Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ymwelwch â Gogledd Ddwyrain Cymru

Ble i ddechrau? Gallwch hedfan rhywle draw dros yr enfys mewn balŵn aer poeth. Gallwch chwilio am ddreigiau mewn coedwigoedd hudol. Neu siopa am gaws yn un o’n gwyliau bwyd. Beth bynnag sy’n mynd â’ch pryd chi – byddwch yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth at ddant pawb yma.

A oes arnoch chi eisiau gweld cestyll? Mae ein cornel ni o Gymru yn frith o gestyll a adeiladwyd gan Edward I. Mae castell Dinbych yn hyfryd – fel cacen briodas yn toddi. Bywyd gwyllt? Mae gennym ni farcudiaid, mae gennym ni Adar Dŵr ecsotig, mae gennym ni ddyfrgwn – a hyd yn oed lamas a moch boliog ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr. Ac os ydych chi’n mwynhau ymweld ag eglwysi, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld ag Eglwys yr Holl Seintiau, Gresffordd. Yn ôl y sôn, mae unrhyw waith pensaernïol yn adleisio cerddoriaeth, ac os yw hynny’n wir, mae Hen Wlad fy Nhadau yn atseinio’n glir drwy Eglwys yr Holl Seintiau.

Dysgu mwy am:

Sir y Flint
Wrecsam
Sir Ddinbych
Ble i aros

Denbigh Castle
Denbigh Castle
Welsh burger

Blasu’r Rhyfeddod! Mwynhau’r ddrama!

Cig oen Cymreig ffres o Fryniau Clwyd. Brithyll ffres, wedi’i fachu yng Nheiriog. Cwrw o’r goedwig. Ac mae amrywiaeth o lefydd i fwyta yma, o blas mawreddog i gaffi bychan mewn tref wledig wedi’i hamgylchynu gan ffermwyr sy’n dod lawr i’r bryniau ar gyfer diwrnod y farchnad. Mae bistros crand yn Wrecsam a Rhuthun. ‘Fyddwch chi byth yn teimlo’n llwglyd yn ein tafarndai amryfal chwaith – mae bob un ohonynt yn hynod gyfeillgar. Ac os ydych chi ffansi noson o wledda a drama – beth am fynd i wylio sioe a mwynhau gwledd arbennig yn Clwyd Theatr Cymru, yr Wyddgrug. Mae’n noson allan wych – ac mae cynyrchiadau ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Os ydych chi yma am ychydig ddyddiau, gallwch fwynhau cynllun prysur a llawn hwyl. Os nad ydych yn llwyddo i weld a gwneud popeth ar eich cynllun, byddem wrth ein boddau yn eich croesawu chi’n ôl rhywbryd eto. O Ddyfrbont Pontcysyllte a Chamlas Llangollen, i Fryniau Clwyd. O’r siopau poblogaidd yn Wrecsam, i siopau llai sy’n gwerthu cynnyrch lleol yn yr Wyddgrug. Ac mae Llangollen yn dref hyfryd hefyd, lle mae Cymru’n croesawu’r byd. Cestyll, arfordir a choedwigoedd. Rydym ni’n eithaf sicr y bydd arnoch chi eisiau ymweld mwy nag unwaith.