{"id":6076,"date":"2024-04-16T08:13:34","date_gmt":"2024-04-16T07:13:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/coed-clocaenog\/"},"modified":"2024-04-16T08:24:31","modified_gmt":"2024-04-16T07:24:31","slug":"coed-clocaenog","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/","title":{"rendered":"Coed Clocaenog"},"content":{"rendered":"\n<p>Dyma ein taith olaf  gan ein blogiwr gwadd, Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru.\u00a0 Maent i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein rhan brydferth o\u2019r byd ychydig yn ddyfnach na hynny. Y tro hwn\u00a0Coed Clocaenog.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Yn sydyn \u2013 distawrwydd di-dor. Persawr nodwyddau a mwsogl yn dew, a\u2019r awel ysgafnaf yn cusanu croen gwlyb. O\u2019r man hwn \u2013 y pwynt uchaf yng Nghoed Clocaenog \u2013 yng ngorllewin y sir, mae\u2019r golygfeydd ar draws Dyffryn Clwyd at lle mae Bryniau Clwyd yn codi yn y dwyrain yn dwmpathau mawr, brith yn syfrdanol<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-core-group-is-layout-ad2f72ca wp-block-group-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1200\" height=\"900\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2052-1-1200x900.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6073\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2052-1-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2052-1-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2052-1-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2052-1-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2052-1-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Rydw i\u2019n gorffwys yn erbyn cofeb Pincyn Llys a godwyd ym 1830, nid i frolio am frwydr, ond yn hytrach, i ddathlu plannu coedwig goniffer. Torrwyd y coed cyntaf yn byst a thrawstiau i\u2019r ffosydd a phyllau glo yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cyn ailblannu\u2019r goedwig wedyn. Mae newid defnydd o dir yn aml yn achos gofid calon, a hynny\u2019n wir am y coedwigoedd coniffer cynnar \u2013 pan oedd cartrefi a ffermydd yn cael eu meddiannu gan y Comisiwn Coedwigaeth. Collwyd gwlypdir a rhostir.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Yn y cyfamser, cafodd gwahanol gynefinoedd eu creu ac un mamal sydd wedi elwa o Goed Clocaenog yw\u2019r wiwer goch. Symudodd y gwiwerod coch i mewn yn ystod y 1950au i fwydo ar hadau\u2019r coed sbriws Sitca. Mae\u2019r boblogaeth wedi goroesi yno, wedi\u2019i gwarchod yn rhannol rhag gwiwerod llwyd (sy\u2019n cario brech nad oes gan y cochion imiwnedd rhagddi) gan uchder a lleoliad ynysig Coed Clocaenog, wedi\u2019u hamgylchynu i raddau helaeth gan dir amaeth a rhosydd. Gallai poblogaeth gynyddol o felaod y coed, un o ysglyfaethwyr y gwiwerod llwyd sy\u2019n bwyta ar y ddaear ond sy\u2019n gweld y gwiwerod coch yn rhy sionc i\u2019w dal, fod o gymorth. Amser a ddengys.&nbsp; &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Rydych chi\u2019n annhebygol o weld unrhyw wiwerod coch ar y daith hon. Er mor heddychlon yw lleoliad y gofeb (ac nad ydych chi efallai, wrth grwydro lonydd tawel a Choed y Fron Wyllt ar y ffordd, wedi gweld unrhyw bobl eraill o gwbl), dim ond crafu ymyl coedwig eang sy\u2019n ymestyn ymhell i\u2019r gorllewin ydych chi. Mae\u2019r gwiwerod yn cuddio oddi mewn iddi. Ond mae\u2019n braf gwybod nad ydyn nhw\u2019n rhy bell.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1200\" height=\"900\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2052-1200x900.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6069\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2052-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2052-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2052-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2052-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/DSCN2052-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Bws<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn cyrraedd pentref Clocaenog, mae angen i chi archebu\u2019r bws Fflecsi o Ruthun ymlaen llaw. Mae ar gael ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30 a 2.30 felly cadwch y daith hon at ddiwrnod yn ystod yr wythnos. Lawrlwythwch yr ap oddi ar wefan Trafnidiaeth Cymru (www.trc.cymru\/fflecsi) neu ffonio 03002 340300 i archebu. Mae Rhuthun yn cael ei gwasanaethu gan yr X51 o Ddinbych a\u2019r T8 sy\u2019n rhedeg rhwng Caer a Chorwen.<\/p>\n\n\n\n<p>Am fwy o wybodaeth am gludiant cyhoeddus yn Sir Ddinbych, ewch i <a href=\"http:\/\/www.sirddinbych.gov.uk\/cy\/parcio-ffyrdd-a-theithio\/cludiant-cyhoeddus\/cludiant-cyhoeddus.aspx\">www.sirddinbych.gov.uk\/cy\/parcio-ffyrdd-a-theithio\/cludiant-cyhoeddus\/cludiant-cyhoeddus.aspx<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>I gynllunio eich taith, defnyddiwch <a href=\"http:\/\/www.traveline.cymru\/\">www.traveline.cymru\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Cofiwch fod tocyn 1bws am \u00a36.50 yn gadael i chi deithio faint fynnwch chi o amgylch Gogledd Cymru yn defnyddio pob gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cerdded<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae hon yn daith gerdded wych yn yr haf os ydych chi am ddianc rhag yr arfordir prysur a chwilio am gysgod dan y coed \u2013 ond gwell peidio \u00e2\u2019i dewis mewn tywydd poeth iawn gan fod ambell l\u00f4n agored a dringfa serth arni. Mae\u2019n daith 8 milltir si\u00e2p ffigwr wyth o amgylch dau goetir gwahanol; hen goetir hynafol Coed y Fron Wyllt a\u2019r goedwig goniffer wrth gofeb Pincyn Llys. Mae\u2019r ddau ddarn o goetir yn rhan o Goed Clocaenog yn ehangach, a fydd yn y pen draw yn rhan o\u2019r Goedwig Genedlaethol i Gymru ar hyd a lled y wlad. Os ydych chi eisiau haneru\u2019r daith, mae\u2019r bws Fflecsi hefyd yn gwasanaethu Bontuchel ar gyrion Coed y Fron Wyllt. Mae\u2019r ddau goetir wedi\u2019u cysylltu gan lonydd tawel Sir Ddinbych.<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Dewch oddi ar y bws Fflecsi yn arhosfan bysiau pentref Clocaenog a dilynwch y l\u00f4n sydd ag arwydd am Bontuchel, gan fynd heibio i\u2019r ysgol a\u2019r eglwys. Lle mae\u2019r nant yn llifo dan y ffordd, ewch heibio i S\u0175n yr Afon a throi i\u2019r dde ar hyd y l\u00f4n sy\u2019n mynd gydag ymyl Coed Cooper.<\/li>\n\n\n\n<li>Yna, gadael y coed y tu \u00f4l ichi wrth ddal i ddilyn y l\u00f4n a mynd heibio i\u2019r fferm ar y chwith cyn troi i\u2019r chwith wrth y gyffordd. Trowch i\u2019r chwith eto pan mae\u2019r ffordd yn fforchio, gan fynd heibio i Pengalltegfa. Arhoswch ar y ffordd, gan ddilyn arwyddion am Tyddyn Cook.<\/li>\n\n\n\n<li>Ar \u00f4l pasio Tyddyn Cook, dilynwch arwyddion am y Gilffordd sy\u2019n eich arwain i Goed y Fron Wyllt. Mae rhan helaeth o\u2019r coed yn goetir hynafol, sy\u2019n drwch o g\u00e2n yr adar bach a llystyfiant o bob math. Os oes gennych amser a\u2019ch bod eisiau gweld pentref Bontuchel, daliwch i fynd drwy\u2019r coed ac allan ohonynt.<\/li>\n\n\n\n<li>Fel arall, trowch i\u2019r dde a dilyn arwyddion y llwybr. Mae hwn yn goetir mor braf, oni bai bod amser yn brin, mae hi werth dilyn y daith gylchol a\u2019r arwyddion sy\u2019n mynd gyda\u2019r nant. Fel arall, ewch yn syth am y maes parcio.<\/li>\n\n\n\n<li>Wrth adael y coetir, dilynwch Daith Clwyd i fyny lonydd gwledig tawel, serth yr holl ffordd at ymyl Coed Clocaenog, lle gwelwch chi arwyddion am y maes parcio.<\/li>\n\n\n\n<li>Dilynwch yr arwyddion at Gofeb Pincyn Llys, a mwynhewch y golygfeydd godidog. Sylwch eich bod chi bellach wedi gadael llwybr Taith Clwyd ac wedi ymuno \u00e2 Llwybr Hiraethog.<\/li>\n\n\n\n<li>Dewch i lawr yn igam-ogam drwy\u2019r coed coniffer ar Lwybr Hiraethog, a chadw ar y llwybr hwn wrth iddo adael y goedwig a dod \u00e2 chi\u2019n \u00f4l i bentref Clocaenog.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1200\" height=\"861\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Coed-Clocaenog-Map-1-1200x861.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6071\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Coed-Clocaenog-Map-1-1200x861.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Coed-Clocaenog-Map-1-600x431.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Coed-Clocaenog-Map-1-768x551.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Coed-Clocaenog-Map-1-1536x1102.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Coed-Clocaenog-Map-1-2048x1470.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma ein taith olaf gan ein blogiwr gwadd, Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru.\u00a0 Maent i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein rhan brydferth o\u2019r byd ychydig yn ddyfnach na hynny. Y tro hwn\u00a0Coed Clocaenog. Yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":6066,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[339,124,4,34],"tags":[340,344,276,342,254],"class_list":["post-6076","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-buses-cy","category-staycation-cy","category-uncategorized-cy","category-inspire-me-cy","tag-buses-cy","tag-clocaenog-pincynllys-cy","tag-juliebrominicks-cy","tag-sustainabletravel-cy","tag-walking-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.1 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Coed Clocaenog - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Coed Clocaenog - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dyma ein taith olaf gan ein blogiwr gwadd, Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru.\u00a0 Maent i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein rhan brydferth o\u2019r byd ychydig yn ddyfnach na hynny. Y tro hwn\u00a0Coed Clocaenog. Yn [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-04-16T07:13:34+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-04-16T07:24:31+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Clocaenog-Copi-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Fiona Dolben\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Fiona Dolben\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/\"},\"author\":{\"name\":\"Fiona Dolben\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0\"},\"headline\":\"Coed Clocaenog\",\"datePublished\":\"2024-04-16T07:13:34+00:00\",\"dateModified\":\"2024-04-16T07:24:31+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/\"},\"wordCount\":982,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Clocaenog-Copi-scaled.jpg\",\"keywords\":[\"#buses\",\"#clocaenog #pincynllys\",\"#juliebrominicks\",\"#sustainabletravel\",\"walking\"],\"articleSection\":[\"buses\",\"staycation\",\"Uncategorized @cy\",\"Ysbrydoliaeth\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/\",\"name\":\"Coed Clocaenog - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Clocaenog-Copi-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2024-04-16T07:13:34+00:00\",\"dateModified\":\"2024-04-16T07:24:31+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Clocaenog-Copi-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Clocaenog-Copi-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1920},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Coed Clocaenog\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"name\":\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"description\":\"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\",\"name\":\"North East Wales\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"width\":546,\"height\":188,\"caption\":\"North East Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\",\"https:\/\/x.com\/ntheastwales\",\"https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0\",\"name\":\"Fiona Dolben\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Fiona Dolben\"},\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/author\/fiona-dolbendenbighshire-gov-uk\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Coed Clocaenog - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Coed Clocaenog - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","og_description":"Dyma ein taith olaf gan ein blogiwr gwadd, Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru.\u00a0 Maent i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein rhan brydferth o\u2019r byd ychydig yn ddyfnach na hynny. Y tro hwn\u00a0Coed Clocaenog. Yn [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/","og_site_name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","article_published_time":"2024-04-16T07:13:34+00:00","article_modified_time":"2024-04-16T07:24:31+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1920,"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Clocaenog-Copi-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Fiona Dolben","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@ntheastwales","twitter_site":"@ntheastwales","twitter_misc":{"Written by":"Fiona Dolben","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/"},"author":{"name":"Fiona Dolben","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0"},"headline":"Coed Clocaenog","datePublished":"2024-04-16T07:13:34+00:00","dateModified":"2024-04-16T07:24:31+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/"},"wordCount":982,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Clocaenog-Copi-scaled.jpg","keywords":["#buses","#clocaenog #pincynllys","#juliebrominicks","#sustainabletravel","walking"],"articleSection":["buses","staycation","Uncategorized @cy","Ysbrydoliaeth"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/","name":"Coed Clocaenog - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Clocaenog-Copi-scaled.jpg","datePublished":"2024-04-16T07:13:34+00:00","dateModified":"2024-04-16T07:24:31+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Clocaenog-Copi-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Clocaenog-Copi-scaled.jpg","width":2560,"height":1920},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/coed-clocaenog\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Coed Clocaenog"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","description":"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales","publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization","name":"North East Wales","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","width":546,"height":188,"caption":"North East Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","https:\/\/x.com\/ntheastwales","https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0","name":"Fiona Dolben","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g","caption":"Fiona Dolben"},"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/author\/fiona-dolbendenbighshire-gov-uk\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6076","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6076"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6076\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6081,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6076\/revisions\/6081"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6066"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6076"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6076"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6076"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}