2019r ffenestri yn yr hen do haearn rhychog. \u201cFfatri gwrtaith oedd yn arfer bod yma\u201d meddai Katherine. R\u0175an mae\u2019n llawn o hen greiriau, dodrefn, hen drenau bach, llwyau te, tedis, stoliau coesau hir a photiau pupur piwter.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-5032\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-56-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-56-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-56-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-56-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-56-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-56-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-5010\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-49-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-49-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-49-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-49-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-49-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-49-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p>Mae Corwen yn lle da i bobl sy\u2019n hoffi pori ymysg pethau diddorol. Yn llawn cymeriad, mae \u2018na ymdeimlad oesol yma. Da chi, ewch am ddiod i Westy Glynd\u0175r &#8211; lle bendigedig, fel labyrinth tu mewn, er yn drist iawn yn ei chael yn anodd cadw i fynd &#8211; mae\u2019r gymuned yn gobeithio gallu prynu\u2019r gwesty, ond maen nhw angen help. Gyda John y dyn bar wrth y llyw, mae o\u2019r math o le lle dydi amser ddim yn bodoli. \u201cDydi o ddim yn gweithio yn y bar\u201d meddai, gan egluro bod y waliau\u2019n rhy drwchus i\u2019r wifi. \u201cWelsoch chi ddrws mor gam a hwn erioed?\u201d meddai Brenda, merch leol. \u201cDa ni gyd yn heidio i fan hyn at y t\u00e2n yn y gaeaf, ac yn cyfrannu \u00a31 yr un am y glo.\u201d<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-4998\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-16-Copy-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-16-Copy-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-16-Copy-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-16-Copy-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-16-Copy-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-16-Copy-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p>Bydd llwybr y dref yn eich arwain o amgylch llefydd diddorol eraill, fel Plasty Corwen a adeiladwyd yn y 1840au fel wyrcws.\u00a0 O ddiddordeb mawr i mi mae Eglwys Sant Mael a Sant Sulien. Yn y fynwent mae \u2018cerrig penlinio\u2019 ar gyfer galarwyr yr oes a fu.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-5006\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-7-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-7-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-7-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-7-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-7-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-7-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-5008\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-34-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-34-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-34-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-34-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-34-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-34-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p>Yng Nghorwen mae cyfuniad diddorol o ddiwydiannau, o ffatri trelars Ifor Williams i rwymwr llyfrau. Yma hefyd fe ddewch o hyd i siop cigydd a delicatessen G. R. Evans and Co, sydd nid yn unig yn gwerthu cigoedd a bwydydd o bob math ond hefyd anrhegion fel stolion troed gwlanog si\u00e2p dafad a chnuoedd wedi\u2019u llifo.\u00a0 Mae pys, sudd ffrwythau, llysiau a halen yn brwydro am le ar y silffoedd.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-5000\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-95-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-95-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-95-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-95-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-95-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-95-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p>Yng Nghorwen hefyd mae dewis di-ri o lwybrau cerdded. O\u2019r fynwent ewch i fyny\u2019r allt i Goed Pen-y-pigyn. Yma mae coed bedw a derw\u2019n rhoi cysgod a lliw ac islawr o brysgwydd yn ychwanegu at weadwaith y goetir.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-5026\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-38-Copy-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-38-Copy-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-38-Copy-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-38-Copy-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-38-Copy-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-38-Copy-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p>Yma hefyd mae cerrig gorsedd Eisteddfod Genedlaethol 1919 a cherrig camu ar draws y nant. Ar y copa mae cofeb garreg a adeiladwyd yn 1863 lle ceir golygfa ysblennydd o Afon Dyfrdwy\u2019n llifo\u2019n osgeiddig drwy\u2019r dyffryn<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-5014\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p>A s\u00f4n am yr afon, i gyrraedd ati &#8211; a\u2019m hoff le yng Nghorwen, ewch i lawr Lon Werdd a dilynwch yr arwyddion am Ro Isa. Rhwng y sycamorwydd, yn haul yr hwyr, saif yr hen derfyn o gerrig llechi unionsyth.\u00a0 Maen nhw\u2019n eich arwain at gae hynafol ar droad yn yr afon. Daw enw\u2019r lle o\u2019r gro ar wely\u2019r afon lle mae pysgod yn silio. Mae pryfed taranau\u2019n dawnsio\u2019n \u00a0y machlud a\u2019r afon chwyddedig wedi boddi\u2019r glaswellt. Yn y gwern mae\u2019r Titw Tomos Las yn gwichian. Mae bwrdd picnic wedi\u2019i orchuddio \u00e2 llanast o wreiddiau a choed. Dyma le bendigedig i wylio dyfroedd y Ddyfrdwy\u2019n dawnsio.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-5004\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-13-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-13-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-13-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-13-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-13-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-13-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p><strong>Llangollen<\/strong><\/p>\n<p>Does dim angen cyflwyno Llangollen, sy\u2019n swatio\u2019n ei dyffryn gwyrdd yng nghysgod Creigiau Eglwyseg; cartref Castell Dinas Br\u00e2n, Plas Newydd a\u2019r Eisteddfod Ryngwladol a\u2019i strydoedd yn ferw o ymwelwyr drwy gydol yr haf. Ond peidiwch ag anghofio mynd i Oriel Dory, oriel gelf gyhoeddus glodwiw.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-5023\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Oriel-Dory-Llangollen-5-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Oriel-Dory-Llangollen-5-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Oriel-Dory-Llangollen-5-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Oriel-Dory-Llangollen-5-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Oriel-Dory-Llangollen-5-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Oriel-Dory-Llangollen-5-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p>Yn y fan hon mae\u2019r Ddyfrdwy\u2019n drawiadol. Ddwy filltir y tu allan i\u2019r dref yn Rhaeadr y Bedol cewch brofi\u2019r wefr fyrhoedlog o gerdded rhwng yr afon a\u2019r gamlas.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-5030\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Oriel-Dory-Llangollen-3-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Oriel-Dory-Llangollen-3-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Oriel-Dory-Llangollen-3-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Oriel-Dory-Llangollen-3-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Oriel-Dory-Llangollen-3-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Oriel-Dory-Llangollen-3-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Ond fy hoff le i wylio\u2019r afon yw Caffi a Bistro Deeside neu y tu allan i\u2019r Corn Mill. Yn y fan hon mae\u2019r afon yn eich trochi mewn s\u0175n ac ewyn wrth iddi lamu dros y creigiau, o amgylch yr ynysoedd bach gweunwelltog ac o\u00a0dan hen bont y dref, i gyd yn ferw o fywlysiau, gweiriau a mwsogl. Mae cr\u00ebyr i\u2019w gweld yma.\u00a0 Ac yn yr hydref, os ydych yn ddigon ffodus, fe welwch eogiaid yn \u00a0troelli a llamu\u2019n rymus yn erbyn y llif i\u2019w hardal fagu.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-5012\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Afon-Dyfrdwy-Llangollen-Copy-600x450.jpg\" alt=\"\" width=\"600\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Afon-Dyfrdwy-Llangollen-Copy-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Afon-Dyfrdwy-Llangollen-Copy-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Afon-Dyfrdwy-Llangollen-Copy-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Afon-Dyfrdwy-Llangollen-Copy-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Afon-Dyfrdwy-Llangollen-Copy-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/p>\n<p>Gallwch lawrlwytho Llwybr Tref Corwen a Llwybr Tref Llangollen os hoffech gael rhagor o wybodaeth <a href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/booklets\/\">yma.<\/a> Mae gennym hefyd flog blaenorol am yr <a href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/lovelivelocal-at-corwen-with-vintage-home-styles-emporium-and-cafe\/\">emporiwm<\/a> yng Nghorwen.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r T3 yn un o sawl taith TrawsCymru pellter hir a noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae\u2019n rhedeg yr holl ffordd o\u2019r Bermo i Wrecsam. Mae\u2019r prif arosfannau yn Nolgellau a\u2019r Bala yng Ngwynedd, Corwen a Llangollen yn Sir Ddinbych a Rhiwabon yn Wrecsam. (Edrychwch ar yr amserlenni i weld ym mha lefydd llai mae\u2019r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":5015,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[41,124,43,34],"tags":[159,87,276,105],"class_list":["post-5035","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bwyd-a-diod","category-staycation-cy","category-treftadaeth","category-inspire-me-cy","tag-berwyns-cy","tag-cerdded-gwylcerdded-owainglyndwr-corwen","tag-juliebrominicks-cy","tag-pen-pigyn-corwen-nyffryndyfrdwy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.1 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Fforiwr Dyfrdwy; T3, TrawsCymru - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Fforiwr Dyfrdwy; T3, TrawsCymru - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae\u2019r T3 yn un o sawl taith TrawsCymru pellter hir a noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae\u2019n rhedeg yr holl ffordd o\u2019r Bermo i Wrecsam. Mae\u2019r prif arosfannau yn Nolgellau a\u2019r Bala yng Ngwynedd, Corwen a Llangollen yn Sir Ddinbych a Rhiwabon yn Wrecsam. (Edrychwch ar yr amserlenni i weld ym mha lefydd llai mae\u2019r [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-11-13T10:21:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-11-13T10:36:55+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Fiona Dolben\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Fiona Dolben\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"11 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/\"},\"author\":{\"name\":\"Fiona Dolben\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0\"},\"headline\":\"Fforiwr Dyfrdwy; T3, TrawsCymru\",\"datePublished\":\"2023-11-13T10:21:58+00:00\",\"dateModified\":\"2023-11-13T10:36:55+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/\"},\"wordCount\":1704,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-scaled.jpg\",\"keywords\":[\"#berwyn's\",\"#cerdded #gwylcerdded #owainglyndwr #corwen\",\"#juliebrominicks\",\"#pen pigyn #corwen #nyffryndyfrdwy\"],\"articleSection\":[\"Bwyd a Diod\",\"staycation\",\"Treftadaeth\",\"Ysbrydoliaeth\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/\",\"name\":\"Fforiwr Dyfrdwy; T3, TrawsCymru - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2023-11-13T10:21:58+00:00\",\"dateModified\":\"2023-11-13T10:36:55+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1920},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Fforiwr Dyfrdwy; T3, TrawsCymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"name\":\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"description\":\"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\",\"name\":\"North East Wales\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"width\":546,\"height\":188,\"caption\":\"North East Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\",\"https:\/\/x.com\/ntheastwales\",\"https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0\",\"name\":\"Fiona Dolben\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Fiona Dolben\"},\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/author\/fiona-dolbendenbighshire-gov-uk\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Fforiwr Dyfrdwy; T3, TrawsCymru - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Fforiwr Dyfrdwy; T3, TrawsCymru - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","og_description":"Mae\u2019r T3 yn un o sawl taith TrawsCymru pellter hir a noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae\u2019n rhedeg yr holl ffordd o\u2019r Bermo i Wrecsam. Mae\u2019r prif arosfannau yn Nolgellau a\u2019r Bala yng Ngwynedd, Corwen a Llangollen yn Sir Ddinbych a Rhiwabon yn Wrecsam. (Edrychwch ar yr amserlenni i weld ym mha lefydd llai mae\u2019r [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/","og_site_name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","article_published_time":"2023-11-13T10:21:58+00:00","article_modified_time":"2023-11-13T10:36:55+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1920,"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Fiona Dolben","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@ntheastwales","twitter_site":"@ntheastwales","twitter_misc":{"Written by":"Fiona Dolben","Est. reading time":"11 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/"},"author":{"name":"Fiona Dolben","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0"},"headline":"Fforiwr Dyfrdwy; T3, TrawsCymru","datePublished":"2023-11-13T10:21:58+00:00","dateModified":"2023-11-13T10:36:55+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/"},"wordCount":1704,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-scaled.jpg","keywords":["#berwyn's","#cerdded #gwylcerdded #owainglyndwr #corwen","#juliebrominicks","#pen pigyn #corwen #nyffryndyfrdwy"],"articleSection":["Bwyd a Diod","staycation","Treftadaeth","Ysbrydoliaeth"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/","name":"Fforiwr Dyfrdwy; T3, TrawsCymru - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-scaled.jpg","datePublished":"2023-11-13T10:21:58+00:00","dateModified":"2023-11-13T10:36:55+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Corwen-85-scaled.jpg","width":2560,"height":1920},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Fforiwr Dyfrdwy; T3, TrawsCymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","description":"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales","publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization","name":"North East Wales","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","width":546,"height":188,"caption":"North East Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","https:\/\/x.com\/ntheastwales","https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0","name":"Fiona Dolben","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g","caption":"Fiona Dolben"},"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/author\/fiona-dolbendenbighshire-gov-uk\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5035","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5035"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5035\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5039,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5035\/revisions\/5039"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5015"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5035"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5035"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5035"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}