Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Canllaw i ymwelwyr i’r Rhyl

Gall ymwelwyr, ymwelwyr dydd a phreswylwyr y Rhyl weld gwaith peirianneg gwych tra bod yr amddiffynfeydd arfordirol yn cael eu creu. Mae’r promenâd enwog yn cael ei drawsnewid ac mae’r dref gyfan ar agor i fusnes. Dyma sut i ddod o hyd i’ch ffordd o amgylch a gwneud y mwyaf o’r Rhyl.

Ymweld â Phrestatyn ›

Mae gwaith amddiffyn llifogydd yn cael eu cyflawni ym Mhrestatyn, sy’n  gyrchfan gyfagos i’r Rhyl, er mwyn diwallu heriau’r dyfodol. Dyma sydd angen i chi ei wybod.

Explore the seafront

Archwilio glan y môr

Mae cynllun amddiffynfeydd arfordirol uchelgeisiol y Rhyl yn mynd rhagddo. Ond gallwch dal gyrraedd y traethau – a’r atyniadau gwych ac mae’r llefydd i fwyta ar lan y môr yn agored ac yn croesawu ymwelwyr.

Beaches

Traethau

Mae saith milltir o dywod yn ymestyn yr holl ffordd o’r Rhyl i Brestatyn – ac mae gan y Rhyl bedwar traeth ar ben ei hun. Dyma bopeth y byddwch angen gwybod amdano i’w cyrraedd a’r cyfleusterau hanfodol gerllaw.

Attractions

Atyniadau

Mae digon o bethau i weld ac i wneud ar y promenâd – mae parc dŵr gwych, acwariwm ar lan y môr, sinema o’r radd flaenaf a theatr gyda 1,000 o seddi. Dyma rai o’r uchafbwyntiau.

Walking and cycling

Cerdded a beicio

Mae promenâd y Rhyl yn uchafbwynt i ddau lwybr arwyddocaol – un i feicwyr ac un i gerddwyr. Bydd y dargyfeiriad yn ychwanegu ychydig o fedrau i’r daith ond ni fydd yn amharu ar y profiad o gwbl.

Places to eat

Lleoedd i Fwyta

O fwydydd y byd i bysgod a sglodion traddodiadol neu ginio rhost mewn tafarn ar lan y môr. Mae rhywbeth yn y Rhyl i bob blas a chyllideb gyda lleoedd gwych ar gyfer pryd o fwyd i’r teulu neu swper cyn mynd i’r theatr.

Places to stay

Llefydd i aros

Does dim modd gweld popeth yn y Rhyl mewn diwrnod yn unig – felly bydd rhaid i chi archebu gwely am noson neu ddwy. Mae pob math o lety yn y dref, o westai glan môr modern i Wely a Brecwast, bythynnod hunanarlwyo a safleoedd carafán statig a symudol.

Funded by Denbighshire County Council, Balfour Beaty and Welsh Government