Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Dinas Bran Castle, Clwydian Range and Dee Valley AONB

AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mae’r AHNE bron â chyffwrdd yr arfordir ym Mynydd Prestatyn yn y gogledd ac yn ymestyn tua’r de cyn belled â Moel Fferna, pwynt uchaf yr AHNE, sy’n 630 metr o uchder ac yn ymestyn dros 390 cilomedr sgwâr o fryniau gwyntog, gweundiroedd grug, clogwyni calchfaen a dyffrynnoedd coediog.

Cadwyn amlwg o fryniau wedi’u lapio mewn clogynnau o rug porffor ac wedi’u coroni â rhai o fryngaerau hynodaf Prydain yw Bryniau Clwyd. Copa talaf y gadwyn yw Moel Famau, sy’n 554 metr o uchder ac yn gyfarwydd iawn i drigolion y Gogledd Orllewin. Ar ben Moel Famau saif Twr y Jiwbilî ac oddi yno ceir golygfeydd godidog sy’n ymestyn dros un sir ar ddeg.

Boat across Pontcysyllte aqueduct
Boat across Pontcysyllte aqueduct

Y tu hwnt i Fwlch yr Oernant, dros fynydd Llandysilio, gorwedda Dyffryn Dyfrdwy yn ei ogoniant ac yma y saif Llangollen hanesyddol, y dref farchnad enwog sy’n gyfoeth o dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol.

Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa’n croesi’r dirwedd neilltuol hon sydd, o holl dirweddau harddaf Prydain, yn un o’r lleiaf adnabyddus ond er hynny’n un o’r mwyaf croesawus a’r hawsaf i’w harchwilio.

O fewn yr AHNE mae amrywiaeth o atyniadau treftadaeth arbennig i’w darganfod: ar gopaon mynyddoedd Clwyd a Llandysilio saif cadwyn o fryngaerau Oes yr Haearn; yn Nyffryn Dyfrdwy ceir Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte, Abaty Glyn y Groes, Castell Dinas Brân a’r gaer ganoloesol ysblennydd – Castell y Waun.

Plas Newydd
Plas Newydd

Tirwedd fyw â diwylliant Cymraeg nodedig yw hon lle pery’r hen draddodiadau a’r cysylltiad clos â’r tir, ac mae llawer o ddigwyddiadau lleol megis sioeau ac eisteddfodau’n pwysleisio’r berthynas arbennig hon.