{"id":6633,"date":"2024-09-11T09:05:56","date_gmt":"2024-09-11T08:05:56","guid":{"rendered":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/ruthin-by-bus\/"},"modified":"2024-09-11T09:14:50","modified_gmt":"2024-09-11T08:14:50","slug":"ruthin-by-bus","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/","title":{"rendered":"Rhuthun ar y Bws"},"content":{"rendered":"\n<p>Julie Brominicks yn ymweld \u00e2 Rhuthun ar fws.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae tair prif ffordd yn rhannu Sir Ddinbych yn llorweddol \u2013 yr A55 yn y gogledd, yr A5 yn y de a\u2019r A494 trwy\u2019r canol. Mae\u2019r bws hwn yn cymryd y llwybr canol, gan gerfio trwy gadwyn Bryniau Clwyd. Mae Rhuthun a\u2019r Wyddgrug yn swatio yn ardal y bryniau \u2013 mae marchnadoedd anifeiliaid mawr ar gyrion y ddwy dref. Mae\u2019r golygfeydd o\u2019r bws hwn mor odidog \u00e2\u2019r disgwyl. Rwy\u2019n clywed sgwrsio Saesneg yn nhu blaen y bws, a\u2019r merched y tu \u00f4l i mi\u2019n trafod dillad gwau yn Gymraeg. Mae Parc Gwledig Loggerheads yn borth delfrydol i fentro\u2019n araf neu\u2019n egn\u00efol i\u2019r bryniau.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\" id=\"attachment_1935\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"400\" height=\"600\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/871-400x600.jpg\" alt=\"Ruthin Gaol\" class=\"wp-image-1935\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/871-400x600.jpg 400w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/871.jpg 666w\" sizes=\"auto, (max-width: 400px) 100vw, 400px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Carchar Rhuthun <\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Rhuthun<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>A fu anheddiad mwy del erioed? Ar fryn tywodfaen coch (sy\u2019n rhoi\u2019r enw i\u2019r dref \u2013 ystyr rhudd yw coch), mae cyfres ganoloesol o adeiladau ffr\u00e2m pren yn ymestyn o Sgw\u00e2r San Pedr ar hyd strydoedd bob sut. Mae siop wl\u00e2n Wayfarer yn arbennig o hynod. Mae digonedd o siopau te; Becws Islwyn, Chatwins, Teacups a siopau bach fel Rhoda\u2019s Sweets and Tobacco, Ruthin Wholefoods a siop Dillad Dynion Trefor Jones. Yn y cyfamser, mae Stan yn torri cig oen yn siop deuluol Cigydd, Groser a Physgod John Jones a\u2019i Fab, gan dynnu\u2019r lwlod yn ofalus. \u201cMae\u2019n amser i mi ymddeol\u201d meddai\u2019n llawen. \u201cBraf dy weld di, cariad.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan<a href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/newyddion-o-ruthin\/\">&nbsp;Rhuthun<\/a>&nbsp;gymaint o hanes a nodweddion cain, mae\u2019n anodd gwybod lle i ddechrau. Mae bron yn rhyddhad nad ydw i yma ar ddydd Iau, dydd Gwener neu ddydd Sadwrn, oherwydd yn \u00f4l y s\u00f4n, gallwch brynu crefftau coed, gemwaith a m\u00eal gan gynhyrchwyr lleol yn&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-artisan-market\/\">Neuadd y Farchnad ger yr arosfan bysiau.<\/a>&nbsp;Ac fy mod i\u2019n ymweld y tu allan i\u2019r tymor prysur, a methu cael fy nenu gan d\u0177 a gerddi\u2019r bymthegfed ganrif, Nantclwyd-y-dre. A Charchar Rhuthun, a fu\u2019n weithredol rhwng 1654 a 1916, sydd ag iard sy\u2019n debyg i set ffilm (a\u2019r cowbois newydd adael). Mae Afon Clwyd yn llifo\u2019n hudolus y tu \u00f4l i\u2019w waliau. Sawl carcharor fu\u2019n gwrando ar sain ei rhyddid? Mae\u2019r afon yn dawnsio o dan fedwen wedi\u2019i thocio. Gan fy arwain i\u2019r Ganolfan Grefft.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\" id=\"attachment_2039\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1200\" height=\"800\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/NantClwyd2021S-5-1200x800.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6630\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/NantClwyd2021S-5-1200x800.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/NantClwyd2021S-5-600x400.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/NantClwyd2021S-5-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/NantClwyd2021S-5-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/NantClwyd2021S-5-2048x1365.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Nantclwyd y Dre, Ruthin<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Rhuthun Craft Centre<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Canolfan Grefft Rhuthun<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r oriel fodern a phwrpasol hon yn helaeth a golau. Mae\u2019n anodd peidio cerdded yn dawel a sibrwd. Pan af i mewn, mae\u2019r brif stiwdio yn llawn llestri ceramig. Rhai bach ar silffoedd, rhai mawr yn y canol. Mae\u2019n anhygoel.&nbsp; Arddangosfa hardd Adam Buick yw hon; Grounding. Mae pob darn o waith yn sgwrsio \u00e2\u2019r dirwedd. Mae\u2019n gadael rhai yn y glaw cyn eu tanio, neu i gael eu treulio gan dywod yn y gwynt. Mae\u2019n ffilmio rhai eraill yn toddi mewn pyllau creigiau.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n gadael yr oriel mewn hwyliau artistig, felly rwy\u2019n falch bod yr Helfa Gelf a ddechreuwyd yn \u00f4l yn 2014 \u2013 mewn ymgais hynod o lwyddiannus i gysylltu\u2019r Ganolfan Grefft \u00e2\u2019r dref \u2013 yn dal i fynd o nerth i nerth. Dau lwybr sy\u2019n plethu, mewn gwirionedd. Mae un, sy\u2019n cynnwys ffigurau metel bychain o fodau dynol ar ben adeiladau, yn eich annog i werthfawrogi\u2019r toeau arbennig. Mae\u2019r llall yn gyfres o \u2018dyllau ysb\u00efo\u2019 wedi\u2019u gosod mewn waliau.<\/p>\n\n\n\n<p>Blychau i chi sbecian i mewn iddynt yw\u2019r tyllau hyn, i weld chwedl neu gyfnod o hanes lleol wedi\u2019u darlunio a\u2019u goleuo. Mae senotaff ger cofeb rhyfel y dref. Mae mynach Ffransisgaidd (y person olaf i gael ei grogi, diberfeddu a chwarteru, ym 1679) y tu allan i\u2019r carchar. Dyma gelf bach ar raddfa fawr, cipolwg agos ar fyd arall. Mae\u2019n gynnil a perthnasol i\u2019r ardal leol, a dyma\u2019r gelf gyhoeddus mwyaf hyfryd i mi ei gweld erioed. \u201cYdych chi\u2019n chwilio am y bobl bach?\u201d holodd dyn barfog, gan bwyntio at un ar do Neuadd y Farchnad. Mae dwy ddynes yn fy nal i\u2019n edrych ar ddienyddiad yr offeiriad. \u201cWel dyna roi dimensiwn arall i\u2019n taith siopa\u201d meddent. \u201cDim ond galw am sidan brodwaith wnaethon ni.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\" id=\"attachment_879\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1200\" height=\"798\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Ruthin-Craft-Centre-025-1200x798.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6628\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Ruthin-Craft-Centre-025-1200x798.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Ruthin-Craft-Centre-025-600x399.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Ruthin-Craft-Centre-025-768x511.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Ruthin-Craft-Centre-025-1536x1022.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Ruthin-Craft-Centre-025-2048x1363.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Canolfan Grefft Rhuthun<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Castell Rhuthun<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cefais fy hun ar dir y castell ar noson boeth ym mis Awst wrth aros am fws, gan ddisgwyl cael fy hel allan. Wrth gwrs, byddai\u2019r castell wedi bod yn fwy bygythiol yn \u00f4l yn y 13eg ganrif \u2013 pan oedd newydd gael ei adeiladu gan Edward I, gyda chysylltfuriau a chwrt pumochrog a ffos o\u2019i amgylch. Er mai adfeilion sydd yma\u2019n bennaf bellach, mae\u2019r gatiau rhodresgar, yn enwedig yr arwyddion ar gyfer gwesty a sba\u2019r Castell yn ddigon brawychus i rhywun fel fi. Ond mae\u2019r gatiau ar agor. Mae\u2019n debyg bod croeso i bawb grwydro\u2019r gerddi hardd sydd wedi\u2019u tirlunio, a chael diod yn Nhafarn y Ddraig \u2013 boed chi\u2019n aros yma ai peidio.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"2560\" height=\"1707\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/ruthincastle_small-35-scaled.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6624\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/ruthincastle_small-35-scaled.jpg 2560w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/ruthincastle_small-35-600x400.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/ruthincastle_small-35-1200x800.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/ruthincastle_small-35-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/ruthincastle_small-35-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/ruthincastle_small-35-2048x1365.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Castell Rhuthun<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Hen Lys Rhuthun<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhywbeth am Rhuthun sy\u2019n fy nenu i\u2019n \u00f4l i fyny\u2019r bryn tywodfaen, i ganol y dref. Mae dail euraidd yn chwyrl\u00efo y tu allan i Eglwys San Pedr. Mae\u2019r strydoedd canoloesol sy\u2019n arwain i bob cyfeiriad yn olygfa hardd ac mae\u2019r adeiladau\u2019n hyfryd i\u2019w gweld. \u201cSaith Llygad Rhuthun ydi\u2019r un drws nesaf i Wetherspoons\u201d, meddai Roger Edwards, sy\u2019n gwirfoddoli yn yr Hen Lys (sy\u2019n ganolfan gymunedol bellach) ac sydd wedi bod yn cadw golwg am ymwelwyr fel fi wrth eistedd ar y fainc. \u201cMae mewn arddull Iseldiraidd oherwydd cafodd ei adeiladu gan grefftwr lleol a oedd yn gwneud llawer o waith masnachu gyda\u2019r Iseldiroedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Roger yn rhoi taith i mi o\u2019r llys sydd \u00e2 ffr\u00e2m bren. \u201cCawsom arolwg coed-ddyddio\u201d meddai, \u201cfelly rydym yn gwybod bod y trawst hwn wedi\u2019i dorri o\u2019r goeden ym 1427.\u201d Cafodd celloedd y carchar eu troi\u2019n ddaeargelloedd \u2013 banc oedd hwn tan chwe mlynedd yn \u00f4l.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywed Roger ei fod o\u2019n ymddangos yn un o\u2019r tyllau ysb\u00efo \u2013 yr un sy\u2019n dangos bachgen wedi\u2019i amgylchynu gan ddefaid. \u201cGan fy mod i\u2019n gallu cofio porthmyn yn dod i\u2019r dref\u201d meddai. Awn yn \u00f4l allan at y fainc, sy\u2019n edrych dros y gylchfan ar ganol y dref. Dywed Roger nad yw\u2019r gylchfan wedi bod yno\u2019n hir iawn, ac maen nhw am gael gwared arni bellach, ond nid yw\u2019n si\u0175r pam. \u201cRydw i\u2019n cofio cyn iddyn nhw ei gosod hi. Nid oedd unrhyw beth i reoli\u2019r traffig. Byddem ni\u2019n arfer eistedd lle\u2019r ydym ni r\u0175an, gyda\u2019n radios transistor a gwylio\u2019r ceir yn taro\u2019i gilydd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Os oes gennych amser wrth aros am y bws, rwy\u2019n argymell y llyfrgell yn fawr. Mae llyfrgell Rhuthun \u2013 fel rhai eraill yn Sir Ddinbych, yn agored a chroesawgar ac mae\u2019r staff yn barod i helpu.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"2560\" height=\"1707\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Old-Courthouse7-scaled.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6622\" style=\"width:442px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Old-Courthouse7-scaled.jpg 2560w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Old-Courthouse7-600x400.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Old-Courthouse7-1200x800.jpg 1200w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Old-Courthouse7-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Old-Courthouse7-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Old-Courthouse7-2048x1366.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Parc Gwledig Loggerheads<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan y parc wir rhywbeth i\u2019w gynnig i bawb. Os oes awydd seibiant tawel arnoch, ewch i\u2019r ganolfan ymwelwyr, caffi a siop ar lannau tawel Afon Alyn. Os oes awydd mynd am dro bach arnoch, mae llwybrau hygyrch a thir gwyrdd hyfryd \u2013 mae\u2019n lle gwych i gael picnic, i deuluoedd ifanc ac i fynd \u00e2 ch\u0175n am dro.<\/p>\n\n\n\n<p>Ac o fan hyn, gallwch fynd i fyny Moel Famau, neu ymhellach i Fryniau Clwyd, y gadwyn arbennig o fryniau sy\u2019n rhedeg o\u2019r gogledd i\u2019r de rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Neu cadwch at y teithiau hawdd ar hyd Afon Alyn, sy\u2019n fas a brown, ac at Geunant y Cythraul, lle mae dwy wal galchfaen yn cwrdd. Mae creigiau calchfaen yn edrych dros y parc, gan ychwanegu drama wych. Mae calchfaen yn sail iddo hefyd, gan ddylanwadu ar y glaswelltiroedd sy\u2019n gyfoeth o flodau a\u2019r coetir onn cymysg deiliog. Mae\u2019r planhigion ar y creigiau\u2019n cynnwys pig yr aran ruddgoch, cor-rosyn a theim gwyllt, sydd yn eu tro yn cynnal glo\u00ffnnod byw a gwyfynod. Dyma\u2019r creigiau yr oedd yr artist poblogaidd Richard Wilson \u2013 y dywedir yn aml mai ef oedd tad Tirweddau Prydain \u2013 yn arfer eu paentio.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y ganolfan i ymwelwyr, clywir s\u0175n yr olwyn dd\u0175r sydd wedi\u2019i hadnewyddu, wrth iddi droi ar ei dannedd. Ar ddechrau\u2019r bedwaredd ganrif ar bymtheg, byddai grawn yn cael ei falu ym Melin Pentre, a oedd yn pweru melin goed hefyd. Mae\u2019n anodd dychmygu\u2019r llwch a\u2019r s\u0175n ymhlith y tawelwch gwyrdd hwn. Mae\u2019n anoddach fyth dychmygu\u2019r gwaith cloddio plwm a chwarelu a oedd yn digwydd yma. Mae\u2019n ein hatgoffa sut mae tirweddau\u2019n newid o hyd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\" id=\"attachment_1351\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"600\" height=\"399\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/loggerheads-600x399.jpg\" alt=\"Loggerheads Country Park\" class=\"wp-image-1351\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/loggerheads-600x399.jpg 600w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/loggerheads-768x511.jpg 768w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/loggerheads.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Loggerheads Country Park<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>We Three Loggerheads<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r hen dafarn hon o\u2019r ail ganrif ar bymtheg wedi\u2019i hadnewyddu, mae ar agor bob dydd ac mae\u2019n lle gwych i aros am y bws mewn cyfuniad braf o gysur a nodweddion hynafol. Fel y rhan fwyaf o leoedd rwyf wedi bod iddynt yn Sir Ddinbych, rwy\u2019n dod ar draws rhywun lleol cyfeillgar yn syth ac mae ganddo straeon i\u2019w rhannu. \u201cDim ond wedi galw am gwrw ydw i, wedyn dwi\u2019n mynd adref\u201d meddai Paul Maguire. \u201cDwi\u2019n byw yma, yng nghanol y wlad.\u201d Mae dangos hen arwydd y dafarn i mi, sydd bellach wedi\u2019i fframio yn yr ardal fwyta ac wedi\u2019i lofnodi gan yr artist Richard Wilson, sydd wedi\u2019i gladdu y tu \u00f4l i\u2019r Eglwys yn yr Wyddgrug. \u201cYn \u00f4l y s\u00f4n, fe baentiodd hwn i dalu dyled\u201d meddai Paul, \u201cond nid yw hynny\u2019n wir. Rhywun arall wnaeth ei baentio.\u201d Mae\u2019n stori dda serch hynny, ac mae hi\u2019n dafarn dda iawn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Yr Wyddgrug<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n dod i ben fy nhaith gydag arhosiad byr dros y ffin i\u2019r Wyddgrug yn Sir y Fflint. Dim ond dwy awr sydd gen i, ond mae hynny\u2019n ddigon i\u2019m hatgoffa bod yr Wyddgrug yn lle llawn enaid. Rydw i wedi bod yma ar ddiwrnodau marchnad heulog (dydd Mercher a dydd Sadwrn) pan fydd y dref i gyd yn fwrlwm o bobl yn crwydro, sgwrsio a bwyta ymhlith stondinau lliwgar.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid diwrnod felly yw heddiw. Nid yw\u2019r farchnad anifeiliaid wrth yr orsaf bysiau ar agor chwaith. \u201cDydd Llun a dydd Gwener\u201d meddai dyn sy\u2019n golchi lori anifeiliaid. \u201cIe, ac am ddiwrnod ydi hi.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r awyr yn llwyd a\u2019r gwynt yn hyrddio. Mae diwrnodau fel hyn yn fy nghyffroi. Rwy\u2019n cael fy nenu at Eglwys y Santes Fair, sy\u2019n urddasol yn edrych dros y dref. Mae\u2019n gynnes a llydan y tu mewn ac mae\u2019r tawelwch yn ysgafn. Gallaf glywed y curad yn gwichio yn ei gadair. Mae cyfres o ffenestri gwydr lliw yn rhoi caleidosgop rhyfeddol o liw i\u2019r tu mewn, sy\u2019n cyd-fynd \u00e2\u2019r dail ceirios sy\u2019n chwyrl\u00efo\u2019r tu allan.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"450\" height=\"600\" src=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/bailey-hill-450x600.jpg\" alt=\"Bailey Hill\" class=\"wp-image-2769\" srcset=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/bailey-hill-450x600.jpg 450w, https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/bailey-hill.jpg 703w\" sizes=\"auto, (max-width: 450px) 100vw, 450px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Bryn y Beili<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn y cyfamser, ym Mryn y Beili, mae\u2019r gwynt yn taflu dail melyn coeden gastan hynafol enfawr. Bryn y Beili yw\u2019r hyn sy\u2019n weddill o gastell mwnt a beili enfawr. Cafodd gwaith cloddio\u2019r castell ei adeiladu i mewn i ymyl esgair rhewlifol. Mae\u2019n debyg bod y castell wedi\u2019i adeiladu o bren a cherrig, ar ddechrau\u2019r Goncwest Normanaidd. Bellach, gwynt a choed sydd yma. Mae colomennod yn hedfan yn eu plith. Mae cnau ffawydd yn crensian dan draed. Mae jac-dos yn crawcian ac wiwerod yn sgrialu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae siop lyfrau a llyfrgell wych yn yr Wyddgrug. Mae\u2019n dref fywiog a lle da i fod awydd bwyd. Gallwch ddewis o\u2019r Hungry Cow, The Fat Boar, Pound Bakery\u2026 Rwy\u2019n mwynhau cawl blasus yn ffenestr The Gathering, (sy\u2019n cyfeirio mae\u2019n debyg at pan fydd y defaid yn dod i lawr o\u2019r bryniau), yn gwylio\u2019r byd a\u2019i bobl. Yna, yn \u00f4l \u00e2 mi ar y bws.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/tag\/baileyhill\/\">#baileyhill<\/a>,&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/tag\/loggerheads\/\">#loggerheads<\/a>,&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/tag\/mold\/\">#mold<\/a>,&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/tag\/ruthin-castle-ruthin-ruthingaol-ruthincraftcentre-ruthinartstrail-ruthincourthouse-maenhuail\/\">#ruthin castle #ruthin #ruthingaol ~ruthincraftcentre #ruthinartstrail #ruthincourthouse #maenhuail<\/a>,&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/tag\/ruthincourthouse\/\">#ruthincourthouse<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Bws 2 and T8<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Mae Gwasanaeth 2 (M&amp;H Coaches) yn cymryd 56 munud o Rhuthun i\u2019r Wyddgrug, gan fod y llwybr yn dargyfeirio o\u2019r A494 i gynnwys Llanarmon-yn-I\u00e2l, Graianrhyd ac Eryrys.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Yn y cyfamser, mae\u2019r T8 (TrawsCymru) yn glynu i\u2019r A494 ac yn cymryd dim ond 37 munud rhwng Rhuthun a\u2019r Wyddgrug. Mae hwn yn un o lwybrau pellter hir TrawsCymru, ac mae\u2019n rhedeg yr holl ffordd o Gorwen i Gaer.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Mae\u2019r ddau wasanaeth yn gadael Ffordd Wynnstay yn Rhuthun, a Stand 3 yng Ngorsaf Fysiau yr Wyddgrug. Ac mae\u2019r ddau yn galw ym Mharc Gwledig Loggerheads.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/fforiwr-dyfrdwy-t3-trawscymru\/\"><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Julie Brominicks yn ymweld \u00e2 Rhuthun ar fws. Mae tair prif ffordd yn rhannu Sir Ddinbych yn llorweddol \u2013 yr A55 yn y gogledd, yr A5 yn y de a\u2019r A494 trwy\u2019r canol. Mae\u2019r bws hwn yn cymryd y llwybr canol, gan gerfio trwy gadwyn Bryniau Clwyd. Mae Rhuthun a\u2019r Wyddgrug yn swatio yn ardal [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":6621,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[39,339,37,124,43,34],"tags":[],"class_list":["post-6633","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-atyniadau","category-buses-cy","category-activities-cy","category-staycation-cy","category-treftadaeth","category-inspire-me-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.1 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Rhuthun ar y Bws - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Rhuthun ar y Bws - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Julie Brominicks yn ymweld \u00e2 Rhuthun ar fws. Mae tair prif ffordd yn rhannu Sir Ddinbych yn llorweddol \u2013 yr A55 yn y gogledd, yr A5 yn y de a\u2019r A494 trwy\u2019r canol. Mae\u2019r bws hwn yn cymryd y llwybr canol, gan gerfio trwy gadwyn Bryniau Clwyd. Mae Rhuthun a\u2019r Wyddgrug yn swatio yn ardal [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-09-11T08:05:56+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-09-11T08:14:50+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/View-over-Ruthin.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"999\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"750\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Fiona Dolben\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@ntheastwales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Fiona Dolben\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"11 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/\"},\"author\":{\"name\":\"Fiona Dolben\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0\"},\"headline\":\"Rhuthun ar y Bws\",\"datePublished\":\"2024-09-11T08:05:56+00:00\",\"dateModified\":\"2024-09-11T08:14:50+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/\"},\"wordCount\":2134,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/View-over-Ruthin.jpg\",\"articleSection\":[\"Atyniadau\",\"buses\",\"Gweithgareddau\",\"staycation\",\"Treftadaeth\",\"Ysbrydoliaeth\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/\",\"name\":\"Rhuthun ar y Bws - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/View-over-Ruthin.jpg\",\"datePublished\":\"2024-09-11T08:05:56+00:00\",\"dateModified\":\"2024-09-11T08:14:50+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/View-over-Ruthin.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/View-over-Ruthin.jpg\",\"width\":999,\"height\":750},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Rhuthun ar y Bws\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"name\":\"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales\",\"description\":\"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization\",\"name\":\"North East Wales\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg\",\"width\":546,\"height\":188,\"caption\":\"North East Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/\",\"https:\/\/x.com\/ntheastwales\",\"https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0\",\"name\":\"Fiona Dolben\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Fiona Dolben\"},\"url\":\"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/author\/fiona-dolbendenbighshire-gov-uk\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Rhuthun ar y Bws - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Rhuthun ar y Bws - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","og_description":"Julie Brominicks yn ymweld \u00e2 Rhuthun ar fws. Mae tair prif ffordd yn rhannu Sir Ddinbych yn llorweddol \u2013 yr A55 yn y gogledd, yr A5 yn y de a\u2019r A494 trwy\u2019r canol. Mae\u2019r bws hwn yn cymryd y llwybr canol, gan gerfio trwy gadwyn Bryniau Clwyd. Mae Rhuthun a\u2019r Wyddgrug yn swatio yn ardal [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/","og_site_name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","article_published_time":"2024-09-11T08:05:56+00:00","article_modified_time":"2024-09-11T08:14:50+00:00","og_image":[{"width":999,"height":750,"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/View-over-Ruthin.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Fiona Dolben","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@ntheastwales","twitter_site":"@ntheastwales","twitter_misc":{"Written by":"Fiona Dolben","Est. reading time":"11 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/"},"author":{"name":"Fiona Dolben","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0"},"headline":"Rhuthun ar y Bws","datePublished":"2024-09-11T08:05:56+00:00","dateModified":"2024-09-11T08:14:50+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/"},"wordCount":2134,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/View-over-Ruthin.jpg","articleSection":["Atyniadau","buses","Gweithgareddau","staycation","Treftadaeth","Ysbrydoliaeth"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/","name":"Rhuthun ar y Bws - Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/View-over-Ruthin.jpg","datePublished":"2024-09-11T08:05:56+00:00","dateModified":"2024-09-11T08:14:50+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/View-over-Ruthin.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/View-over-Ruthin.jpg","width":999,"height":750},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/ruthin-by-bus\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Rhuthun ar y Bws"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#website","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","name":"Gogledd Ddwyrain Cymru - North East Wales","description":"Things to do, events and holiday ideas in North East Wales","publisher":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#organization","name":"North East Wales","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/newales-home-logo-blue.jpg","width":546,"height":188,"caption":"North East Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/NthEastWales\/","https:\/\/x.com\/ntheastwales","https:\/\/www.instagram.com\/gogledddcymru_northeastwales\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCtuuRbGlGvAArd7X1AC1fLQ"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/ee99713c9a3d74df05b6bd5d347ca2a0","name":"Fiona Dolben","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ed3b5e28c61d130dcde6adc25b4843b33c2860e2c8a3cf03aba4baca53bee810?s=96&d=mm&r=g","caption":"Fiona Dolben"},"url":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/author\/fiona-dolbendenbighshire-gov-uk\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6633","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6633"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6633\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6636,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6633\/revisions\/6636"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6621"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6633"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6633"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.northeastwales.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6633"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}