Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Teithio Cyfrifol

Mae Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnig popeth y mae twristiaid yn ei werthfawrogi: tirweddau trawiadol, bywyd gwyllt, hanes, diwylliant a phobl. Dyma pam bod ymwelwyr wedi bod yn dod i Sir Ddinbych ers canrifoedd.

Gall twristiaeth fod yn gatalydd ar gyfer twf yn yr economi leol. Gall wella ein ffordd o fyw a helpu i ddiogelu’r byd naturiol ac adeiledd ein treftadaeth.

Felly gall yr hyn sy’n dda i ymwelwyr fod yn dda i bawb yng ngogledd ddwyrain Cymru. Ond mae’n rhaid i ni sicrhau bod pobl leol yn cael budd o economi ymwelwyr ffyniannus, a’u bod yn gyfforddus â hi.

Loggerheads Country Park
Loggerheads

Mae hyn i gyd yn golygu sicrhau cydbwysedd rhwng croesawu ymwelwyr a chadw’r holl nodweddion sy’n ein gwneud ni mor arbennig. Gall twristiaeth fod yn rhywbeth cadarnhaol iawn. Ond mae’n rhaid ei rheoli’n ofalus. Uwchlaw popeth, mae’n rhaid iddi fod yn gynaliadwy.

Mae teithio’n gyfrifol yn teimlo’n dda ond mae hefyd yn helpu i gynnal y gymuned leol, lleihau ôl-troed carbon ein teithiau ac yn darparu profiad teithio llawer mwy ystyrlon, cyfoethog a chofiadwy. Mae ein hardal yn ysbrydoli ffyddlondeb a chariad. Wrth i ymwelwyr archwilio ein cefn gwlad, mynychu ein gwyliau, clywed y Gymraeg neu fwynhau ein bwyd a’n diod, nid dim ond cael eu hysbrydoli i ddychwelyd y maen nhw. Maen nhw’n dechrau malio go iawn. Mae ein diwylliant arbennig a’n hiaith fyw yn ffynhonnell o gryfder i bobl Cymru. Mae arnom ni eisiau i ymwelwyr deimlo’r egni hwn, ac i ddiwylliant Cymru a’i hiaith gyfoethogi eu profiadau.

Beth ydi twristiaeth gyfrifol?

Sicrhau bod ymwelwyr yn troedio’n ysgafn heb adael unrhyw ôl, yn deall y Cod Cefn Gwlad a sut i gadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel a Mentro’n Gall, pa un ai ydyn nhw’n archwilio’r wlad neu wrth ymyl y dŵr.

Lleihau’r effaith ar yr hinsawdd a’r amgylchedd drwy hyrwyddo’r defnydd o gludiant mwy cynaliadwy a cheisio sicrhau busnesau mwy gwyrdd.

Cynnig profiadau go iawn i ymwelwyr drwy roi cyfle i bobl gymryd rhan yn y gymuned leol a phrofi ein diwylliant, iaith, treftadaeth a bwyd a diod.

Darparu twristiaeth gynhwysol a rhoi cyfle i bobl o bob gallu ac o bob cefndir fwynhau Sir Ddinbych.

Y Cod Cefn Gwlad

Y Cod Cefn Gwlad ydi’ch canllaw chi i’r awyr agored.

Darganfod mwy

Mentro’n Gall – sut i fod yn ddiogel

Mae gan AdventureSmart UK yr holl atebion sydd eu hangen arnoch i gael hwyl a bod yn ddiogel wrth archwilio gogledd ddwyrain Cymru.

Darganfod mwy

Diogelwch Dŵr

Anogwch eich cwsmeriaid i fentro’n gall pan fyddan nhw’n archwilio ein harfordir.

Darganfod mwy

Teithio Cynaliadwy

Mae teithio cynaliadwy’n golygu symud o gwmpas mewn ffordd sydd ddim yn difrodi’r amgylchedd, yr hinsawdd na chymunedau lleol.

Darganfod mwy

Y Gymraeg

Does dim rhaid i chi deithio ymhell yn Sir Ddinbych i glywed rhythmau hyfryd y Gymraeg. Mae’n rhan arbennig o’r profiad cyffredinol i’ch ymwelwyr.

Darganfod mwy