{"id":6014,"date":"2024-04-10T12:28:36","date_gmt":"2024-04-10T11:28:36","guid":{"rendered":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/pont-dyfrdwy\/"},"modified":"2024-04-10T13:01:05","modified_gmt":"2024-04-10T12:01:05","slug":"pont-dyfrdwy","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/","title":{"rendered":"Pont Dyfrdwy"},"content":{"rendered":"\n<p>Dyma ein taith olaf ond un gan ein blogiwr gwadd, Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru.\u00a0 Maent i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein rhan brydferth o&#8217;r byd ychydig yn ddyfnach na hynny. Y tro hwn yn dilyn y Dyfrdwy o Gorwen i Gynwyd ac yn \u00f4l eto.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n llyncu golau\u2019r haul fel cwrw mewn gwydr peint a\u2019i s\u0175n fel diod yn cael ei dywallt o botel (ond gall hefyd swnio fel hen beiriant golchi swnllyd ar adegau)dyna i chi\u2019r Afon Dyfrdwy, yn mynd fel y gwynt o dan y bont. Mae cryfder iddi, wrth ehangu a phlygu ar hyd ei thaith, gan greu diemwntau ar y wyneb sy\u2019n adlewyrchu si\u00e2p y pileri wrth iddi ruthro o dan y pontydd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"2560\" height=\"1920\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2009-scaled.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6011\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2009-scaled.jpg 2560w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2009-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2009-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2009-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2009-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2009-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>O\u2019i tharddiad yn Eryri, drwy Lyn Tegid, i\u2019r aber eang ar arfordir y gogledd, mae Afon Dyfrdwy yn Ardal Cadwraeth Arbennig ac yn olygfa gyfarwydd yn Sir Ddinbych. Ar y daith gerdded hon rhwng Corwen a Chynwyd, mae\u2019n byrlymu\u2019n gyflym ac yn glir dros wely caregog. Mae canghennau\u2019n plygu i\u2019r afon fel bysedd main a ch\u00e2n yr adar i\u2019w chlywed yn glir yn y coed helyg, y coed onn a\u2019r coed derw ar y glannau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae prosiect cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru (LIFEAfonDyfrdwy) wrthi\u2019n adfer iechyd Afon Dyfrdwy. Mae mesurau\u2019n cynnwys plannu coed ar hyd y glannau, ailgyflwyno misglod perlog d\u0175r croyw i\u2019r afon, a chael gwared ar goredau i wella llwybr pysgod megis eog, sewin, llyswennod, penllwydion a thair rhywogaeth o lampreiod \u2013 y m\u00f4r, yr afon a\u2019r nant. Ar hyd y rhan hon rhwng Corwen a Chynwyd, mae ffensys ar gyfer anifeiliaid wedi cael eu gosod er mwyn lleihau\u2019r maeth a\u2019r dyddodion sy\u2019n mynd i mewn i\u2019r afon ac yn halogi a chymylu\u2019r d\u0175r.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydw i\u2019n hoffi gwylio\u2019r afon o\u2019r cilfachau ar gyfer cerddwyr sydd wedi\u2019u hadeiladu i mewn i\u2019r pontydd, yn enwedig o Bont Dyfrdwy yng Nghynwyd. Mae\u2019n debyg yr adeiladwyd y bont hon yn y ddeunawfed ganrif \u2013 neu o bosib yn gynt \u2013 mae rhai yn credu mai hon oedd y bont a ddisgrifiwyd gan y gwerthwr hen lyfrau, Edward Lhuyd, ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg. Mae ei cherrig yn darparu cynefin i bryfaid cop, morgrug a bryoffytau. Rydw i weithiau\u2019n meddwl fy mod yn edrych ar garreg ond wrth edrych eto rwy\u2019n gweld mae haen o gen llwyd sydd yno. Megis coedwigoedd o gymylau bach, mae pennau hadau mwsogl yn dal gwlith y bore o\u2019r afon sy\u2019n byrlymu isod.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"2560\" height=\"1920\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-Copi-scaled.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6007\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-Copi-scaled.jpg 2560w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-Copi-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-Copi-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-Copi-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-Copi-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-Copi-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Bysiau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Corwen yn ganolbwynt bysiau. Mae\u2019r gwasanaeth T3 rhwng Y Bermo a Wrecsam yn galw bob dwyawr. (Mae ei amrywiad, y gwasanaeth T3c, yn galw heibio Llanuwchllyn, Llandderfel, Llandrillo a Chynwyd). Gallwch hefyd gyrraedd Corwen ar y gwasanaeth 76 o Rhuthun, y gwasanaeth T10 o Fangor a\u2019r gwasanaeth T8 o Gaer.<\/p>\n\n\n\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am gludiant cyhoeddus yn Sir Ddinbych, ewch i <a href=\"https:\/\/www.denbighshire.gov.uk\/cy\/parcio-ffyrdd-a-theithio\/cludiant-cyhoeddus\/cludiant-cyhoeddus.aspx\">https:\/\/www.denbighshire.gov.uk\/cy\/parcio-ffyrdd-a-theithio\/cludiant-cyhoeddus\/cludiant-cyhoeddus.aspx<\/a> &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>I gynllunio eich taith, ewch i <a href=\"https:\/\/www.traveline.cymru\/\">https:\/\/www.traveline.cymru\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Cofiwch fod tocyn 1bws am \u00a36.50 yn eich galluogi i deithio\u2019n ddigyfyngiad ledled Gogledd Cymru ar bob gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Taith Gerdded<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r daith gerdded gylchol 8 milltir hon yn ymlaciol yn yr haf, pan mae\u2019r tywydd yn rhy boeth ar gyfer gweithgaredd heriol a chithau\u2019n ysu am gael bod yng nghysgod y coed a\u2019r d\u0175r gerllaw. Er bod y daith yn gymharol hawdd, mae\u2019n cynnwys rhai camfeydd \u2013 mae un ohonynt wedi torri ac felly\u2019n rhaid sgrialu rhywfaint! Mae\u2019r daith gerdded yn mynd \u00e2 chi i\u2019r de o dref brysur Corwen i bentref tawel Cynwyd ar lan ddwyreiniol yr Afon Dyfrdwy ac yn \u00f4l i Gorwen ar y lan orllewinol a thrwy Rhug. Os ydych eisiau cwtogi eich taith rhywfaint, mewn tywydd sych ac os yw\u2019r afon yn ddigon isel, gallwch groesi\u2019r afon yn lle mynd drwy Rhug. Mae\u2019r daith gerdded ar hyd llwybrau coediog yn bennaf ac mae cyfleoedd i eistedd a chael tamaid i\u2019w fwyta ac yfed yng Nghorwen, Cynwyd, a Siop Fferm Organig a Chaffi Rhug. Ar ben hynny, os ydych yn cynllunio ymlaen llaw, gallwch ymweld \u00e2 thair eglwys ysblennydd ar y ffordd. Mae Eglwys Sant Mael a Sant Sulien yng Nghorwen ar agor bob dydd. Mae Hen Eglwys Plwyf Llangar, gyda\u2019i muriau canoloesol ar agor yn achlysurol (gweler <a href=\"https:\/\/cadw.llyw.cymru\/ymweld\/lleoedd-i-ymweld\/hen-eglwys-plwyf-llangar\">https:\/\/cadw.llyw.cymru\/ymweld\/lleoedd-i-ymweld\/hen-eglwys-plwyf-llangar<\/a>)ac mae arnoch angen gwneud trefniadau gyda Cadw i ymweld \u00e2 Chapel Hanesyddol Rhug sy\u2019n golygu y byddai\u2019n rhaid i chi wyro oddi ar eich llwybr. (https:\/\/cadw.llyw.cymru\/ymweld\/lleoedd-i-ymweld\/capel-y-rug). Cymrwch eich amser, ewch \u00e2 diod ac efallai picnic, a mwynhewch yr afon.<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>O\u2019r orsaf fysiau, ewch i gyfeiriad y gorllewin drwy dref Corwen.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn lle croesi Pont Corwen, gadewch y ffordd ond arhoswch ar Daith Clwyd, sy\u2019n parhau at ymyl y dref dros gamfa ac ar lwybr yr hen reilffordd. &nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Hyd yn oed os nad yw Eglwys Llangar (\u00e2\u2019i muriau canoloesol yn cynnwys sgerbwd gyda gwaywffon) ar agor, mae\u2019n werth i chi ymweld \u00e2\u2019r fynwent yno. Honnir bod yr enw yn deillio o Lan Carw Gwyn oherwydd i garw gael ei weld yn neidio o\u2019r dryslwyn yn y man lle adeiladwyd yr eglwys.<\/li>\n\n\n\n<li>Parhewch ar hyd y llwybr sy\u2019n dilyn hen lein rheilffordd y Great Western gynt rhwng Rhiwabon a\u2019r Bermo nes i chi gyrraedd pentref Cynwyd, ac yna croeswch Bont Dyfrdwy.<\/li>\n\n\n\n<li>Ar \u00f4l croesi\u2019r bont, dringwch i lawr i ddilyn y llwybr ar ochr orllewinol y lan, gan gadw\u2019n agos at y d\u0175r. Ewch dros neu drwy\u2019r gamfa sydd wedi torri.<\/li>\n\n\n\n<li>Ewch tuag at y coed ar eich chwith ac fe welwch gi\u00e2t fferm Gwerclas. Yma, gallwch ymuno \u00e2\u2019r trac fferm sydd yn bron ar unwaith yn cwrdd \u00e2 l\u00f4n y gallwch ei dilyn at yr A5 ger Rhug&#8230;<\/li>\n\n\n\n<li>Neu, mewn tywydd sych iawn, gallwch gymryd y troad cyntaf ar y dde a phasio t\u0177 Hafod-y-cylch i lawr i\u2019r rhyd. Croeswch y rhyd, a pharhewch ar hyd y l\u00f4n, a throi i\u2019r dde i Daith Clwyd.<\/li>\n\n\n\n<li>Os nad ydych wedi croesi\u2019r rhyd, cadwch ar y l\u00f4n dawel i Bont Melin Rhug, ac yna ar \u00f4l cyrraedd yr A5 cadwch o fewn ffiniau Siop Fferm Organig a Chaffi Rhug. Dilynwch y llwybr wedi\u2019i arwyddo drwy\u2019r fferm, wrth iddo basio siediau a chychod gwenyn, ac ymuno \u00e2 Thaith Clwyd.<\/li>\n\n\n\n<li>Os ydych wedi gwneud trefniadau ymlaen llaw i ymweld \u00e2 Chapel Hanesyddol Rhug, trowch i\u2019r chwith lle mae\u2019r trac yn cwrdd ag un arall.<\/li>\n\n\n\n<li>Fel arall, cadwch ar Daith Clwyd. Ar \u00f4l cyrraedd Pont Corwen, croeswch y ffordd a pharhewch ar hyd Taith Clwyd wrth i\u2019r llwybr ddilyn glan yr afon. Mae\u2019r rhan olaf o\u2019r daith yn mynd \u00e2 chi rhwng yr hen ffensys llechi a\u2019r afon. Cadwch olwg am y gwelyau ranunculus sy\u2019n blodeuo yn yr afon yma, yn gynnar yn yr haf.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn olaf, cadwch ar Daith Clwyd wrth iddi ymuno \u00e2\u2019r ffordd, croeswch yr afon ger Pont L\u00f4n Las, a dychwelwch i orsaf fysiau Corwen. &nbsp;<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"2560\" height=\"1920\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Corwen-to-Cynwyd-Afon-Dyfrdwy-Map-scaled.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6003\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Corwen-to-Cynwyd-Afon-Dyfrdwy-Map-scaled.jpg 2560w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Corwen-to-Cynwyd-Afon-Dyfrdwy-Map-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Corwen-to-Cynwyd-Afon-Dyfrdwy-Map-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Corwen-to-Cynwyd-Afon-Dyfrdwy-Map-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Corwen-to-Cynwyd-Afon-Dyfrdwy-Map-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Corwen-to-Cynwyd-Afon-Dyfrdwy-Map-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma ein taith olaf ond un gan ein blogiwr gwadd, Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru.\u00a0 Maent i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein rhan brydferth o&#8217;r byd ychydig yn ddyfnach na hynny. Y tro hwn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":6010,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[339,37,34],"tags":[340,341,276,342,254],"class_list":["post-6014","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-buses-cy","category-activities-cy","category-inspire-me-cy","tag-buses-cy","tag-corwen-cy","tag-juliebrominicks-cy","tag-sustainabletravel-cy","tag-walking-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.1 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Pont Dyfrdwy - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Pont Dyfrdwy - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dyma ein taith olaf ond un gan ein blogiwr gwadd, Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru.\u00a0 Maent i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein rhan brydferth o&#8217;r byd ychydig yn ddyfnach na hynny. Y tro hwn [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-04-10T11:28:36+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-04-10T12:01:05+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Fiona Dolben\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Fiona Dolben\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/\"},\"author\":{\"name\":\"Fiona Dolben\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0\"},\"headline\":\"Pont Dyfrdwy\",\"datePublished\":\"2024-04-10T11:28:36+00:00\",\"dateModified\":\"2024-04-10T12:01:05+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/\"},\"wordCount\":1235,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-scaled.jpg\",\"keywords\":[\"#buses\",\"#corwen\",\"#juliebrominicks\",\"#sustainabletravel\",\"walking\"],\"articleSection\":[\"buses\",\"Gweithgareddau\",\"Ysbrydoliaeth\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/\",\"name\":\"Pont Dyfrdwy - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2024-04-10T11:28:36+00:00\",\"dateModified\":\"2024-04-10T12:01:05+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1920},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Pont Dyfrdwy\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"name\":\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"description\":\"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\",\"name\":\"North East Wales\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"width\":546,\"height\":188,\"caption\":\"North East Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\",\"https:\/\/x.com\/ntheastwales\",\"https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0\",\"name\":\"Fiona Dolben\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Fiona Dolben\"},\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/author\/fiona-dolbendenbighshire-gov-uk\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Pont Dyfrdwy - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Pont Dyfrdwy - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","og_description":"Dyma ein taith olaf ond un gan ein blogiwr gwadd, Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru.\u00a0 Maent i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein rhan brydferth o&#8217;r byd ychydig yn ddyfnach na hynny. Y tro hwn [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/","og_site_name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","article_published_time":"2024-04-10T11:28:36+00:00","article_modified_time":"2024-04-10T12:01:05+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1920,"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Fiona Dolben","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@ntheastwales","twitter_site":"@ntheastwales","twitter_misc":{"Written by":"Fiona Dolben","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/"},"author":{"name":"Fiona Dolben","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0"},"headline":"Pont Dyfrdwy","datePublished":"2024-04-10T11:28:36+00:00","dateModified":"2024-04-10T12:01:05+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/"},"wordCount":1235,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-scaled.jpg","keywords":["#buses","#corwen","#juliebrominicks","#sustainabletravel","walking"],"articleSection":["buses","Gweithgareddau","Ysbrydoliaeth"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/","name":"Pont Dyfrdwy - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-scaled.jpg","datePublished":"2024-04-10T11:28:36+00:00","dateModified":"2024-04-10T12:01:05+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN1977-scaled.jpg","width":2560,"height":1920},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/pont-dyfrdwy\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Pont Dyfrdwy"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","description":"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales","publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization","name":"North East Wales","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","width":546,"height":188,"caption":"North East Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","https:\/\/x.com\/ntheastwales","https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0","name":"Fiona Dolben","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g","caption":"Fiona Dolben"},"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/author\/fiona-dolbendenbighshire-gov-uk\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6014","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6014"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6014\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6018,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6014\/revisions\/6018"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6010"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6014"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6014"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6014"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}