Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Cyrraedd yma

Rydym yn hawdd i’n cyrraedd, mewn lleoliad cyfleus o’r A55 i’r gorllewin, yr M63 i deithio o’r dwyrain, yr M53 a’r M56 yn mynd i’r gogledd a’r A5 a’r M54 i anelu am y de. Y mae Lerpwl, Manceinion a Birmingham yn llythrennol ddwy awr i ffwrdd, ac hyd yn oed Llundain a Glasgow yn eithaf hwylus.

Bicycle ride through ruthin

Ar y ffordd

Mae Gogledd Ddwyrain Cymru o fewn cyrraedd hawdd o’r rhwydwaith traffyrdd cenedlaethol, ac yn cael ei wasanaethu’n dda gan brif ffyrdd gan gynnwys Gwibffordd yr A55 a llwybr yr A5 o Lundain i Gaergybi. Mae llawer o’n trefi yn cael eu gwasanaethu gan National Express Coaches ac rydym yn cynnig rhwydwaith cludiant cyhoeddus helaeth.

www.nationalexpress.com

Ar y rheilffordd

Mae Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei wasanaethu gan rwydwaith rheilffyrdd mawr, gyda chysylltiadau o Lundain, Caergybi, Caer a Manceinion. Gallwch ddal trên cyflymder uchel i’r rhanbarth ac yna archwilio’r rheilffyrdd llai a gweld y golygfeydd gwych.

www.virgintrains.co.uk
www.nationalrail.co.uk
www.arrivatrainswales.co.uk
www.borderlandsline.com

Ymholiadau National Rail: 08457 48 49 50
Yn Y Gymraeg: 0845 60 40 500

Steam railway
Passenger aircraft

Mewn awyren

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Manceinion a Lerpwl John Lennon llai nag awr yn y car o Ogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r ddau faes awyr yn cynnig cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da i drefi yn y rhanbarth.

www.manchesterairport.co.uk
www.liverpooljohnlennonairport.com