Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

< Canllaw i ymwelwyr i’r Rhyl

Ymweld â Phrestatyn

Mae gwaith amddiffyn llifogydd yn cael eu cyflawni ym Mhrestatyn, sy’n chwaer gyrchfan i’r Rhyl, er mwyn diwallu heriau’r dyfodol. Dyma sydd angen i chi ei wybod.

Mae cyrchfannau Rhyl a Phrestatyn wedi eu cysylltu gan saith milltir o dywod aur ac maent wedi bod yn croesawu ymwelwyr ers i’r trenau gyrraedd yng nghanol y 19eg ganrif.

Mae gan bob tref ei ddilynwyr ffyddlon, teuluoedd sy’n dychwelyd bob blwyddyn ar gyfer cymysgedd hudol o hwyl glan môr traddodiadol ac atyniadau o’r radd flaenaf megis Canolfan Nova Prestatyn a pharc dŵr SC2 y Rhyl.

Ond mae digon o bobl yn mwynhau cael blas ar y ddwy gyrchfan. Felly os ydych yn ymweld â’r Rhyl ond awydd cerdded neu feicio i Brestatyn, yna rydych angen gwybod am Gynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn.

Mae’r amddiffynfeydd presennol ym Mhrestatyn yn tua 70 oed ac mae perygl gallent fethu yn y 30 mlynedd nesaf, sy’n fygythiad i fwy na 2,000 o eiddo. Mae gwaith newydd yn mynd rhagddo i greu arglawdd daear anferth ychydig tu ôl yr amddiffynfeydd blaen, yn dilyn ffin Clwb Golff y Rhyl. Mae’r ramp concrit presennol i’r traeth yn cael ei ymestyn a’i amddiffyn hefyd.

Mae’n golygu bydd y promenâd rhwng Garford Road ar ochr orllewinol y cwrs golff a Green Lanes ar ochr ddwyreiniol yn cau tan fis Medi 2023. Disgwylir bydd y promenâd yn cau eto rhwng mis Medi a Rhagfyr 2024. Dylai’r cynllun yma, sy’n werth £25 miliwn, gael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2025.

Ar hyn o bryd gallwch dal gyrraedd y traeth yn Garford Road neu ar hyd llwybrau troed drwy ganol cwrs golff y Rhyl ac o ddiwedd Green Lanes. Mae Balfour Beatty, y contractwyr wedi cyflogi marsial traeth i gadw’r cyhoedd yn ddiogel a bydd y rhan fwyaf o’r traeth ar agor drwy gydol y prosiect.