Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

< Teithio Cyfrifol

Mentro’n Gall – sut i fod yn ddiogel

Mae ar arbenigwyr Mentro’n Gall eisiau i bobl wneud y penderfyniadau cywir i sicrhau eu bod yn cael antur bleserus a diogel, beth bynnag y gweithgaredd. Anogwch eich ymwelwyr i ofyn tri chwestiwn hanfodol i’w hunain.

  1. Ydw i’n ffyddiog bod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod?
  2. Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd?
  3. Oes gen i’r offer cywir?

Mae gan AdventureSmart.uk yr holl atebion sydd eu hangen arnoch i gael hwyl a bod yn ddiogel wrth archwilio gogledd ddwyrain Cymru.

Aventure Smart

Ydw i’n ffyddiog bod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod?

Mae Mentro’n Gall yn golygu meddwl am eich profiadau a’ch sgiliau eich hun, a phrofiadau a sgiliau’r bobl sydd efo chi. Cofiwch gynllunio ar gyfer yr aelod lleiaf abl o’ch grŵp; mae’n syniad da troi’n ôl neu ddewis llwybr gwahanol os ydi’r amodau’n mynd yn heriol. Mae dewis gweithgareddau rydych chi’n gwybod sydd o fewn eich gallu yn rhan o’r hwyl – ac os oes arnoch chi eisiau gwneud rhywbeth i’ch herio, mae yna ddigon o ffyrdd i ganfod arweinydd neu hyfforddwr i’ch helpu chi.

Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd?

Mae’r tywydd yn gallu gwneud neu sbwylio’ch diwrnod. Ond dydi hynny ddim yn golygu bod yn rhaid i ychydig bach o law neu hyd yn oed dymestl ein hatal ni rhag cael amser da. Mae paratoi a gallu addasu eich cynlluniau yn allweddol i reoli eich diwrnod. Gwiriwch y rhagolygon tywydd – mae’r Swyddfa Dywydd yn fan cychwyn da.

Oes gen i’r offer cywir?

Os ydi hynny wedi’ch annog chi i ofyn ‘beth ydi’r offer cywir?’ yna mae arnoch chi angen help! Does dim rhaid i’r offer fod yn ddrud ond mae’n rhaid iddo eich cadw chi’n gynnes ac yn sych. Os ydi’ch antur yn cynnwys mynd ar ddŵr, yna mae cymorth arnofio sy’n ffitio ac mewn cyflwr da yn hanfodol.

Helpwch i ledaenu’r gair

O’r dechrau un, pan fydd pobl yn dechrau ymchwilio i’w gweithgaredd, trwy’r broses archebu a hefyd yn ystod eu hymweliad, mae arnom ni eisiau iddyn nhw barhau i weld negeseuon Mentro’n Gall.

Os ydych chi’n rhedeg eich busnes eich hun, beth am fanteisio ar becyn gwaith Mentro’n Gall? Mae’n llawn delweddau parod, ffilmiau a phosteri ar gyfer eich cyfryngau cymdeithasol, gwefan, negeseuon e-bost cadarnhau a’ch eiddo.