Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Datganiad hygyrchedd ar gyfer

www.northeastwales.wales

Am y wefan hon

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Bartneriaeth Ardaloedd Marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • Chwyddo’r sgrin hyd at 300% gwaith yn fwy heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • Gwe-lywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Gwe-lywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar ran fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin

Rydym hefyd wedi gwneud testun ein gwefan mor syml â phosibl i’w ddeall, ac wedi defnyddio cynlluniau cyson i osgoi cymhlethdod.

Mae gan Ability.Net gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd
Mae hon yn wefan allanol a bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr newydd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn hollol hygyrch.

  • Nid yw’r cynnwys a’r ymarferoldeb a ddarperir gan gyflenwyr trydydd parti yn hollol hygyrch.
  • Nid yw rhai o’n ffurflenni ar-lein yn hollol hygyrch.
  • Nid yw rhan fwyaf o hen ddogfennau PDF yn hollol hygyrch i dechnoleg gynorthwyol.
  • Mae mapiau rhyngweithiol yn anodd i’w llywio wrth ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Nid yw mapiau rhyngweithiol yn cynnwys labelu botymau neu gyferbynnedd lliw digonol

Gwybodaeth adborth a chyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras neu hawdd ei ddarllen, cysylltwch â ni:

E-bost: twristiaeth@sirddinbych.gov.uk

Ffoniwch: 01824 706223

Ewch i / Ysgrifennwch at:
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ

Os oes arnoch angen cyfeiriadau, mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost atom.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 10 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd yn ymwneud â’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn gweld unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon, neu os oes gennych unrhyw awgrym o ran sut y gallwn wella hygyrchedd ar y wefan hon, cysylltwch â Thîm Twristiaeth Sir Ddinbych ar 01824 706223.

Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS). (www.equalityadvisoryservice.com)

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw a’r eithriadau sydd wedi’u rhestru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfiaeth gyda’r canllawiau hygyrchedd:

  • Nid yw rhai lluniau yn cynnwys dewis testun cyfatebol. Rydym yn bwriadu ychwanegu dewis testun cyfatebol i bob llun erbyn 1 Ionawr 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein lluniau yn bodloni safonau hygyrchedd.
  • Nid yw rhai ardaloedd o gyferbyniadau lliw yn bodloni’r gofynion hygyrchedd. Rydym yn bwriadu addasu cyferbyniadau lliw i fodloni safonau hygyrchedd erbyn 1 Ionawr 2021.

Baich anghymesur:

  • Nid yw rhai o’n dogfennau Word a PDF yn bodloni safonau hygyrchedd. Wrth ystyried a allwn ddarparu’r wybodaeth mewn fformat hygyrch, byddwn yn asesu’r canlynol:
    • faint fyddai’r gwaith yn ei gostio a’r effaith y byddai cyflawni’r gwaith yn ei chael arnom
    • faint fyddai defnyddwyr ag anabledd yn elwa o wneud y gwaith
  • Nid yw rhai meddalwedd trydydd parti yn bodloni safonau hygyrchedd. Rydym yn bwriadu gweithredu diweddariadau hygyrchedd cyn gynted ag y maent ar gael gan y datblygwr.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae’r wefan hon yn destun gwelliannau hygyrchedd ar hyn o bryd, a bydd Datganiad Hygyrchedd wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2021.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 22 Ebrill 2022. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ar 21 Mai 2022.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 21 Mai 2022. Cynhaliwyd y prawf gan Artychoke.

Fe ddefnyddiom y dull hwn i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi: Trawstoriad o fathau gwahanol o dudalennau, gyda lefel uchel o brysurdeb ar y wefan.