Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

< Teithio Cyfrifol

Diogelwch Dŵr

Anogwch eich cwsmeriaid i fentro’n gall pan fyddan nhw’n archwilio ein harfordir.

Pob blwyddyn mae’r RNLI yn achub cerddwyr ar hyd a lled yr arfordir – pobl nad oedden nhw wedi bwriadu gwlychu ond a gawson nhw eu dal allan gan y llanw.

Prestatyn Beach

Mae uchder ac amser y llanw yn amrywio ar hyd yr arfordir ac yn newid yn ddyddiol. Ond er bod ganddyn nhw enw drwg am fod yn anrhagweladwy, mae’r llanwau mewn gwirionedd yn dilyn amserlen sy’n fwy dibynadwy nag ambell i drên! Gallwch wirio amser y llanw yn y lleoliad rydych chi’n bwriadu mynd iddo drwy fynd i wefan gwych https://www.tidetimes.org.uk.

Peidiwch â mynd at ymylon clogwyni

Yn y gaeaf, gwyliwch y tonau o bell – gall hyd yn oed 15cm o ddŵr eich bwrw oddi ar eich traed.

Os oes arnoch chi awydd nofio yn y môr, os yn bosibl, dewiswch draeth gydag achubwr bywydau a nofiwch rhwng y baneri coch a melyn.

Gall hyd yn oed awel ysgafn o’r tir i’r môr eich sgubo o’r lan, felly peidiwch â defnyddio eitemau wedi’u pwmpio ar yr arfordir.

Os oes arnoch chi eisiau archwilio’r arfordir ar badlfwrdd neu gaiac, mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod sut i fod yn ddiogel – gwiriwch ganllawiau Mentro’n Gall i fwynhau mynd ar badlfwrdd neu gaiac yn ddiogel.

Os ydych chi’n gweld rhywun mewn trafferth, peidiwch â cheisio ei achub eich hun. Ewch i ddweud wrth achubwr bywydau neu, os nad ydych chi’n gallu gweld un, ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau.

Mae’r RNLI yn apelio am fusnesau i fod yn llysgenhadon lleol. Cofrestrwch er mwyn cael mynediad i ddeunydd ac adnoddau diogelwch i chi eu rhannu ar eich eiddo a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.