Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Telerau busnes

Mae grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru a’i aelodau gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych, (“gwefan” neu “Berchennog y Wefan” neu “ni” neu “ein”) yn darparu’r wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon neu unrhyw un o’r tudalennau sy’n cynnwys y wefan (“gwefan”) i ymwelwyr (“ymwelwyr”) (y cyfeirit atynt o hyn ymlaen fel “chi” neu “eich”) yn unol â’r telerau ac amodau a nodir yn nhelerau ac amodau’r wefan hon, y polisi preifatrwydd ac unrhyw delerau ac amodau, polisïau a hysbysiadau a allai fod yn berthnasol i adran neu fodiwl penodol o’r wefan hon.

Gwybodaeth ar y wefan

Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y safle hwn yn gywir, nid yw grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru a’i aelodau yn atebol o gwbl am unrhyw gamgymeriadau, gwallau neu am hepgor gwybodaeth ac ni ellir eu hymrwymo mewn unrhyw fodd gan unrhyw wybodaeth a gynhwysir ar y wefan. Mae grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru yn cadw’r hawl i newid neu gau unrhyw ran neu nodwedd o’r wefan hon, unrhyw bryd ac yn ddirybudd. Ni ddylid dehongli unrhyw wybodaeth fel cyngor a chynigir gwybodaeth at bwrpas gwybodaeth yn unig ac nid yw’n fwriad ei ddefnyddio at bwrpas masnachu. Chi a’ch cwmni chi yn unig fydd yn gyfrifol am ddibynnu ar y wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i wall neu hepgoriad, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda.

Dolenni allanol

Mae’n bosib bydd y wefan yn cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti sydd yn cael eu rheoli a’u cynnal gan eraill. Nid yw dolen i wefan arall yn ardystiad o wefannau o’r fath ac rydych yn cydnabod ac yn cytuno nad ydym ni’n gyfrifol am gynnwys nac argaeledd gwefannau o’r fath. Wrt Wrth ymweld â dolenni allanol rhaid i chi gyfeirio at delerau ac amodau defnydd y gwefannau allanol rheiny.

Trydydd parti

Nid yw grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru na’i aelodau yn derbyn unrhyw atebolrwydd am wasanaethau nac adnoddau a ddarperir gan eiddo neu leoliadau a restrir, nag am unrhyw fater sy’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd gyda, neu sy’n codi o gyhoeddi’r wybodaeth yma. Dylech bob amser wirio gydag eiddo neu leoliad ei fod yn gallu cwrdd eich gofynion cyn ei archebu, a dylech wneud yn siŵr eich bod yn deall yr union ffioedd a’r costau’n iawn. Mae unrhyw drefniadau neu drafodaethau rhyngoch chi a’r eiddo neu’r lleoliad ei hun; ni chewch chi na’r eiddo/lleoliad unrhyw fath o gontract ar unrhyw adeg gyda grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru nag unrhyw un o’i aelodau (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych).

Nodau masnach

Nodau masnach cofrestredig ac anghofrestredig grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru yw’r nodau masnach, y logos a’r nodau gwasanaeth (“nodau masnach”) a arddangosir ar y wefan hon. Ni ddylid dehongli unrhyw beth a gynhwysir ar y wefan hon fel bod yn dyfarnu trwydded neu hawl i ddefnyddio nod masnach heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru.

Ymwadiadau a chyfyngiadau atebolrwydd

Caiff y wefan ei darparu ar sail “FEL Y MAENT” a “FEL SYDD AR GAEL” heb unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, pa un a ydynt yn ddatganedig neu’n oblygedig, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i warantau goblygedig ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, heb dor cyfraith, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol o gwbl (gan gynnwys heb gyfyngiadau colli busnes, cyfleoedd, data, elw) sy’n deillio o’r wefan a defnyddio’r wefan. Nid yw grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru yn rhoi sicrwydd o gwbl y bydd swyddogaethau’r wefan yn ddi-dor nac heb wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro na bod y wefan na’r gweinydd sy’n ei redeg yn rhydd o firysau nag unrhyw beth arall a allai fod yn niweidiol neu’n ddinistriol. Ni ellir dehongli unrhyw beth yn y Telerau ac Amodau hyn fel eu bod yn eithrio neu gyfyngu atebolrwydd grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru am farwolaeth neu niwed personol o ganlyniad i esgeulustra grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru neu ei weithwyr neu asiantwyr.

Indemniad

Rydych yn cytuno i indemnio a dal grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru a’i weithwyr a’i asiantwyr yn ddiberyg rhag ac yn erbyn pob atebolrwydd, ffioedd cyfreithiol, colledion, costau a threuliau eraill mewn cysylltiad ag unrhyw hawliad neu weithredoedd a gaiff eu dwyn yn erbyn grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru sy’n codi o unrhyw doriad o’r Telerau ac Amodau hyn gennych chi neu unrhyw atebolrwydd arall sy’n codi o’ch defnydd chi o’r wefan hon.

Toriad

Pe bai unrhyw lys neu awdurdodaeth cymwys yn cael un o’r Telerau ac Amodau hyn yn annilys, anghyfreithiol neu’n anorfodadwy yna bydd y Teler neu’r Amod yn cael ei thorri a bydd y Telerau ac Amodau eraill yn goroesi ac yn parhau’n gwbl weithredol ac yn parhau i fod yn derfynol ac yn orfodadwy.

Gwarantau

Nid yw grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru yn gwneud unrhyw warantau, cynrychiolaethau, datganiadau na sicrwydd (boed hynny’n ddatganedig, yn gyfreithiol oblygedig neu’n weddilliol) ynghylch y wefan, y wybodaeth a gynhwysir ar y wefan, eich gwybodaeth bersonol chi neu wybodaeth eich cwmni neu ddeunydd a gwybodaeth a drosglwyddir dros ein system.

Defnyddio’r wefan

Drwy fynd ar y wefan, rydych yn sicrhau grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru bod gennych hawl cyfreithiol i wneud hynny ac i wneud defnydd o’r wybodaeth sydd ar gael ar y wefan.

Addasu’r wefan

Gall grŵp marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru addasu unrhyw delerau ac amodau, polisïau neu hysbysiadau perthnasol ar unrhyw adeg. O ymweld â’r wefan o dro i dro, rydych yn cydnabod eich bod wedi eich ymrwymo i’r fersiwn gyfredol o’r telerau ac amodau perthnasol (y “fersiwn gyfredol”), a bydd yr holl fersiynau blaenorol yn cael eu disodli gan y fersiwn gyfredol, oni nodir yn y fersiwn gyfredol. Chi fydd yn gyfrifol am adolygu’r fersiwn gyfredol ar y pryd bob tro y byddwch yn ymweld â’r wefan.

Gwrthdaro

Lle bydd unrhyw wrthdaro neu wrthddweud yn ymddangos rhwng darpariaethau telerau ac amodau’r wefan hon ac unrhyw delerau ac amodau, polisïau neu hysbysiadau perthnasol eraill, bydd y telerau ac amodau, polisïau neu hysbysiadau eraill sy’n benodol berthnasol i adran neu fodiwl penodol o’r wefan yn trechu o safbwynt eich defnydd o’r adran neu fodiwl perthnasol o’r wefan.

Sylwadau neu gwestiynau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu bryderon ynghylch y wefan, y polisi preifatrwydd neu unrhyw delerau ac amodau, polisïau neu hysbysiadau perthnasol eraill neu’r ffordd yr ydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.