Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

< Teithio Cyfrifol

Y Cod Cefn Gwlad

Y Cod Cefn Gwlad ydi’ch canllaw chi i’r awyr agored. Pa un ai ydych chi yng nghefn gwlad, yn mwynhau’r arfordir, ein dyfroedd neu mewn parc gwledig, mae’r cod yno i’ch tywys chi drwy fyd natur.

Moel Famau

Y mantra ydi Parchu – Diogelu – Mwynhau:

Parchwch bawb

  • Byddwch yn ystyriol o’r rhai sy’n byw yng nghefn gwlad, yn gweithio ynddo ac yn ei fwynhau.
  • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw
  • Peidiwch â rhwystro mynediad i giatiau neu dramwyfeydd wrth barcio.
  • Byddwch yn gyfeillgar, dywedwch helo, rhannwch y lle.
  • Dilynwch arwyddion lleol a chadwch at lwybrau wedi’u marcio oni bai bod mynediad ehangach ar gael.
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth effeithiol ac, os ydych chi’n ansicr, cadwch nhw ar dennyn. Cymerwch y llwybr mwyaf diogel o amgylch anifeiliaid fferm, yn enwedig os oes ganddyn nhw anifeiliaid ifanc. Os oes gwartheg yn mynd ar eich ôl, gollyngwch y tennyn er mwyn i chi a’ch ci fynd i le diogel.

Gofalwch am yr amgylchedd

  • Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi – peidiwch â gadael unrhyw ôl o’ch ymweliad.
  • Cymerwch ofal gyda barbeciws a pheidiwch â chynnau tân.
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth a chadwch olwg arnyn nhw bob amser.
  • Baw cŵn – rhowch ef mewn bag ac mewn unrhyw fin gwastraff cyhoeddus.
  • Gofalwch am natur – peidiwch ag achosi difrod nac aflonyddwch.

Mwynhewch yr awyr agored

  • Gwiriwch eich llwybr ac amodau lleol.
  • Cynlluniwch eich antur – sicrhewch eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl a beth fedrwch chi ei wneud.
  • Mwynhewch eich ymweliad, crëwch atgof.

Wales Coastal PathDilynwch lwybrau diffiniedig, nodwyr llwybrau neu fapiau. Dysgwch arwyddion a symbolau cefn gwald, gan gynnwys y rhai ar gyfer llwybr troed cyhoeddus, llwybr ceffylau cyhoeddus, cilffordd gyfyngedig, cilffordd agored i bob traffig, Llwybr Cenedlaethol, Llwybr Arfordir Cymru, tir mynediad agored a llwybr caniataol.

Cadwch at y llwybr i osgoi difrodi neu erydu’r llwybr.

Dyna’r fersiwn fer o’r Cod Cefn Gwlad. Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i weld fersiwn lawn, sy’n llawn awgrymiadau defnyddiol.